Coedwig Brechfa – Abergorlech, ger Caerfyrddin

Beth sydd yma

Mae gwaith cynaeafu yn digwydd yng Nghoedwig Brechfa.

 

Bydd y llwybrau beicio mynydd canlynol yn cael eu dargyfeirio:

 

  • Llwybr Cigfran

Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau ac arwyddion dargyfeirio ar y safle.

 

Bydd gwaith cynaeafu yn digwydd yn agos at lwybr beicio mynydd Gorlech a bydd beicwyr yn cael eu hailgyfeirio i osgoi'r ardal cwympo coed. Dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau.

Croeso

Mae ein maes parcio wedi’i leoli ychydig y tu allan i bentref Abergorlech a dyma’r man cychwyn ar gyfer tri llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd yng Nghoedwig Brechfa.

Mae un o’r llwybrau cerdded yn mynd i ardd goedwig, lle plannodd staff y Comisiwn Coedwigaeth amrywiaeth o goed yn y 1950au hwyr i weld pa mor dda y bydden nhw’n tyfu.

Gorlech yw enw’r afon sy’n ymuno ag afon Cothi gerllaw. Mae cerrig o siapiau rhyfedd wedi’u canfod yn yr afon, ac mae enghreifftiau o ‘Gerrig Gorlech’ i’w gweld yng ngerddi ffrynt rhai bythynnod yn y pentrefi.

Mae safle picnic ac ardal chwarae i blant yn y maes parcio, a thoiledau symudol.

""

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr ar Lan yr Afon

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1 milltir/1.8 cilomedr
  • Amser: 30 muned
  • Gwybodaeth am y llywbr: Addas ar gyfer teuluoedd, dim grisiau. Angen bod ddim ond yn weddol ffit. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded â gafael da. Gall llwybrau fod yn llithrig pan fyddant yn wlyb.

Mae’r llwybr mwy neu lai gwastad hwn drwy’r coed yn mynd ar hyd glan Afon Gorlech a thros bont cyn dychwelyd ar hyd y ffordd goedwigaeth.

""

Llwybr Gorlech

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3½ milltir/5.7 cilomedr
  • Amser: 2 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Angen bod yn gymedrol ffit. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded a dillad glaw. Gall llwybrau fod yn llithrig pan fyddant yn wlyb.

Mae’r llwybr hwn yn dilyn Afon Gorlech cyn dringo’n serth drwy amrywiaeth ddeniadol o goedydd.

Taith Gardd y Goedwig

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 5½ milltir/9.1 cilomedr
  • Amser: 3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Angen bod yn fwy ffit oherwydd ei hyd. Argymhellir esgidiau cerdded a dillad glaw. Gall llwybrau fod yn llithrig pan fyddant yn wlyb (yn cynnwys dringfa taith Gorlech am fod angen i chi ddilyn Llwybr Gorlech i gyrraedd Llwybr Gardd y Goedwig)

Rhowch gynnig ar ein Taith Gardd y Goedwig i weld coed o bedwar ban byd – y coed coch mawr o Galiffornia, ewcalyptws o Awstralia; nothofagus o Dde America; pinwydd o bob cyfandir ac amrywiaeth o rywogaethau Ewropeaiddfel y dderw ddigoes, coed cnau Ffrengig a phyrwydd.

Yn hytrach na choeden neu ddwy o bob math o goeden, fe welwch glwstwr cyfan.

Llwybr beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Gorlech

  • Gradd: Coch (anodd)
  • Pellter: 20.1 km
  • Man cychwyn amgen: Maes parcio Sifigwm (cyfeirnod grid OS: SN 553 395; ar lôn fach oddi ar y B4337, hanner milltir o bentref Rhydcymerau)

Mae’r llwybr hwn yn llwybr caled, cyflym, pob tywydd sy’n dod yn fwyfwy cyffrous wrth i chi wella lefel eich sgil a’ch cyflymdra.

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys llwybrau arglawdd wedi eu llunio’n berffaith, neidiau, troadau siarp a phonciau pen-bwrdd.

""

Coedwig Brechfa

Coedwig Brechfa yw’r enw modern ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi.

Roedd Coedwig Glyn Cothi’n cael ei rhedeg am ganrifoedd gan bobl leol i ddarparu deunyddiau adeiladu, gwahanol gynhyrchion a thir pori.

Ym 1283, ar ôl i Gymru gael ei gorchfygu’n derfynol gan Edward I, daeth Glyn Cothi’n Goedwig Frenhinol dan weinyddiaeth Cyfraith y Fforest am ganrifoedd lawer.

Ers y dyddiau hynny mae coedwig dra gwahanol wedi tyfu. Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ailblannwyd Coedwig Brechfa’n goed conwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth i hybu cronfa bren Prydain ar ôl y defnydd trwm o bren yn y Rhyfel Mawr.

Heddiw mae Coedwig Brechfa’n gorchuddio tua 6500 hectar ac yn cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, bywyd gwyllt ac i gynhyrchu pren, ac yn fwy diweddar er mwyn cynhyrchu ynni gwynt.

Meysydd parcio eraill yng Nghoedwig Brechfa

""

Mae llwybrau cerdded a beicio mynydd o'r meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru eraill hyn yng Nghoedwig Brechfar:

  • Byrgwm - taith cerdded coetir a llwybrau beicio mynydd i ddechreuwyr a beicwyr profiadol fel ei gilydd
  • Gwarallt - taith gerdded fer hawdd drwy goetir ffawydd
  • Keepers - dewis o lwybr glan yr afon neu daith gerdded hir heibio tyrbinau gwynt enfawr
  • Tower - taith gerdded drwy'r goedwig gyda golygfeydd o'r dyffryn a mynediad i'r llwybr heibio i dyrbinau gwynt

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Brechfa yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Amseroedd agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Mae toiledau symudol yn agored bob amser.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Abergorlech yn bentref bychan ar y B4310 i’r de o Lambed.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map Arolwg Ordnans

Mae Abergorlech ar fap Arolwg Ordnans (AR) Explorer 186.

Y cyfeirnod grid OS yw SN 586 337.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r orsaf drên agosaf yng Nghaerfyrddin.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Cyfarwyddiadau

O’r A482 rhwng Llambed a Llanymddyfri, trowch ar y B4302 i gyfeiriad Llansawel.

O Lansawel dilynwch yr arwyddion am Abergorlech.

Maes parcio

Gallwch barcio yno am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf