Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Lle picnic heddychion ar lan y llyn gyda llwybr cerdded byr a llwybr beicio
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Bod Petryal yn un o blith sawl safle parcio a phicnic yng Nghoedwig Clocaenog.
Mae’n fan cychwyn delfrydol er mwyn cael blas ar yr ardal enfawr hon o goetir, gweundir agored, ac afonydd.
Arferai’r ardal hon fod yn rhan o Ystad Pool Park ac mae Bod Petryal wedi’i enwi ar ôl hen fwthyn y ciper.
Mae llwybr cerdded Tro’r Ciper yn mynd drwy goed conwydd hynaf y goedwig a heibio bwthyn y ciper.
Oherwydd ei milltiroedd lawer o ffyrdd coedwig tawel, mae Coedwig Clocaenog yn lleoliad delfrydol ar gyfer beicio gyda’r teulu, ac mae llwybr beicio byr â nodwyr llwybr arno yn cychwyn o Fod Petryal.
Mae Coedwig Clocaenog yn gartref i wiwerod coch. Mae’r anifeiliaid dirgel hyn yn symud ar hyd ardaloedd eang iawn, felly rhaid ichi graffu – a chroesi eich bysedd – yn y gobaith o weld un!
Yn y safle picnic mae meinciau o amgylch llyn mawr.
Mae'r llwybrau wedi'u cyfeirnodi ac maen nhw’n cychwyn o'r maes parcio.
Mae’r daith gerdded fer hon yn mynd heibio coed enfawr, hen fwthyn y ciper, a’r llyn hardd.
Mae’r Llwybr Darganfod Anifeiliaid yn cychwyn ar yr un llwybr â Thaith Gerdded y Ceidwad.
Mae’r ffordd hon yn crwydro trwy’r goedwig ar ffyrdd y goedwig ac mae'n addas ar gyfer y teulu i gyd.
Gall cerddwyr, beicwyr a marchogion ei ddefnyddio.
Chwiliwch am gnocell y coed wrth fwynhau picnic ar ymyl y llyn.
Mae Bod Petryal 8 milltir i’r de-orllewin o Ruthun.
Mae yn Sir Ddinbych.
Mae parcio’n ddi-dâl yn y maes parcio hwn.
© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741
Cymerwch ffordd y B5105 o Ruthun i Gerrigydrudion.
Ewch drwy bentref Clawddnewydd ac, yn fuan ar ôl pasio maes parcio Boncyn Foel Bach, mae maes parcio Bod Petryal ar y chwith.
Mae Bod Petryal ar fap Arolwg Ordnans (AR) 264.
Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans yw SJ 036 512.
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
0300 065 3000