Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Un o’n meysydd parcio yng Nghoedwig Crychan yw Esgair Fwyog.
Mae’n fan cychwyn ar gyfer llwybr cerdded gyda golygfeydd o’r dyffryn.
Ceir meinciau picnic o amgylch y maes parcio.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded
Mwynhewch y golygfeydd eang i lawr dyffryn Tywi cyn cyrraedd nant neilltuedig yng Nghwm Crychan.
Cadwch olwg am raeadr sydd bron iawn ynghudd cyn i’r llwybr eich tywys i fyny rhywfaint o allt yn ôl i’r maes parcio.
Mae maes parcio Esgair Fwyog wedi’i leoli yng Nghoedwig Crychan.
Lleolir Coedwig Crychan mewn cefn gwlad hardd rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria, ac mae’n frith o hen lwybrau a arferai gysylltu’r ffermydd a geid yno ers talwm.
Yn y 1930au, aeth y Comisiwn Coedwigaeth ati i brynu’r ffermydd a’r tir a phlannu coed yma fel rhan o ymdrech y DU i ailgyflenwi stociau pren a oedd wedi edwino yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Erys ambell annedd adfeiliedig, ac efallai y dewch ar eu traws yn ystod eich taith.
Mae’r goedwig yn cynnwys derw, ynn, ffawydd, coed cyll a chonwydd, ac mae’r lliwiau’n amrywio gan ddibynnu ar y tymor – o lesni cylchau’r gog yn y gwanwyn i arlliwiau euraid yr hydref.
Y dyddiau hyn, mae’r safle’n darparu pren gwerthfawr ac mae’n gartref i fywyd gwyllt amrywiol.
Mae gweilch Marthin, bwncathod a barcutiaid yn nythu yma, ac efallai y gwelwch gip ar iwrch.
Yn ogystal â’r llwybr cerdded sy’n arwain o Esgair Fwyog, ceir llwybrau cerdded sy’n arwain o dri maes parcio arall yng Nghoedwig Crychan, sef:
Maes parcio Halfway yw’r rhwyddaf i’w gyrraedd o blith y rhain ac fe’i lleolir oddi ar yr A40, ychydig filltiroedd o Lanymddyfri.
Lleolir meysydd parcio Brynffo, Fferm Cefn ac Esgair Fwyog ar is-ffyrdd oddi ar yr A483 rhwng Llanymddyfri a Llanfair-ym-Muallt.
Ceir mynediad agored ar gyfer marchogaeth ceffylau trwy Goedwig Crychan.
Ein meysydd parcio yng Nghoedwig Crychan yw’r man cychwyn ar gyfer milltiroedd lawer o lwybrau ceffylau ar hyd ffyrdd coedwigaeth a hen draciau.
Mae yna hefyd lwybrau byr sy’n ymuno â Llwybr Epynt, llwybr ceffylau 50 milltir o hyd o amgylch terfynau ardal hyfforddiant milwrol Pontsenni.
Mae’r cyfleusterau ar gyfer marchogion yn ein meysydd parcio yn cynnwys corlannau a rheiliau rhwymo.
Mae meysydd parcio Halfway a Brynffo yn fwy addas ar gyfer bocsys ceffylau.
Ceir mynediad ar gyfer gyrwyr car a cheffyl ym maes parcio Brynffo.
I gael rhagor o wybodaeth am farchogaeth yng Nghoedwig Crychan, edrychwch ar wefan Cymdeithas Coedwig Crychan.
Mae Coedwig Crychan yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae maes parcio Esgair Fwyog 6½ milltir i'r gogledd ddwyrain o Lanymddyfri.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae maes parcio Esgair Fwyog ar fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 837 412.
Cymerwch yr A483 o Lanymddyfri tuag at Lanfair-ym-Muallt.
Ar ôl 4½ milltir trowch i'r dde wrth yr arwydd brown a gwyn am Lwybrau Coedwig Crychan.
Dilynwch yr isffordd tuag at Dirabad ac ar ôl 2 filltir mae'r maes parcio Esgair Fwyog ar y dde.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanymddyfri.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.