Diheintio gêr pysgota i reoli afiechydon pysgod
Dulliau diheintio offer
Dau ddull diheintio cyffredin a ddefnyddir i helpu i rwystro afiechydon pysgod rhag lledaenu yw:
- sychu offer yn drylwyr am o leiaf 48 awr, os yn bosibl yng ngolau’r haul
- defnyddio diheintyddion cemegol (yn bennaf sylweddau seiliedig ar ïodin)
Mae’n well sychu yn yr haul os gellir ond efallai na fydd hynny bob amser yn ymarferol. Yn yr achos hwn, gellir defnyddio diheintyddion cemegol.
Sut i ddiheintio eich gêr pysgota
Tynnwch yr holl fwd a malurion oddi ar eich offer.
Defnyddiwch eich dewis ddiheintydd i drochi neu i chwistrellu’r offer. Gadewch y cemegyn arnynt am o leiaf 10 i 15 munud.
Rinsiwch y diheintydd i ffwrdd gyda dŵr glân. Cofiwch gael gwared o’r diheintydd a ddefnyddiwyd mewn ffordd nad yw'n niweidio'r amgylchedd - peidiwch byth â'i arllwys i ddŵr sy'n cynnwys pysgod neu fywyd dyfrol arall.
Mae rhai diheintyddion yn gallu cynnwys cemegau peryglus. Mae'n bwysig eich bod yn dilyn labeli'r cynnyrch a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwisgwch ddillad ac offer amddiffynnol pan fyddwch yn gwanhau diheintyddion er mwyn diogelu eich llygaid a'ch croen. Os ydych yn ansicr, gofynnwch am gyngor gan y cyflenwyr. Hefyd, dylid dilyn canllawiau'r gwneuthurwr ar sut i gael gwared â diheintydd
Cemegion diheintwyr
Pan fyddant yn actif, mae cynhyrchion ïodin (ïodophorau) yn sylwedd brown tywyll. Fodd bynnag, os cânt eu gadael mewn golau am gyfnod hir byddant yn dod yn anweithredol ac yn troi’n ddi-liw.
Mae’r broses o wanhau iodophorau yn amrywio yn ôl y cynnyrch felly dylech ddilyn canllawiau'r gwneuthurwr bob amser.
Dilynwch gamau bioddiogelwch da
Mae camau bioddiogelwch da yn allweddol i gadw ein hafonydd a’n pysgodfeydd yn iach.
Mae planhigion ac anifeiliaid goresgynnol yn niweidio’r amgylchedd, yn effeithio ar ansawdd pysgota ac yn lledaenu afiechydon.
Helpwch i’w stopio drwy ddefnyddio’r cod Edrych, Golchi, Sychu.
Cysylltu â ni
Os ydych angen rhagor o wybodaeth am ddiheintio neu afiechydon pysgod cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i fisheries.wales@cyfoethnaturiol.cymru neu drwy ffonio 0300 065 3000.