Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yw un o'r systemau twyni pwysicaf sy’n parhau i dyfu ym Mhrydain ac mae’n un o lond dwrn yn unig o systemau tebyg yng Nghymru.
Mae twyni fel y rhain gyda’u hardaloedd tywod noeth yn dod yn gynyddol brin.
Mae’r tirlun arfordirol trawiadol hwn yn un o’n trysorau naturiol cyfoethocaf ac yn gartref i ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid, a’r cyfan wedi’u haddasu’n benodol i fywyd ar ymyl y môr.
Ynghyd â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn y De, mae'r ddwy warchodfa yn ffurfio ardal ddi-dor bron o dwyni tywod ar hyd yr arfordir.
Mae Morfa Harlech yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Yn ystod y flwyddyn, mae'r dirwedd yn newid yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech.
Yn dibynnu ar ba adeg y byddwch yn ymweld â'r safle, rydych yn debygol o weld gwahanol enghreifftiau o fywyd gwyllt.
Parhewch i ddarllen i gael gwybod beth y gallwch ei weld yma yn ystod y tymhorau gwahanol.
Yn y gwanwyn a’r haf cadwch olwg am drilliw’r twyni, tegeirian bera neu hyd yn oed tegeirian y wenynen prin.
Efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus i weld penigan y forwyn.
Yn yr hydref gellir gweld planhigion sy'n blodeuo'n hwyr yn y twyni, megis crwynllys yr hydref a phlanhigion troellig yr hydref. Cadwch olwg am ffwng unigryw yn tyfu yn y twyni hefyd!
Mae’r glaswelltiroedd twyni sych yn gartref i nifer o löynnod byw a gwyfynod, fel y gwyfyn bwrned chwe smotyn a’r glöynnod byw gleision cyffredin a’r coprau bach.
Mae pryfed eraill fel rhai o’n gwenyn turio prinnaf, a gwenyn meirch unig yn dibynnu ar dywod noeth ac efallai y gwelwch fadfall y tywod hefyd.
Mae cwtiaid torchog yn nythu ar y traeth o Fawrth i Orfennaf – ceisiwch beidio a tharfu arnynt!
Mae adar fel yr ehedydd a chlochdar y cerrig yn magu yn y twyni, gyda phibyddion coesgoch a chornchwiglod yn defnyddio’r morfa heli.
Yn y gaeaf mae rhydyddion fel pïod y môr, pibyddion y mawn a phibyddion y tywod yn bwydo ar hyd y draethlin, ac mae amrywiaeth o hwyaid gwyllt yn defnyddio’r aberoedd a’r morfa heli.
Mae llwybr cyhoeddus o faes parcio Min y Don at y traeth (trowch i’r dde ar hyd y traeth i gyrraedd y warchodfa.
Rydym wedi ffensio rhai rhannau o’r warchodfa i ganiatáu pori neu i ddiogelu planhigion twyni bregus.
Mae toiledau cyhoeddus ym maes parcio Min y Don, wedi eu rhedeg gan Gyngor Gwynedd.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded parhaus o amgylch arfordir Cymru.
Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i ddarganfod mwy.
Cadwch eich cŵn ar dennyn yn ystod tymor magu adar Mawrth – Gorffennaf; mae cwtiaid torchog yn nythu ar y traeth ac adar eraill yn y twyni ac ar y morfa hel.
Mae’n bosibl y bydd toiledau’r traeth dan glo dros fisoedd y gaeaf.
Mae toiledau eraill gyferbyn â’r troad oddi ar y ffordd fawr i’r ffordd at y traeth.
Sylwch:
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yn llai na milltir i’r gorllewin o Harlech, oddi ar yr A496.
Mae yn Sir Gwynedd.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
O’r Bermo, ewch ar yr A496 i gyfeiriad Harlech. Pan ddowch i’r troad i’r dde ar gyfer pentref Harlech, arhoswch ar yr A496 (mae arwydd ar gyfer Maentwrog). Ewch dros y groesfan reilffordd a chymerwch y troad nesaf i’r chwith. Dilynwch yr is-ffordd hon (Ffordd Glan Môr) i’r maes parcio.
Cyngor Gwynedd sy’n rhedeg maes parcio Min y Don a rhaid talu am barcio.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 18.
Y cyfeirnod grid OS yw SH 574 316.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Harlech.
Mae gwasanaeth bws o’r de (Y Bermo a Dolgellau) ac o’r gogledd (Maentwrog) ar hyd yr A496. Mae safle bws ar ffin Ffordd Glan Mor.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.