Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae gweithrediadau coedwigaeth ar y gweill ym Mharc Coedwig Afan gan gynnwys ymgyrch fawr i dorri coed.
Mae llawer o'r llwybrau cerdded a beicio mynydd ar gau neu wedi eu dargyfeirio.
Gweler y wybodaeth mewn meysydd parcio a dilynwch yr arwyddion dargyfeirio ar y llwybrau.
Byddwch yn ymwybodol y bydd lorïau cludo pren o gwmpas, a dilynwch holl gyfarwyddiadau'r staff.
Llwybrau beicio mynydd sydd ar gau, neu sydd â dargyfeiriadau’n weithredol arnynt
Llwybrau cerdded sydd ar gau neu sydd â dargyfeiriadau’n weithredol arnynt
Dysgwch am yr ymgyrch fawr i dorri coed ym Mharc Coedwig Afan.
Mae Rhyslyn ym Mharc Coedwig Afan.
Mae o fewn pellter cerdded i bentref Pont-rhyd-y-fen.
Mae dau lwybr cerdded ag arwyddbyst yma. Mae'r llwybr haws yn mynd wrth ymyl yr afon ac mae'r llwybr hirach yn mynd ar hyd trac cefnffordd gyda golygfeydd o draphont Pont-rhyd-y-fen.
Mae'r ardal bicnic wrth ymyl y maes parcio.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dilynwch Afon Afan i fyny'r afon at olygfan a dychwelyd ar hyd trac rheilffordd mwyngloddio segur.
Mae hwn yn llwybr gwastad bron yr holl ffordd ar hyd llwybrau glan yr afon ac ar ffyrdd coedwig.
Cadwch lygad am feicwyr ar rannau o'r daith gerdded.
Mwynhewch olygfeydd panoramig ar hyd y gefnffordd hynafol a gysylltai eglwys Baglan ar yr arfordir â Chraig y Llyn i'r gogledd o Lyncorrwg.
Gallwch weld yr holl ffordd i Fannau Sir Gâr ar ddiwrnod clir.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Gyda rhai o'r disgynfeydd trac sengl gorau yn y DU, mae'r llwybr hwn yn croesi ochr ogleddol Cwm Afan ar drac sengl.
Mae'n amrywio o fod yn gyflym ac agored i fod yn dynn, technegol a gwreiddiog.
Mae golygfeydd gwych o'r dyffryn a'r arfordir yn ymddangos ar wahanol adegau, ac mewn mannau gall y llethrau serth deimlo'n agored.
Mae'r ffordd at y trac sengl yn rhannu adran â Llwybr Beicio Lefel Isel Rheilffordd a'r rheilffordd segur, felly cofiwch ystyried defnyddwyr eraill y goedwig wrth feicio.
Am daith hirach, cyfunwch â Llwybr White’s Level drwy un o’r cysylltiadau W2 - gweler Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.
Mae maes parcio Rhyslyn o fewn pellter cerdded hawdd i bentref Pont-rhyd-y-fen lle ganwyd yr actor enwog Richard Burton.
Mae Llwybr Man Geni Richard Burton yn cychwyn o'r maes parcio ac yn mynd i Bont-rhyd-y-fen a'i fan geni.
Mae paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr gyda ffeithiau diddorol am ei blentyndod a'i yrfa.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Darganfod Castell-nedd Port Talbot.
Mae Rhyslyn ym Mharc Coedwig Afan.
Mae Parc Coedwig Afan yn un o gyrchfannau beicio mynydd eiconig Prydain ac yn lle poblogaidd ar gyfer cerdded.
Mae'r parc coedwig wedi'i leoli yng Nghwm Afan ychydig filltiroedd o'r M4, lle arferai glo gael ei gloddio.
Gallwch ddarganfod rhai o nodweddion treftadaeth y dyffryn ar hyd ein llwybrau yn y parc coedwig.
Archwiliwch Barc Coedwig Afan o'r meysydd parcio yn y tri lle arall hyn:
Mae Parc Coedwig Afan yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Rhyslyn 4 milltir i'r gogledd ddwyrain o Bort Talbot.
Y cod post yw SA12 9SG.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Dewch oddi ar yr M4 ar gyffordd 40, gan gymryd yr A4107 tuag at Cymer.
Dilynwch yr arwyddion brown a gwyn ar gyfer Coedwig Afan o'r gylchfan ar ôl gadael y draffordd.
Ar ôl tair milltir a hanner, trowch i'r chwith gan gymryd y B4287 tuag at Bontrhydyfen.
Ewch dros bont ac, wrth i'r ffordd droi tua’r chwith, cymerwch dro sydyn i'r dde i fynd ar y trac.
Dilynwch y trac hwnnw am 350 metr i gyrraedd maes parcio Rhyslyn.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SS 800 942 (Explorer Map 165 neu 166).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Port Talbot.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Gallwch feicio i Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar lwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans 887.
Mae Llwybr 887 yn darparu cyswllt rhwng trefi Port Talbot, Cwmafan, a Phont-rhyd-y-fen ac yn parhau i Barc Coedwig Afan.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.