Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog

Beth sydd yma

Croeso

Mae coedwig enfawr hon yn drysor cudd o lwybrau cerdded a beicio, cyfleoedd ffotograffig a bywyd gwyllt yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Edrychwch ar y golygfeydd godidog ar draws Eryri, cael picnic ger llyn diarffordd Llyn Llywelyn a chlustfeiniwch am sain hen drenau Rheilffordd Ucheldir Cymru, sy’n rhedeg drwy’r goedwig ar eu taith o Gaernarfon i Borthmadog.

Yn ogystal â cherdded a beicio ar ein llwybrau sydd wedi’u cyfeirbwyntio, gallwch hefyd farchogaeth ceffylau ar ein llwybrau ceffylau a ffyrdd goedwig neu redeg ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Llyn Llywelyn

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2¾ milltir/4.4 cilomedr
  • Amser: 2½ awr
  • Disgrifiad: Mae’r llwybr bron i gyd ar ffordd y goedwig gyda thri darn byr o drac, 1.5m o led, a gall un ohonynt fynd yn fwdlyd ar y ddringfa raddol i’r llyn, ac mae gan y disgyniad yn ôl i’r maes parcio ar un arall ran 40m o gerrig crynion anwastad a garw. Mae gatiau ar y ddwy groesfan reilffordd a rhaid agor y rhain â llaw. Mae dau fwrdd picnic ar hyd y llwybr.

Dyma lwybr cylchol gyda golygfeydd ar draws Coedwig Beddgelert i Eryri.

Mae’n cychwyn o’r maes parcio ac yn mynd drwy’r coetir i lyn diarffordd prydferth, Llyn Llywelyn.

Llwybrau beicio

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Beicio Bedwen

  • Gradd: Ffordd goedwig neu debyg
  • Pellter: 6 cilomedr
  • Amser: 1 - 1½ awr

Mae’r llwybr cylchol byr hwn yn werth yr ymdrech ac mae’r llyn yn le prydferth i gael saib gyda golygfa wych.

Llwybr Beicio Derwen

  • Gradd: Ffordd goedwig neu debyg
  • Pellter: 10.1 cilomedr
  • Amser: 1 - 2 awr

Mae’r llwybr hwn yn daith hyfryd o ben gogleddol Coedwig Beddgelert gyda dringfa araf a graddol a golygfeydd cofiadwy i gyfeiriad pen dwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’n mynd heibio i’r llyn ar y ffordd yn ôl i’r maes parcio.

Llwybr aml ddefnydd

Mae llwybr aml-ddefnydd Lôn Gwyrfai, o Feddgelert i Rhyd-ddu, ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn mynd drwy’r goedwig.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri am fwy gwybodaeth.

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Coedwig Beddgelert wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig.
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff.
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coedwig Beddgelert 2 filltir i'r gogledd o bentref Beddgelert.

Mae yn Sir Gwynedd.

Map Arolwg Ordnans

Mae Coedwig Beddgelert ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.

Cyfeirnod grid AO SH 574 503.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch ffordd A4085 o Feddgelert i gyfeiriad Caernarfon.

Ar ôl 1 filltir, ewch heibio mynedfa Forest Holidays ac yna trowch i'r chwith nes cyrraedd llwybr.

Dilynwch y llwybr hwn am 1/2 milltir i faes parcio Coedwig Beddgelert. 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr orsaf drenau agosaf yw Porthmadog.

Am fwy o fanylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Gellir parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

0300 065 3000

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf