Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae llwybr cerdded yn dechcrau o faes parcio Ty'n Llwyn i raeadr enwog o'r enw Rhaeadr Ewynnol.
Mae Llwybr Rhaeadr Ewynnol yn arwain drwy goetir i olygfan dros y rhaeadr - cewch olygfa fendigedig o’r ochr hon i’r afon felly peidiwch ag anghofio’ch camera.
Mae Ty’n Llwyn yn fan gwych i fwynhau picnic â golygfa wrth un o'r byrddau o amgylch y maes parcio.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
O’r maes parcio, dilynwch y llwybr sy’n disgyn drwy’r coetir a daw sŵn yr afon yn uwch wrth ichi agosáu at Raeadr Ewynnol a’r olygfan.
Yna mae'r llwybr yn ymdroelli i fyny drwy'r coed a brigiadau creigiog i olygfan arall â golygfa i Foel Siabod a Phedol yr Wyddfa ar ddiwrnod clir.
Mae’r cyfleusterau yn Nhy'n Llwyn ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn cynnwys:
Mae Mainc Lifio ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Mae Tŷ’n Llwyn 3½ milltir i'r gorllewin o Fetws-y-coed.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Tŷ’n Llwyn ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 765 583.
Ewch ar yr A5 o Fetws-y-coed tuag at Gapel Curig.
Ewch heibio i faes parcio Gae’n y Coed a throwch i’r dde i’r is-ffordd gul yn union cyn y Tŷ Hyll.
Mae’r maes parcio bach milltir i fyny’r ffordd hon, ar y dde.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Betws-y-coed.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.