Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Mae Coedwig Taf Fechan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, taith fer yn unig o Ferthyr Tudful a chymoedd De Cymru.
Cewch ddarganfod y goedwig heddychlon hon ar ein llwybr cerdded ar lan yr afon sydd wedi’i arwyddo.
Gallwch gychwyn y llwybr o faes parcio Owl's Grove neu faes parcio Pont Cwmyfedwen.
Mae mainc bicnic wrth ymyl maes parcio Owl's Grove.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae'r llwybr cylchol hwn yn arwain trwy goed conwydd tal wrth ochr yr afon fyrlymus.
Gallwch gerdded i raeadr Blaen y Glyn o o'n meysydd parcio Blaen y Glyn Uchaf a Blaen y Glyn Isaf.
Mae'r llwybr o faes parcio Blaen y Glyn Isaf yn fyrrach ac mae iddo lai o ddringfa na'r llwybr o faes parcio uchaf.
Mae'r ddau faes parcio wedi'u lleoli ar yr un ffordd â maes parcio Owl's Grove – dilynwch y ffordd o Owl’s Grove tuag at Gronfa Tal-y-bont a chadwch lygad am arwyddion i’r maes parcio.
Gallwch ymuno â llwybr pellter hir Ffordd y Bannau o'n maes parcio ym Mlaen y Glyn Uchaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Ffordd y Bannau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae llwybr 8 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans yn mynd trwy Goedwig Taf Fechan.
I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr beicio pellter hir hwn, ewch i wefan Sustrans.
Mae Coedwig Taf Fechan yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coedwig Taf Fechan 9 milltir i'r gogledd o Ferthyr Tudful.
Mae yn Sir Powys.
Mae Coedwig Taf Fechan ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 12.
Y cyfeirnod grid AO ar gyfer maes parcio Owl's Grove yw SO 048 162.
Y cyfeirnod grid AO ar gyfer maes parcio Pont Cwmyfedwen yw SO 042 164.
O Ferthyr Tudful, dilynwch yr arwyddion brown a gwyn tuag at Reilffordd Mynydd Aberhonddu.
Ewch ymlaen heibio'r orsaf reilffordd ac yna, ar ôl 1½ milltir, trowch i'r dde ar y cyffordd T i gyfeiriad Tal-y-bont ar Wysg.
Dilynwch yr arwyddion am Dal-y-bont ar Wysg ac mae'r maes parcio ar y dde.
I gyrraedd maes parcio Pont Cwmyfedwen, ewch ymlaen heibio maes parcio Owl’s Grove a throwch i’r dde wrth y gyffordd T ac mae’r maes parcio ar y dde ar ôl ½ milltir.
Yr orsaf agosaf â phrif reilffordd yw Merthyr Tudfil.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl ym maes parcio Owl’s Grove ac ym maes parcio Pont Cwmyfedwen.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.