Ar hyn o bryd, yr unig eithriadau i'r canllaw hwn yw ar gyfer afon Hafren neu ei llednentydd yng Nghymru, lle mae is-ddeddfau brys ar waith. Dewch yn ôl yn fuan am y newyddion diweddaraf neu cysylltwch â ni drwy e-bostio fisheries.wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Trwyddedau

Ym mhob achos lle mae pysgotwr yn 13 oed neu'n hyn, rhaid iddynt ddal trwydded gwialen ddilys Asiantaeth yr Amgylchedd.

Eog, brithyll a salmonidau eraill

Wrth bysgota am eog, brithyll a salmonidau eraill:

  • mae angen cael trwydded benodol ar gyfer pob gwialen sy'n cael ei defnyddio
  • afonydd, nentydd, draeniau (ffosydd) a chamlesi – ni chaniateir defnyddio mwy nag un wialen a lein ar y tro
  • cronfeydd dŵr, llynnoedd a phyllau – ni chaniateir defnyddio mwy na dwy wialen a lein ar y tro

Pysgod bras neu lysywod

Wrth bysgota am bysgod bras neu lysywod:

a

  • ni chaniateir defnyddio mwy na phedair gwialen a lein ar y tro.

Gwialenni heb neb yn gofalu amdanynt

  • ni chaniateir gadael gwialen a lein gyda’i abwyd neu’i fachyn yn y dŵr heb neb yn gofalu amdani
  • mae’n rhaid sichrau y gellir cymryd rheolaeth gorfforol ar unwraith o unrhyw wialen a lein sydd wedi ei adael yn y dŵr.

Defnyddio plwm

Gwaherddir defnyddio pwysau plwm gyda’r eithriadau canlynol:

  • ‘dust shot’ plwm o faint 8 (0.06g) a llai
  • pwysau plwm 1oz (28.35g) neu fwy
  • plwm mewn llithiau neu bryfed gyda phwysau arnynt
  • plwm mewn leiniau gyda phlwm ynddynt, ‘swim feeders’ a fflotiau sy’n unioni eu hunain.

Is-ddeddfau gwialen a llinyn Cymru

Darllenwch y datganiad o gadarnhad ar gyfer Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn (Eogiaid a Brithyllod y Môr) Cymru 2017.

Darllenwch Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn (Eogiaid a Brithyllod y Môr) Cymru 2017.

Darllenwch offeryn cadarnhau Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn Afonydd Trawsffioniol.

Darllenwch Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn Afonydd Trawsffiniol 2017.

Darllenwch Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn Afon Hafren (Eogiaid) (Cymru) 2019.

Diweddarwyd ddiwethaf