Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Mae Coed Wyndcliff yn gartref i un o’r golygfannau gorau yn Nyffryn Gwy, sef Nyth yr Eryr.
Mae'r olygfan enwog hon yn edrych dros y tro yn Afon Gwy tuag at bontydd ac aber Hafren ac, ar ddiwrnod braf, gallwch weld bryniau Cotswold a Mendip.
Ceir llwybr cerdded ag arwyddbyst o faes parcio Wyndcliff Isaf i’r olygfan, drwy goetir llawn coed ffawydd a choed yw enfawr.
Llwybr cerdded cylchol yw hwn, y gellir ei ddilyn i gyrraedd yr olygfan yn glocwedd neu’n wrthglocwedd, yn dibynnu ar b'un a fyddai’n well gennych fynd i fyny neu i lawr y 365 o Risiau.
Mae meinciau picnic i’w cael yn y maes parcio.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Crëwyd gwylfa enwog Nyth yr Eryr ym 1828 ar gyfer Dug Beaufort, mewn cyfnod pan oedd golygfannau dramatig fel hyn yn ffasiynol.
Darllenwch yr wybodaeth am y llwybr yn ofalus cyn cychwyn ar eich taith ac yna dilynwch yr arwyddbyst ar gyfer y ffordd rydych yn ei dewis.
Mae Llwybr Picturesque Piercefield prydferth a hanesyddol yn rhedeg drwy Goed Wyndcliff.
Daeth yn llwybr poblogaidd i dwristiaid yn Nyffryn Gwy yn y 18fed ganrif, ac mae nifer o’r nodweddion yn dal i fodoli hyd heddiw.
Am fwy o wybodaeth am Lwybr Picturesque Piercefeld ewch i wefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy.
Mae Llwybr Dyffryn Gwy yn mynd drwy Goed Wyndcliff.
Aiff y llwybr cerdded 136 milltir hir hwn ar hyd afon Gwy rhwng Cas-gwent a Choedwig Hafren.
Gallwch ymuno â'r llwybr o faes parcio Wyndcliff Isaf - cadwch olwg am yr arwydd gwybodaeth a'r arwyddion.
Am fwy o wybodaeth am Lwybr Dyffryn Gwy ewch i wefan Lwybr Dyffryn Gwy.
Mae coetiroedd rhannau isaf Dyffryn Gwy yn rhai o'r coetiroedd harddaf ym Mhrydain.
Mae’r golygfeydd naturiol ysblennydd yma wedi swyno ymwelwyr ers canrifoedd, gan gynnwys arlunwyr a beirdd o Turner i Wordsworth.
Mae golygfannau hanesyddol yn cynnig golygfeydd trawiadol dros geunant ac afon Gwy, tuag at Fôr Hafren a Phontydd Hafren.
Daw pob tymor â rhywbeth arbennig i’w ganlyn; clychau'r gog yn y gwanwyn, dail iraidd yr haf, lliwiau llachar yr hydref, a harddwch silwetau’r coed yn y gaeaf.
Mae yna lwybrau cerdded mewn tair o'n coetiroedd Dyffryn Gwy eraill - Coed Manor, Golygfa Ban a Whitestone.
Lleolir y Coetiroedd Dyffryn Gwy yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy.
Mae'r AHNE yn dirwedd warchodedig rhyngwladol bwysig sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'n cwmpasu darn 58 milltir o Afon Gwy a gydnabyddir am ei golygfeydd trawiadol o’r ceunant, coetiroedd yr hafnau a thir fferm.
Dysgwch fwy am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy
Mae Coetiroedd Dyffryn Gwy yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Mae Coed Wyndcliff 3½ milltir i'r gogledd o Gas-gwent.
Mae yn Sir Fynwy.
Mae Coed Wyndcliff ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 14.
Cyfeirnod grid yr AO yw ST 526 971.
Maes parcio Wyndcliff Isaf (maes parcio ar gyfer Llwybr Nyth yr Eryr)
Dilynwch ffordd yr A466 o Gas-gwent i gyfeiriad Tyndyrn.
Mae maes parcio Wyndcliff Isaf ar y dde ar ôl mynd trwy bentref Llanarfan.
Maes parcio Wyndcliff Uchaf
Dilynwch ffordd A466 o Gas-gwent i gyfeiriad Tyndyrn.
Ewch drwy bentref St Arvans ac ymhen ⅓ milltir, yn union cyn y tro cyntaf yn y ffordd, cymerwch yr is-ffordd ar y chwith i gyfeiriad Wyndcliffe.
Dilynwch y ffordd hon am ⅓ milltir arall ac mae’r maes parcio uchaf ar y dde (y cyfeirnod grid AO yw ST 524 972).
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Cas-gwent.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Maes parcio Wyndcliff Isaf yw man cychwyn Llwybr Nyth yr Eryr drwy’r coetir hynafol i’r olygfan a’r 365 o Risiau.
Mae’r maes parcio mawr yma ar yr A466, ychydig i’r de o bentref Tyndyrn.
Gallwch gerdded yn syth i olygfan Nyth yr Eryr o faes parcio Wyndcliff Uchaf.
Gallwch gyrraedd y maes parcio bach hwn drwy ddilyn is-ffordd gul.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.