Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris yn cynnwys cadwyn o fynyddoedd yn ne Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae llwybrau hygyrch o gwmpas parcdir Dôl Idris a dau lwybr serth byr ag arwyddbyst o’r ganolfan ymwelwyr i mewn i’r warchodfa.

Mae Llwybr Minffordd yn mynd at gopa Cadair Idris.

Gallwch gyrraedd Dôl Idris a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris o faes parcio sydd ychydig oddi ar yr A487.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y pedwar llwybr cerdded hwn o’r dechrau i’r diwedd.

Os yw'n well gennych dir gwastad rhowch gynnig ar daith gerdded hygyrch Llyn Dôl Idris neu Gylchdaith y Ddôl sy'n hamddenol (Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri sy'n berchen ar y llwybrau hyn ac yn eu rheoli).

Mae'r ddwy daith Cyfoeth Naturiol Cymru yn dringo’n serth ran o'r ffordd i fyny i’r Warchodfa Natur Genedlaethol a'r mynydd: Taith y Ceunant gyda'i golygfeydd o'r rhaeadrau a Thaith Pont Nant Cadair â'i dringfa hirach.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llyn Dôl Idris

""

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ⅓ mile/0.6 kilometres
  • Amser: 15 i 20 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: 1.7 metr o led ag wyneb da o amgylch y llyn. Mae mannau gorffwys bob 150 metr ac nid oes unrhyw risiau na chamfeydd ar y llwybr. Ceir byrddau picnic ger y llyn. Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri sy'n berchen ar y llwybr hwn ac yn ei reoli.

Mae’r llwybr cylchol hwn yn dechrau o’r maes parcio ac mae’n mynd yr holl ffordd o gwmpas y llyn yn y parcdir.

Edrychwch am adar fel bronwen y dŵr a’r siglen lwyd, sy’n magu ar lan y llyn, a’r ysgol bysgod ger y bompren, sy’n helpu eogiaid i gyrraedd y nentydd.

Cylchdaith y Ddôl

""

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: ½ milltir/0.9 cilomedr
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr 1.4 metr o led ag wyneb da sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd. Mae gwaith dringo graddol o 16% drwy'r coed y tu hwnt i'r llyn, cyn mynd heibio'r ganolfan ymwelwyr a dychwelyd ar hyd llwybr garw tir fferm i'r maes parcio. Mae mannau gorffwys bob 300 metr ac nid oes unrhyw risiau na chamfeydd ar y llwybr. Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri sy'n berchen ar y llwybr hwn ac yn ei reoli.

Mae’r llwybr cylchol hwn yn mynd drwy’r parcdir gyda’i goed sbesimen egsotig.

Edrychwch am yr adfail lle cynhyrchwyd dŵr mwynol a chwrw sinsir Idris am y tro cyntaf a'r blychau ystlumod.

Taith y Ceunant

""

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 980 troedfedd/300 metr (yna ac yn ôl)
  • Amser: 30 munud i 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae sawl cyfres o risiau carreg a phren ar y ddringfa i fyny ac i lawr. Mae’r llwybr yn dychwelyd yr un ffordd. Mae’n dilyn rhan o Lwybr Minffordd.

Dilynwch y symbolau browngoch i fyny’r ceunant serth at fainc sydd â golygfeydd draw am y rhaeadr.

Mae’r llwybr yn mynd drwy’r ‘Goedwig Law Geltaidd’ gyda’i hamrywiaeth o fwsoglau sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.

Pont Nant Cadair

""

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: ⅔ miltir/1.2 cilometr (yna ac yn ôl)
  • Amser: 1½ i 2 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae sawl cyfres o risiau carreg a phren ar y ddringfa i fyny ac i lawr. Mae’r llwybr yn dychwelyd yr un ffordd. Mae’n dilyn yr un llwybr â Thaith y Ceunant ar ran o Lwybr Minffordd.

Dilynwch y symbolau oren ar ddringfa hir, serth i fyny’r ceunant.

Mae’r llwybr yn mynd heibio’r rhaeadrau, lle mae mainc i chi gael eich gwynt atoch.

Yna, mae’n parhau allan ar lethrau isaf y mynydd agored at bont lechi Nant Cadair.

Llwybr Minffordd i gopa Cadair Idris

  • Pellter: 6 milltir/9 cilometr (yna ac yn ôl)
  • Esgyniad: 788 metr
  • Amser: 5 awr (yna ac yn ôl)

Nid oes arwyddbyst ar y ddringfa egnïol iawn hon.

