Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion diweddar effeithio'n sylweddol ar ein safleoedd.
Rydym yn parhau i asesu'r difrod, ond bydd hyn yn cymryd peth amser.
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Maes parcio bychan ar gyfer ymwelwyr anabl yn unig yw Pont Llam yr Ewig.
Mae llwybr hygyrch yn cychwyn oddi yno tuag at olygfan uwchben hen waith copr Glasdir ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.
Ceir bwrdd picnic hygyrch yn y maes parcio.
Mae llwybr cerdded hirach o brif faes parcio Glasdir.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dilynwch yr arwyddbyst glas ar hyd hen dramffordd i’r olygfan uwchlaw’r gweithfeydd.
Gallwch lawrlwytho llwybr sain a gwrando ar hanes mwynglawdd copr Glasdir.
Dysgwch am hanes chwarel gopr Glasdir ar ein llwybr sain mp3.
Mae pyst wedi'u rhifo ar y llwybr cerdded sy'n dweud wrthych pryd i chwarae pob rhan o'r llwybr sain.
Mae'r llwybr sain wedi’i gynllunio i'w ddefnyddio ar Lwybr Copr Glasdir o brif faes parcio Glasdir ond mae traciau 2, 6, 7 ac 8 yn berthnasol ar gyfer y llwybr hygyrch o faes parcio Pont Llam yr Ewig.
Gan y gall signal ffonau symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain cyn eich ymweliad.
Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o'r sgript.
I lawrlwytho'r llwybr sain ewch i lwybrau sain a chwedlau gwerin.
Mae'r parc coedwig yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.
Yn ogystal â'r llwybr cerdded sy'n dechrau yma o faes parcio Pont Llam yr Ewig, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:
Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Dim ond deiliaid bathodyn glas all ddefnyddio maes parcio Pont Llam yr Ewig.
Mae’r llwybr hygyrch tuag at yr olygfan uwchben y gwaith copr yn cychwyn o faes parcio Pont Llam yr Ewig.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Pont Llam yr Ewig 6 milltir i’r gogledd o Ddolgellau.
Y cod post yw LL40 2NL.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau i gyfeiriad Porthmadog.
Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes.
Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr, ac yna heibio maes parcio Glasdir.
Parhewch ar hyd y ffordd darmac, trowch yn sydyn i'r chwith i fyny'r rhiw serth.
Trowch i'r dde wrth y groesffordd ar gopa'r bryn a bydd y maes parcio ar y dde dros y bont garreg.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 742 226 (Explorer Map OL 18).
Y prif gorsafoedd rheilffordd agosaf yw'r Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Dim ond deiliaid bathodyn glas all ddefnyddio maes parcio Pont Llam yr Ewig.
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
Ffôn: 01341 440747