Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Mae Coed Manor ar gyrion pentref tawel ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Gwy.
Arferai fod yn goetir gweithredol prysur, yn gartref i felinau papur, melin ŷd a melin seidr.
Mae gweddillion pyllau llifio a siarcol ac arwyddion eraill o ddiwydiant yn gorwedd ynghudd yn y goedwig.
Mae'r ddau lwybr cerdded yn fyr ond yn heriol, gan fod angen i chi groesi'r nant mewn sawl man.
Wrth ochr y man parcio mae safle picnic, ardal chwarae i blant ac ardal laswelltog fawr.
Yn ardal chwarae'r plant mae ffrâm ddringo, pont sigledig, trawstiau cydbwyso, a siglenni.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae rheswm da dros alw’r llwybr yn Naid Nant Manor - mae'n croesi'r nant mewn sawl man felly byddwch yn barod am greigiau, dŵr ac ambell naid!
Uchafbwynt y llwybr hwn drwy'r coetir yw golygfan dyffryn Gwenffrwd, sydd â mainc lle gallwch fwynhau’r olygfa.
Mae coetiroedd rhannau isaf Dyffryn Gwy yn rhai o'r coetiroedd harddaf ym Mhrydain.
Mae’r golygfeydd naturiol ysblennydd yma wedi swyno ymwelwyr ers canrifoedd, gan gynnwys arlunwyr a beirdd o Turner i Wordsworth.
Mae golygfannau hanesyddol yn cynnig golygfeydd trawiadol dros geunant ac afon Gwy, tuag at Fôr Hafren a Phontydd Hafren.
Daw pob tymor â rhywbeth arbennig i’w ganlyn; clychau'r gog yn y gwanwyn, dail iraidd yr haf, lliwiau llachar yr hydref, a harddwch silwetau’r coed yn y gaeaf.
Mae yna lwybrau cerdded mewn tair o'n coetiroedd Dyffryn Gwy eraill - Coed Manor, Coed Wyndcliff a Golygfa Ban.
Lleolir y Coetiroedd Dyffryn Gwy yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy.
Mae'r AHNE yn dirwedd warchodedig rhyngwladol bwysig sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'n cwmpasu darn 58 milltir o Afon Gwy a gydnabyddir am ei golygfeydd trawiadol o’r ceunant, coetiroedd yr hafnau a thir fferm.
Dysgwch fwy am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy
Mae Coetiroedd Dyffryn Gwy yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Coed Manor 6 milltir i'r de o Drefynwy.
Mae yn Sir Fynwy.
Mae Coed Wyndcliff ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 14.
Cyfeirnod grid yr AO yw S) 523 062.
Cymerwch ffordd y B4293 o Drefynwy i gyfeiriad Cas-gwent.
Ar ôl 3 milltir, trowch i’r chwith, lle mae arwydd ar gyfer Pennarth (The Narth).
Ewch yn eich blaen ar hyd y ffordd hon a throwch i'r dde yn y groesffordd.
Dilynwch y ffordd hon am 1½ filltir i mewn i'r pentref ac mae'r man parcio ar y chwith, gyferbyn â neuadd pentref Pennarth.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Cas-gwent.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.