Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Maes parcio
Rydym yn gosod system barcio Adnabod Plât Rhifau Awtomatig newydd yn ein maes parcio yng Nghoed Moel Famau.
Dylai'r system newydd yn weithredol ym mis Medi.
Byddwn yn diweddaru'r we dudalen hon â’r dyddiad pan fydd y system yn mynd yn fyw a gwybodaeth am sut mae'n gweithio.
Yn y cyfamser, mae angen i chi dalu'r tâl parcio o £2 y dydd gyda'r arian cywir wrth fynedfa’r maes parcio.
Sylwch y gallai'r maes parcio isaf fod ar gau ar adegau tra bo'r gwaith gosod yn digwydd. Dilynwch yr holl wyriadau a chyfarwyddiadau ar y safle. Bydd y maes parcio uchaf yn parhau ar agor.
Mae Coed Moel Famau yn cynnig diwrnod allan delfrydol i'r teulu.
Mae sawl taith gerdded, amrywiol eu hyd, yn cychwyn o faes parcio, llwybr beicio mynydd gradd las ac ardaloedd chwarae i blant.
Mae llwybr cerdded i ben Moel Famau ac adfeilion Tŵr y Jiwbilî yn cychwyn o'r maes parcio. Adeiladwyd Tŵr y Jiwbilî ym 1810 ar gyfer jiwbilî aur Brenin Siôr III; sydd i'w weld o bell am filltiroedd.
Mae ardaloedd chwarae yn frith o amgylch y coetir ger y maes parcio a gall ymwelwyr iau hefyd ddilyn Llwybr Traciwr y Goedwig.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae'r llwybr byr hwn yn mynd drwy’r coetir ac wrth ochr nant.
Codwch daflen o'r maes parcio a dilynwch y llwybr byr, gwastad hwn.
Dyfalwch pa brint trac sy'n perthyn i ba anifail coetir ac yna ceisiwch ganfod cerfluniau’r anifeiliaid sydd wedi'u cuddio yn y coed.
Mae'r daith hawdd hon yn arwain drwy'r coetir i olygfan.
Mae'r llwybr hwn yn dringo'n serth ond yn gyson trwy'r goedwig i Dŵr y Jiwbilî sy’n sefyll ar gopa Moel Famau.
Moel Famau - 554 metr (1,818 troedfedd) - yw'r copa uchaf ym Mryniau Clwyd ac o'r fan hon ceir golygfeydd ar draws Gogledd Cymru ac i gyfeiriad Gogledd Orllewin Lloegr.
Mae'r llwybr yn dychwelyd trwy gefn gwlad agored ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Mae'r llwybr cyfeiriedig hwn ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn ymdroelli trwy'r goedwig, gan ddringo'n gyson hyd at bwynt uchel ar gyrion y coed sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd dros Lannau Merswy a thu hwnt.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mae’r daith seiclo hon yn ymdroelli drwy goedwig Moel Famau, gan ddringo’n raddol i fan uchel ar gyrion y coed lle mae golygfeydd nodedig dros Lannau Mersi a thu hwnt.
Ar ôl disgynfa aruthrol mae llwybr march a nant i’w chroesi (peidiwch â gwlychu’ch traed!) cyn dychwelyd i’r goedwig.
Ar ôl ymlafnio i fyny esgyniad yr heol goedwig, mae modd gwibio nôl i'r maes parcio.
Mae'r ardaloedd chwarae wedi’u lleoli hwnt ac yma o amgylch y coetir i annog plant i archwilio.
Gallant:
Gwnaed y nodweddion hyn o ddeunyddiau naturiol sy'n ymdoddi i amgylchedd y coetir.
Mae'r ardaloedd chwarae yn agos at y maes parcio ac yn addas ar gyfer plant rhwng 2 a 14 oed.
Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn croesi copa Moel Famau - cadwch lygad am y pyst cyfeirnodi hynod siâp mesen.
Am ragor o wybodaeth gweler Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Coed Moel Famau o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn o gopaon bryngaerog wedi eu gorchuddio â grug; y copa uchaf ym Mryniau Clwyd ydy Moel Famau.
Y tu draw i’r bryniau gwyntog hyn mae Dyffryn Dyfrdwy lle ceir trefi hanesyddol Llangollen a Chorwen.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ymweld â’r AHNE ewch i wefan Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Darganfod mwy am AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yng nghanolfan ymwelwyr ym Mharc Gwledig Loggerheads.
Mae troedffyrdd o amgylch y parc ac sy’n arwain i'r bryniau a'r cymoedd y tu hwnt.
Mae yna gaffi hefyd.Gallwch gerdded o faes parcio Coed Moel Famau i Barc Gwledig Loggerheads ar Ddolen Loggerheads (2¾ milltir/4.3 cilomedr bob ffordd).
Nid oes y llwybr wedi ei arwyddo a byddwn eich cynghori i fynd â map.
Mae Parc Gwledig Loggerheads yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Dinbych a chodir tâl am barcio.
Mae Parc Gwledig Loggerheads yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Dinbych a chodir tâl am barcio.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Parc Gwledig Loggerheads.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys yng Nghoed Moel Fama:
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae’r toiledau ym maes parcio Coed Moel Famau ar agor rhwng 8 y bore a 6 yr hwyr (Hydref hyd Mawrth) a rhwng 8 y bore a 9 yr hwyr (Ebrill hyd Medi).
Mae Coed Moel Fama 5 milltir i’r de-orllewin o’r Wyddgrug.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae Coed Moel Fama ar fap Arolwg Ordnans (OS) Explorer 265.
Cyfeirnod grid yr OS yw SJ 170 610.
Ewch ar yr A494 o’r Wyddgrug tuag at Ruthun. Ar ôl mynedfa Parc Gweldig Loggerheads, ceir arwydd brown a gwyn i Barc Gwledig Moel Fama ar y dde.
Mae maes parcio Coed Moel Fama ar yr ochr dde ar ôl milltir.
Mae’r orsaf drenau agosaf ym Mwcle.
Am fanylion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Y pris am barcio ym maes parcio Coed Moel Famau yw £2 y dydd.
Mae angen i chi dalu'r gost yma gyda'r arian cywir wrth gyrraedd.
Gallwch brynu un drwydded barcio i'w defnyddio mewn maes parcio Coed Moel Famau ac ym meysydd parcio Bwlch Pen Barras a Pharc Gwledig Loggerheads.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Gallwch brynu un drwydded barcio i'w defnyddio mewn tri maes parcio - Coed Moel Famau, Bwlch Pen Barras a Pharc Gwledig Loggerheads.
Mae'r drwydded yn costio £30. Mae'n ddilys tan 31 Mawrth, ni waeth pryd y byddwch yn ei brynu. Os byddwch yn ei brynu ar 1 Ebrill bydd gennych ddeuddeng mis llawn o barcio. Os byddwch yn ei brynu ar 1 Mawrth, byddwch yn gallu ei ddefnyddio am fis nes iddo ddod i ben ar 31 Mawrth.
Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen ac wedi talu £30, byddwn yn anfon cerdyn sweipio atoch a hyd at ddwy ddisg i'w harddangos yn eich car/ceir.
Mae holl waith gweinyddol ar gyfer trwyddedau blynyddol y meysydd parcio Coed Moel Famau bellach yn cael eu ddelio gyda gan staff Canolfan Ymwelwyr yr AHNE ym Mharc Gwledig Loggerheads. Gallwch gysylltu â nhw drwy’r manylion isod:
Ffôn: 01824 712757
E-bost: loggerheads.countrypark@denbighshire.gov.uk
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.