Parc Coedwig Gwydir - Llyn Geirionydd, ger Llanrwst

Beth sydd yma

Croeso

Mae Llyn Geirionydd yn lle poblogaidd i gael picnic ar lan y dŵr.

Gallwch ddilyn y llwybr cerdded cylchol sydd wedi’i arwyddo o Lyn Geirionydd drwy’r goedwig hyd at Lyn Crafnant gerllaw – a mwynhau golygfeydd o’r llynnoedd a’r mynyddoedd ar y ffordd.

Llyn Geirionydd, yn ôl pob sôn, oedd cartref y bardd o’r 6ed ganrif, Taliesin, a saif cofeb iddo ar y lan ogleddol.

Yn y 1870au, roedd hon yn dirwedd ddiwydiannol ddiffaith - yn wir, mae'r maes parcio ar domen sbwriel ger mynedfa hen waith plwm.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Geirionydd i Grafnant

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 4.6 milltir/7.4 cilomedr
  • Dringo: 300 metr
  • Amser: 2-3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr ar gyfuniad o ffyrdd coedwig, ffordd darmac, a llwybr troed cul serth, yn llai nag 80cm o led mewn rhai mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, a gallwch ddisgwyl llaid mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae dwy ryd fechan i’w croesi a giât mochyn yn union cyn ichi gwrdd â ffordd y cyngor. Mae hefyd dau rwystr coedwig y bydd angen ichi gerdded o’u hamgylch gyda bwlch o ryw 70 cm ar yr ochr. Mae meinciau picnic a thoiledau yn y ddau faes parcio, ac un fainc yn yr olygfan uwchlaw Crafnant.

Mae’r gylchdaith hon yn mynd drwy’r goedwig ac yn cysylltu’r ddau lyn.

Dilynwch y llwybr heibio pen deheuol Llyn Geirionydd nes bod y llwybr yn culhau ac yn eich taflu i gysgod a brith olau coed llarwydd tal.

Disgynnwch yn serth drwy blanhigfa byrwydd ddistaw gysgodol ac yna heibio coed ynn a drain gwynion yn drwm o fwsogl a chen, sy’n arwydd o’r awyr iach yma.

Parhewch ar ffordd darmac heibio i Lyn Crafnant a ffordd goedwig, gan ddringo i olygfan, yna disgynnwch yn ôl i Lyn Geirionydd.

Oriau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Mae’r toiledau yn agored rhwng 9am a 7pm drwy’r flwyddyn.

Byddant yn cael eu cloi dros nos.

Parc Coedwig Gwydir

Mae Llyn Geirionydd ym Mharc Coedwig Gwydir.

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Betws-y-coed - llwybrau cerdded heddychlon drwy'r goedwig ymhell o fwrlwm twristiaid
  • Cae'n y Coed - ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd
  • Mwynglawdd Cyffty - llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
  • Dolwyddelan - llwybr cerdded ar hyd ffordd Rufeinig a llwybr beicio gyda golygfeydd o'r mynyddoedd cyfagos
  • Hafna - llwybr cerdded drwy adfeilion hen waith plwm a llwybr beicio mynydd gradd coch
  • Llyn Crafnant - llwybrau cerdded o amgylch y llyn a llwybr hygyrch ar hyd glan yr afon
  • Llyn Sarnau - safle picnic â llwybr cerdded i ddau lyn trawiadol
  • Penmachno - llwybrau beicio mynydd anghysbell gyda golygfeydd ysblennydd
  • Mainc Lifio - dau lwybr beicio mynydd gradd coch a llwybr cerdded hanesyddol
  • Ty’n Llwyn – llwybr cerdded i raeadr enwog Ewynnol

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
  • Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
  • Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Llyn Geirionydd 4 milltir i'r gorllewin o Lanrwst.

Mae yn Sir Conwy.

Map Arolwg Ordnans

Mae Llyn Geirionydd ar fap Arolwg Ordnans (AO) Explorer OL17.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 763 604.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.

Ar ôl troi i’r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i’r dde yn syth ar is-ffordd.

Ewch heibio i nifer o feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru a throwch i’r dde wrth yr arwyddbost ar gyfer Llyn Geirionydd.

Dilynwch y ffordd hon i’r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf