Cynaeafu cocos yn Aber Afon Dyfrdwy

Cynaeafwyr masnachol

Rhaid i gynaeafwyr masnachol gael trwydded i gasglu cocos.

Aelodau o'r cyhoedd

Caiff aelodau'r cyhoedd gymryd hyd at 5kg o gocos y dydd at ddefnydd personol, ond dim ond o welyau cocos agored.

Bydd gwelyau cocos yn cael eu hagor a’u cau’n unigol, yn dibynnu ar lefelau’r cynaeafu a chanlyniadau arolygon, yn ôl disgresiwn Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn diogelu lefel gynaliadwy o’r boblogaeth.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, i drafod cymeradwyaeth, neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am welyau cocos agored a chaeedig, cysylltwch â ni.

Anfonwch e-bost at enquiries@naturalresourceswales.gov.uk.

Ysgrifennwch atom yn Canolfan Cwsmeriaid, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 OTP.

Ffoniwch 0300 065 3000.

Diweddarwyd ddiwethaf