Prynu trwydded pysgota â gwialen

Bydd angen trwydded pysgota â gwialen ddilys arnoch chi os ydych yn 13 oed neu’n hŷn, ac yn pysgota eog, brithyll, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod:

  • yng Nghymru
  • yn Lloegr (ac eithrio afon Tweed)
  • yn ardal gororau Esk yn yr Alban.

Mae’n rhaid i chi gario eich trwydded pysgota â gwialen bob tro rydych yn pysgota neu gallwch wynebu erlyniad a chael eich dirwyo hyd at £2,500.

Cael trwydded pysgota â gwialen

Nid CNC sy’n rhoi trwyddedau pysgota â gwialen. Ewch i GOV.UK i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i brynu trwydded, fel:

  • mathau o drwyddedau a chyfyngiadau ar wialenni
  • costau trwyddedau
  • amnewid neu ddiweddaru eich trwydded


Gallwch hefyd gael trwydded pysgota â gwialen i oedolion drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd: 0344 800 5386 (gwybodaeth am gost y galwadau

Os ydych yn bwriadu ymweld â Chymru o dramor, gallwch brynu trwydded ar-lein. Rhowch y cyfeiriad y byddwch yn aros ynddo a chadwch eich e-bost cadarnhau fel tystiolaeth bod gennych drwydded.

Ymestyn, amnewid neu ddiweddaru eich trwydded

Ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar 03708 506 506:

  • i amnewid trwydded
  • i newid eich trwydded
  • os nad ydych wedi cael eich trwydded o fewn 15 diwrnod ar ôl talu amdani.

I ymestyn trwydded undydd neu drwydded 8 diwrnod, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd: 0344 800 5386.

Gwybodaeth am gost y galwadau.

Is-ddeddfau genweirio (rheolau pysgota)

Wrth bysgota dŵr croyw, mae'n rhaid i chi ddilyn yr is-ddeddfau (rheolau) hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf