Yn gyntaf, bachwch eich trwydded bysgota!

Cofiwch – mae’n rhaid i bawb dros 13 oed gael trwydded i bysgota’n gyfreithlon yng Nghymru. 

Gwiriwch is-ddeddfau lleol a chenedlaethol

Mae is-ddeddfau cenedlaethol a lleol ar waith i ddiogelu dyfodol ein pysgodfeydd. Maen nhw’n berthnasol i’n holl ddyfroedd, p’un ai ydyn nhw’n eiddo i glybiau pysgota â gwialen, awdurdodau lleol neu unigolion preifat.

Is-ddeddfau genweirio (rheolau pysgota)

Pryd, ble a beth i’w bysgota

Mae Pysgota yng Nghymru yn cynnwys popeth y mae angen ichi ei wybod am enweirio yng Nghymru. 

Mae’r wefan, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Enweirio, ac a ariennir gan Croeso Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn darparu adnodd cynhwysfawr ar enweirio yng Nghymru ar gyfer ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd.

Gan gydweithio â chlybiau genweirio, ysgrifenwyr, dylanwadwyr a genweirwyr o Gymru, mae’n cynnwys gwybodaeth allweddol ynglŷn â ble, sut a phryd i bysgota yng Nghymru, ar gyfer pob disgyblaeth enweirio.

Cofiwch: os ydych yn ymweld â Chymru, dilynwch siarter ymwelwyr COVID-19 Llywodraeth Cymru.

Genweirio’n gyfrifol

Mae ‘Dal a rhyddhau’ yn hanfodol er mwyn helpu i warchod ac adfer stociau eogiaid a brithyllod y môr yn ein hafonydd.

Ers Mis Ionawr 2020, rhaid dychwelyd pob eog i’r afon gan achosi cyn lleied o niwed iddynt ag sydd bosibl.

Hefyd, rhaid dychwelyd brithyllod y môr sy’n fwy na 60cm,  yn ogystal â phob brithyll y môr cyn 1 Mai ar y rhan fwyaf o afonydd. Gweler ein tudalen Tymhorau agored a chyfyngiadau ar ddulliau ar gyfer brithyllod y môr i gael rhagor o wybodaeth.

Helpu pysgod i oroesi

Mae astudiaethau’n dangos y bydd y rhan fwyaf o bysgod yn goroesi ar ôl cael eu rhyddhau, a gall y cyfraddau goroesi fod cyn uched â 100% os yw’r camau a ganlyn yn cael eu dilyn:

  • Defnyddiwch fachau didagell sengl neu ddwbl bob amser
  • Peidiwch â threulio gormod o amser yn trafod pysgodyn wedi’i fachu
  • Peidiwch â thynnu’r pysgodyn o’r dŵr o gwbl
  • Daliwch y pysgodyn yn y dŵr nes bydd wedi dod ato’i hun yn iawn

Edrych-Golchi-Sychu: helpu i atal rhywogaethau goresgynnol ac ymledol rhag lledaenu

Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn gallu cael effaith niweidiol ar blanhigion, anifeiliaid ac ecosystemau gwledydd Prydain. Maen nhw’n gwneud hyn drwy ledaenu afiechydon, cystadlu am gynefinoedd a bwyd, yn ogystal â dinistrio’r rhywogaethau cynhenid yn uniongyrchol. Gall pysgotwyr ledaenu rhywogaethau goresgynnol o le i le, heb yn wybod, mewn offer gwlyb fel rhwydi ac esgidiau pysgota. 

Da chi, helpwch i atal hyn drwy gofio’r tri cham syml: Edrych, Golchi a Sychu.

Helpwch i gofnodi bywyd gwyllt

Fel pysgotwr, rydych mewn sefyllfa unigryw i helpu i ddiweddaru cofnodion yn ymwneud â bywyd gwyllt; nid yn unig y pysgod yr ydych yn eu dal, ond yr holl rywogaethau a welwch pan fyddwch allan yn pysgota.

Mae’r ap iRecord yn ffordd syml o gofnodi bywyd gwyllt a helpu i gyfrannu at gadwraeth natur, cynllunio, ymchwil ac addysg.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am gofnodi biolegol ar:
Atlas RhBC Cymru neu Ganolfan Cofnodion Biolegol y DU

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar-lein

Os oes gennych chi gyfrif Twitter, gallwch ei ddefnyddio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bysgota, i ofyn cwestiynau i arbenigwyr ac i rannu gwybodaeth. Dyma rai o’r goreuon sy’n trydar am bysgota yng Nghymru ar hyn o bryd:

@NatResWales – Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
@FishAround – Cymuned bysgota ar-lein sy’n helpu pysgotwyr brwd i ddod o hyd i’r llefydd pysgota gorau, i rannu gwybodaeth ac i gadw mewn cysylltiad.

Diweddarwyd ddiwethaf