Bydd arnoch angen map, sgiliau llywio a lefel dda o ffitrwydd.

Gwisgwch esgidiau cerdded da.

Gall y tymheredd ar y copa fod sawl gradd yn is nag yn y maes parcio islaw ac mae cymylau isel yn aml yn gorchuddio’r copa felly gall fod yn llaith ac yn oer - ewch â dillad addas gyda chi.

Am fwy o wybodaeth am y Llwybr Minffordd ewch i wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Cadair Idris yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Y gwanwyn

Os ydych yn lwcus, efallai y gwelwch hebogiaid tramor yn hela uwchben y clogwyni, neu gael cip ar fwyalchen y mynydd yn yr hafnau creigiog.

Mae tinwennod y garn yn dychwelyd i’r mynydd hefyd, a gellir clywed siff-siaffod a thelorion yr helyg yn canu o amgylch y ganolfan ymwelwyr wrth droed y warchodfa.

Mae nifer o blanhigion y goedwig -fel y briallu a blodyn y gwynt- yn blodeuo, a'r blagur yn ysu i agor ar y coed derw.

Yr haf

Yn ystod yr haf mae tri o adar nodweddiadol ein coedydd derw yn dychwelyd: y gwybedog brith, telor y coed a’r tingoch, yn ogystal â gwenoliaid a gwenoliaid y bondo sy’n nythu weithiau dan fondo'r ganolfan ymwelwyr.

Ar y clogwyni yn gynnar yn yr haf, mae’r planhigion arctig-alpaidd ar eu gorau. Nid yw rhai o’r rhain i’w gweld yn unlle arall ymhellach i’r de yng Nghymru.

Mae cornfanadl blewog, sy’n brin yn lleol, yn eu blodau hefyd. Cadair Idris yw ei leoliad mwyaf gogleddol!

Yn nes ymlaen caiff rhai llethrau eu gorchuddio gan rug porffor, gyda fflachiadau o flodau melyn eithin mân i’w gweld yma ac acw. Mae’r corsydd yn disgleirio gyda gwlithlys gludiog, ynghyd â llafn y bladur a thegeirianau brych y rhos, tra mae gweision y neidr yn cadw llygad barcud ar eu plwyf.

Mae ystlumod pedol lleiaf yn dychwelyd i’w clwydfan yn nho'r ganolfan ymwelwyr. Caiff lluniau byw o’r ystlumod prin yma eu dangos yn yr arddangosfa, a gwelir hwy'n magu eu rhai bach yn ystod mis Gorffennaf.

Yr hydref

Mae canopi trwchus y goedwig law Geltaidd yn gwisgo’i liwiau tymhorol trawiadol ac mae toreth o ffyngau’n ymddangos ar lawr y goedwig.

Wrth i'r glaw chwyddo Nant Cadair mae'r lleithder yn cynyddu yn y ceunant dan gysgod y coed gan gynnig amodau delfrydol i amrywiaeth o fwsoglau a llysiau’r afu hynod brin.

Gyda llai o ymwelwyr ar y mynydd, mae’n gyfle da i archwilio’r Warchodfa Natur Genedlaethol.

Chwiliwch am flodau cain y clychlys dail eiddew a’r teim gwyllt. O dro i dro mae brain coesgoch yn ymweld â’r llethrau glaswelltog i chwilio am bryetach gyda’u pigau crwm coch trawiadol.

Mae rhai glöynnod byw fel y mantell paun, yn dal i fentro allan ar ddiwrnodau braf, ynghyd ag ambell gacynen lus Bombus monticola, sy'n rywogaeth mynyddig gweddol brin, efo pen ôl coch llachar!

Y gaeaf

 Mae’r gaeaf yn amser da i werthfawrogi daeareg drawiadol Cadair Idris.

Mae Cwm Cau yn nodweddiadol o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr oes iâ diwethaf. Mae Llyn Cau - un o lynnoedd naturiol dyfnaf Cymru - wedi'i amgylchynu bron, gyda chlogwyni serth, mil o droedfeddi o uchder mewn un man. Dywedir ei fod yn ddiwaelod a bod anghenfil yn llechu ynddo’n rhywle! Efallai na welwch chi byth mo’r creadur dirgel hwn, ond os byddwch yn lwcus iawn efallai y gwelwch garlwm yn ei gôt aeaf wen yn hela’i brae ynghanol y sgri.

Mewn mannau eraill ar y Warchodfa, gallwch weld cliwiau eraill yn ymwneud â gorffennol daearegol y safle, fel lafa clustog ac wynebau creigiau llyfn, wedi’u herydu gan y llif rhew araf ei symudiad.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Chwedlau Cadair Idris

Yn ôl llên gwerin, cawr oedd Idris; a Chadair Idris oedd lle’r arferai wylio’r sêr.

Tybir mai rwbel o’r adeg pan arferai Idris a’r cewri eraill frwydro a thaflu cerrig at ei gilydd yw’r clogfeini anferth ar lethrau isa’r mynydd.

Yn ôl y sôn os ydych yn ddigon ffodus i fod dal yn fyw ar ôl treulio noson ar y copa, bydd y profiad naill ai’n eich troi’n wallgof neu’n fardd.

Gwyliwch ein ffilm am chwedlau Cadair Idris

Mae'r ffilm yn ddwyieithog.  Mae’r fersiwn Gymraeg yn dod yn gyntaf ac mae’r fersiwn Saesneg yn dilyn ar ôl 7 munud.

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Cadair Idris wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Mwynhau’r mynydd yn ddiogel

  • Gwisgwch yn briodol – gwisgwch esgidiau cerdded cadarn sy’n cynnal y ffêr, sawl haen o ddillad a chariwch gôt a throwsus glaw. Yn y gaeaf byddwch angen menig a het, a haen waelod thermal yn ychwanegol at haenau o ddillad cynnes.
  • Gwiriwch y tywydd – ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i wirio’r tywydd ar gyfer Eryri. Gall amodau newid yn gyflym iawn ar y mynydd, felly byddwch yn barod i droi’n ôl os bydd y tywydd yn gwaethygu.
  • Cariwch y cyfarpar cywir – byddwch angen map a chwmpawd, tortsh, bwyd a diod, pecyn cymorth cyntaf a ffôn symudol gyda batri llawn. Ar ddiwrnod braf yn yr haf byddwch angen eli haul a dŵr ychwanegol.
  • Cynlluniwch eich taith - dewiswch eich llwybr a chadwch ato, gan sicrhau eich bod yn caniatáu digon o amser i ddod yn ôl i lawr cyn iddi dywyllu. Cofiwch ei bod hi’n tywyllu’n gynnar yn y gaeaf.
  • Cadwch o fewn eich gallu – dewiswch lwybr sy’n gweddu ­trwydd a gallu pawb yn eich grŵp. Cofiwch y gall dod i lawr y mynydd fod yn galetach na’i ddringo, yn enwedig o gofio y byddwch yn flinedig hefyd.
  • Dywedwch wrth rywun – dywedwch am eich cynlluniau wrth rywun a chadwch atynt, gan gofio cysylltu i ddweud pan fyddwch yn ôl yn ddiogel. Mewn argyfwng ffoniwch 999 gan ofyn am yr Heddlu ac yna Tîm Achub Mynydd.

Gwybodaeth am hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • parcio Bathodyn Glas (wedi’i redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)
  • toiled hygyrch yn y maes parcio
  • llwybr hygyrch

Amseroedd agor

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n rheoli’r maes parcio. Ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’r toiledau yn y maes parcio’n cael eu rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac ar agor bob dydd (nid 24 awr).

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris 10 milltir i’r de o Ddolgellau. 

Cod post

Y cod post yw LL36 9AJ.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Y prif fynediad i Warchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris yw drwy faes parcio Dôl Idris.

Cymerwch ffordd A487 o Ddolgellau i gyfeiriad Machynlleth a throwch i’r dde i’r B4405.

Mae’r fynedfa i faes parcio Dôl Idris yn syth ar y dde.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 732 115 (Explorer Map OL 23).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Tywyn.

Mae gwasanaethau bysiau lleol yn rhedeg o Dywyn.

Mae bysys Traws Cymru yn rhedeg ar yr A487 o Aberystwyth i Fangor ac yn stopio wrth y gyffordd â’r B4405 ger y maes parcio.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Y prif fynediad i Warchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris yw drwy faes parcio Dôl Idris.

Mae’r maes parcio hwn ar y B4405, oddi ar yr A487 rhwng Dolgellau a Machynlleth.

Mae’r maes parcio’n cael ei redeg gan Barc Cenedlaethol Eryri.

Rhaid talu am barcio.

Ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf