Coedwig Dyfi - Foel Friog, ger Machynlleth

Beth sydd yma

Croeso

Lleolir Foel Friog ymysg tirwedd ryfeddol Coedwig Dyfi.

Mae ger pentref Aberllefenni ac mae’n hawdd dod o hyd iddo o’r A487.

Darganfyddwch y derw hynafol, adfeilion fferm a golygfeydd godidog ar lwybr cerdded cylchol i gopa Pen y Bryn.

Mae’r safle picnic deniadol ger yr afon.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Pen y Bryn

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 2 milltir/3.2 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Yn aml mae’r llwybrau yn llai na 50cm o led mewn mannau, ar arwyneb anwastad, heb ei wneud, ble gallwch chi ddisgwyl mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae mainc wrth yr olygfan.

Dilynwch yr arwyddbyst coch i groesi Afon Ddulas yna dringwch i fyny’r bryn ar lwybr serth, trwy’r goedwig dderw i adfail Pen y Bryn.

O’r fan hon fe welwch chi olygfeydd godidog o Foel Crochan a Godre Fynydd.

Bydd mainc wrth yr olygfan i gael egwyl haeddiannol iawn wrth edrych ar y golygfeydd syfrdanol.

Coedwig Dyfi

Mae Foel Friog wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi.

Mae Coedwig Dyfi rhwng tref Machynlleth a Dolgellau a gorwedd yng nghysgod Cadair Idris.

Mae’r coetiroedd yn glynu wrth lethrau serth cadwyni o fynyddoedd Tarren a Dyfi gydag afonydd Dysynni, Dulas a Dyfi yn torri trwyddynt wrth anelu tua’r gorllewin i’r môr gerllaw.

Arferai’r ardal gyfan fod yn frith o fwyngloddiau llechi llwyddiannus, yn cyflogi cannoedd o bobl.

Roedd llechi gorenedig yn cael eu cludo i’r arfordir trwy system o dramyrdd a threnau stêm i’w hallforio.

Mae’r trenau sy’n weddill bellach yn cludo ymwelwyr ar draws yr ardal wledig.

Llywbrau cerdded eraill yng Nghoedwig Dyfi

Rhowch gynnig ar ein llwybrau ag arwyddbyst am flas o hanes a diwylliant yr ardal a chewch weld yr afonydd yn rhaeadru a’r coed mawreddog.

Yn ogystal â Foel Friog, mae llwybrau cerdded yng nghoetiroedd eraill Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Dyfi:

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae'r rhan fwyaf o Goedwig Dyfi wedi’i leoli yn Parc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Dyfi yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Foel Friog ar hyd ffordd fach gul gydag arwyddion am Aberllefenni oddi ar yr A487 rhwng Dolgellau a Machynlleth.

Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau sirol Sir Gwynedd a Sir Powys.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Foel Friog ar fap Explorer 215 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 769 092.

Cyfarwyddiadau

Cymrwch yr A487 o Fachynlleth i gyfeiriad Dolgellau.

Gyferbyn â thafarn Braich Goch, trowch i’r dde wrth yr arwydd am Aberllefenni.

Mae Foel Friog 2 filltir i lawr y ffordd hon ar y dde, ac yn syth cyn cyrraedd yr arwydd am bentref Aberllefenni.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffordd agosaf yw Machynlleth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Taflen Coedwig Dyfi PDF [7.7 MB]

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf