Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Llwybr Beicio Penamnen ar gau oherwydd gwaith cynaeafu coed.
Mae pentref Dolwyddelan ym mhen deheuol Parc Coedwig Gwydir.
Tyfodd yn gymuned fawr pan oedd y chwareli llechi cyfagos yn eu hanterth.
Erbyn heddiw mae'n cynnig cyfle i ymwelwyr ymlwybro i fannau diarffordd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae golygfeydd gwych o ben y dyffryn ac i gyfeiriad mynydd Moel Siabod i’w gweld ar hyd y llwybr cerdded hwn sydd wedi’i gyfeirbwyntio - mae'r llwybr yn dilyn rhan o’r ffordd Rufeinig a elwir ‘Sarn Helen’ a ddefnyddiwyd gan lengoedd o filwyr Rhufeinig wrth orymdeithio rhwng y gaer yng Nghaerhun a'u gwersyll mawr yn Nhrawsfynydd.
Mae gan y llwybr beicio byr hefyd olygfeydd gwych o'r mynyddoedd o amgylch.
Mae safle picnic ger y bont droed dros yr afon, hanner ffordd ar hyd y llwybr cerdded.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mwynhewch olygfa wych o ben y dyffryn ac i gyfeiriad Moel Siabod.
Mae’r llwybr yn dringo’n raddol drwy'r pentref ac i fyny ffordd goediog ac fe welwch y cwm yn agor o'ch blaen.
O ben y bont gallwch edmygu golygfeydd geirwon Carreg Alltrem, sy’n boblogaidd gyda dringwyr.
Byddwch yn dychwelyd i Ddolwyddelan ar hyd y ffordd Rufeinig ‘Sarn Helen’.
Mae ffordd yn mynd heibio adfeilion Tai Penamnen - mae yna banel dehongli. Mae’r ty gwreiddiol, oedd yn perthyn i deulu’r Wynniaid o Gastell Gwydir, yn bodoli ers y bymthegfed ganrif o leiaf.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mwynhewch olygfeydd godidog o'r dyffryn a mynyddoedd o amgylch.
Mae Dolwyddelan ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Parc Coedwig Gwydir yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Dolwyddelan 6 milltir i'r de-orllewin o Fetws-y-coed.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Dolwyddelan ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 18.
SH 737 521 yw cyfeirnod grid yr OS ar gyfer dechrau'r llwybr cerdded.
Cymerwch yr A470 o Fetws-y-coed i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog.
Ar ôl tua 6 milltir trowch i'r chwith wrth ymyl y siop i mewn i bentref Dolwyddelan.
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon ac yna trowch i'r chwith i faes parcio gorsaf reilffordd Dolwyddelan lle mae'r llwybr cerdded yn dechrau.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Dolwyddelan.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae'r llwybr cerdded yn cychwyn o'r maes parcio yng ngorsaf reilffordd Dolwyddelan.
Rheolir y maes parcio hwn gan y gymuned leol a rhaid talu tâl parcio.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.