Coedwig Caeo, ger Llanymddyfri

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coedwig Caio yn cynnwys nifer o goetiroedd conifferaidd sy’n ymestyn dros yr ucheldir, fry uwchben pentref hanesyddol Caio yn Sir Gaerfyrddin.

Mae tair o deithiau cerdded cylchol wedi eu harwyddo o’r maes parcio a milltiroedd lawer o ffyrdd a llwybrau drwy’r goedwig.

Mae’r llecyn picnic bychan mewn llannerch, yn union dros yr afon o’r maes parcio.

Gerllaw mae ystâd Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle ceir llwybrau cerdded a gwaith aur Rhufeinig sy’n agored i ymwelwyr.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Rhodfa Pont Annell

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1 milltir/1.7 cilomedr
  • Amser: 45 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr cylchol sy’n bennaf yn dilyn dwy ffordd weddol wastad drwy’r goedwig. Llwybr glaswelltog i lawr at lecyn gyda bwrdd picnic. I barhau ar y llwybr cylchol, mae grisiau i fyny o’r llecyn at y ffordd. Er mwyn osgoi’r grisiau, gallwch ddilyn y llwybr yn ôl i'r maes parcio.

Mae’r llwybr dymunol hwn drwy’r goedwig yn croesi pont dros y nant at fwrdd picnic yn y llannerch.

""

Rhodfa Glyn Annell

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 2¼ milltir/3.7 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr cylchol drwy’r goedwig ar ffyrdd gweddol wastad. Dim grisiau. Bwrdd picnic mewn llecyn ar ochr y llwybr.

Mae’r llwybr hiraf sydd wedi’i arwyddo yn un hawdd a chymharol wastad ar hyd ffyrdd y goedwig

""

Rhodfa Rhiw Goch

  • Grade: Cymedrol
  • Pellter: 1½ milltir/2.3 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr cylchol sy’n dechrau gan ddilyn ffordd sy’n dringo bryn coedwigol. Yna, cewch lwybr cul, glaswelltog gyda gwreiddiau dan draed drwy’r coed i lawr i ymuno â’r ffordd yn ôl i'r maes parcio.

Mae’r daith hon yn dilyn llwybrau glaswelltog a ffyrdd y goedwig drwy amrywiaeth o goed.

Mae’n werth dringo i fwynhau’r golygfeydd ysblennydd.

""

Llwybrau Ystâd Dolaucothi

Ceir rhwydwaith o lwybrau o amgylch Ystâd Dolaucothi gerllaw s'yn amrywio o ran hyd.

Mae’r llwybrau yn mynd drwy goetir a thiroedd yr hen blasty.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Ystâd Dolaucothi ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coedwig Caeo 10 milltir i’r gogledd orllewin o Lanymddyfri.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coedwig Caeo ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) Explorer 187.

Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SN 679 405.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A40 o Lanymddyfri i gyfeiriad Llandeilo.

Yn Llanwrda, dilynwch ffordd A482 i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan.

Ar ôl wyth milltir, trowch i’r dde a dilyn yr isffordd i Gaio.

Ewch drwy bentref Caio, heibio’r eglwys ac yn eich blaen ar hyd ffordd ‘dim ffordd drwodd’.

Cadwch i’r chwith a dilyn lôn goedwig i faes parcio Coedwig Caio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanymddyfri.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru

Parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf