Coedwig Crychan – Halfway, ger Llanymddyfri

Beth sydd yma

Croeso

Un o’n meysydd parcio yng Nghoedwig Crychan yw Halfway.

Mae’n hawdd dod o hyd iddo. Mae wedi’i leoli oddi ar yr A40, ychydig filltiroedd o Lanymddyfri, ac mae’n lle delfrydol i ymestyn eich coesau.

Ceir yno ddau lwybr cerdded ag arwyddbyst, ac mae’r ddau yn dilyn y nant.

Ceir meinciau picnic o amgylch y maes parcio ac wrth yr afon.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Nant y Dresglen

  • Gradd: Hawdd
  • 1¼ milltir/2.1 kilometres
  • Amser: 45 muned

Llwybr cylch yw Llwybr Nant y Dresglen sy’n ymdroelli drwy’r coed heb byth fynd yn bell o ddyfroedd Nant y Dresglen.

Llwybr Melin y Glyn

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2¼ milltir/3.6 cilomedr
  • Amser: 1½ awr

Dilynwch hen ffordd wledig ar hyd ochr orllewinol y dyffryn cyn cyrraedd pont ffordd y goedwig ym Melin y Glyn.

Roedd melin yma flynyddoedd maith yn ôl ond does dim olion i’w gweld heddiw.

Dychwelwch ar hyd trac trwy'r coed ac ar hyd ffordd y goedwig.

Coedwig Crychan

Mae maes parcio Halfway wedi’i leoli yng Nghoedwig Crychan.

Lleolir Coedwig Crychan mewn cefn gwlad hardd rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria, ac mae’n frith o hen lwybrau a arferai gysylltu’r ffermydd a geid yno ers talwm.

Yn y 1930au, aeth y Comisiwn Coedwigaeth ati i brynu’r ffermydd a’r tir a phlannu coed yma fel rhan o ymdrech y DU i ailgyflenwi stociau pren a oedd wedi edwino yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Erys ambell annedd adfeiliedig, ac efallai y dewch ar eu traws yn ystod eich taith.

Mae’r goedwig yn cynnwys derw, ynn, ffawydd, coed cyll a chonwydd, ac mae’r lliwiau’n amrywio gan ddibynnu ar y tymor – o lesni cylchau’r gog yn y gwanwyn i arlliwiau euraid yr hydref.

Y dyddiau hyn, mae’r safle’n darparu pren gwerthfawr ac mae’n gartref i fywyd gwyllt amrywiol.

Mae gweilch Marthin, bwncathod a barcutiaid yn nythu yma, ac efallai y gwelwch gip ar iwrch.

Yn ogystal â’r llwybrau cerdded sy’n arwain o Halfway, ceir llwybrau cerdded sy’n arwain o dri maes parcio arall yng Nghoedwig Crychan, sef:

Maes parcio Halfway yw’r rhwyddaf i’w gyrraedd o blith y rhain ac fe’i lleolir oddi ar yr A40, ychydig filltiroedd o Lanymddyfri.

Lleolir meysydd parcio Brynffo, Fferm Cefn ac Esgair Fwyog ar is-ffyrdd oddi ar yr A483 rhwng Llanymddyfri a Llanfair-ym-Muallt.

Marchogaeth yng Nghoedwig Crychan

Ceir mynediad agored ar gyfer marchogaeth ceffylau trwy Goedwig Crychan.

Ein meysydd parcio yng Nghoedwig Crychan yw’r man cychwyn ar gyfer milltiroedd lawer o lwybrau ceffylau ar hyd ffyrdd coedwigaeth a hen draciau.

Mae yna hefyd lwybrau byr sy’n ymuno â Llwybr Epynt, llwybr ceffylau 50 milltir o hyd o amgylch terfynau ardal hyfforddiant milwrol Pontsenni.

Mae’r cyfleusterau ar gyfer marchogion yn ein meysydd parcio yn cynnwys corlannau a rheiliau rhwymo.

Mae meysydd parcio Halfway a Brynffo yn fwy addas ar gyfer bocsys ceffylau.

Ceir mynediad ar gyfer gyrwyr car a cheffyl ym maes parcio Brynffo.

I gael rhagor o wybodaeth am farchogaeth yng Nghoedwig Crychan, edrychwch ar wefan Cymdeithas Coedwig Crychan.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae maes parcio Halfway 5 milltir i’r dwyrain o Lanymddyfri.

Mae'n ymestyn ar draws ffiniau Sir Powys a Sir Gaerfyrddin.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae maes parcio Halfway ar fap Explorer 187 a OL 12 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 835 330.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A40 o Lanymddyfri tuag at Aberhonddu.

Ar ôl 5 milltir, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwydd brown a gwyn am Lwybrau Coedwig Crychan.

Dilynwch y trac cerrig byr di-ddosbarth i'r maes parcio Halfway.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanymddyfri.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf