Datganiadau i'r wasg a datganiadau i’r cyfryngau

Mae hyn yn rhan o'r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi.

Mae'r cynnig hwn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd. 
 
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Gorffennaf 2024. 

Mae angen cyhoeddi cynnwys mewn ffordd sy'n ei gwneud hi’n hawdd i ddefnyddwyr ddod o hyd iddo, ei ddeall a'i ddefnyddio. Rhaid iddo fod yn hygyrch i unrhyw un sydd am ei ddefnyddio, oni bai ei fod wedi'i eithrio o dan y gyfraith.

Mae defnyddwyr yn dod i'n gwefan gyda thasg benodol mewn golwg. Maent am ei wneud mor gyflym ac mor hawdd â phosibl. 

Gall ein mathau o gynnwys ein helpu i benderfynu:

  • beth yw pwrpas y cynnwys 
  • lle byddwn yn ei gyhoeddi
  • sut byddwn yn ei gyhoeddi

Canllawiau i helpu defnyddwyr i gyflawni tasg

Mae canllawiau'n helpu defnyddwyr i gwblhau tasg; p'un ai i ddarganfod rhywbeth, dweud rhywbeth wrthym, neu wneud cais am rywbeth. 

Enghreifftiau o dasgau defnyddwyr

Mae defnyddwyr yn dod i'n gwefan gyda thasg benodol mewn golwg, er enghraifft:

  • darganfod a all rhywun fynd â'm gwastraff peryglus i ffwrdd
  • gwirio a oes tanc septig wedi'i gofrestru ar gyfer tŷ rydw i eisiau ei brynu
  • cael gwybod faint fydd cost trwydded i ddechrau fy musnes newydd
  • gwneud cais am grant ar ran grŵp gwirfoddol i adfer mawndir yn fy ardal
  • darganfod a ydw i'n gallu llosgi gwastraff gardd rydw i wedi'i gasglu wrth wneud fy ngwaith fel garddwr
  • darganfod a ydw i'n cael defnyddio peiriant canfod metel ar dir CNC
  • cael rhybuddion llifogydd wedi’u hanfon ataf
  • darganfod a allaf bysgota am frithyll ar afon benodol
  • cael gwybod beth i'w wneud am ystlumod yn nho fy nhŷ

Bydd pobl yn gallu dod o hyd i'n cynnwys a'n gwasanaethau, eu deall, a'u defnyddio os yw’r cynnwys a’r gwasanaethau hynny wedi'u datblygu o amgylch tasgau defnyddwyr.

Sut mae cynnwys yn cael ei greu 

Dylunwyr cynnwys sy’n gyfrifol am sut mae cynnwys yn cael ei ysgrifennu a'i strwythuro. Ac arbenigwyr pwnc sy’n gyfrifol am y ffeithiau. 

Rhaid i angen defnyddiwr â thystiolaeth fod yn sail i bob cynnwys.

Bydd cynnwys yn cael ei ysgrifennu yn unol â'r canllaw arddul a chanllawiau ysgrifennu ar gyfer y we.

Cysylltwch â'r tîm digidol cyn gynted ag y byddwch chi'n credu bod angen cynnwys newydd neu ddiwygiedig ar ddefnyddwyr.


Papurau Bwrdd neu chofnodion cyfarfodydd

Rydym yn cyhoeddi papurau bwrdd a chofnodion ar ein gwefan. Rydym hefyd yn cyhoeddi nodiadau o gyfarfodydd sawl fforwm CNC.

I greu papurau y gallwn eu cyhoeddi:

Anfonwch eich dogfennau hygyrch at y tîm digidol gan ddefnyddio'r ffurflen cais am gynnwys.


Gwybodaeth gorfforaethol: cynlluniau, adroddiadau, strategaethau a pholisïau

Gall strategaethau, cynlluniau, polisïau ac adroddiadau corfforaethol:

  • osod ein trywydd
  • egluro ein blaenoriaethau
  • esbonio sut y byddwn yn cyflawni amcanion
  • disgrifio’r hyn sy’n digwydd

Dyma ambell enghraifft:

  • Y Cynllun Corfforaethol
  • Yr Adroddiad Blynyddol
  • Y Strategaeth Grant
  • Y Polisi Gorfodi a Sancsiynau

Sut rydym yn cyhoeddi'r math hwn o gynnwys

Bydd yr holl strategaethau, cynlluniau, polisïau ac adroddiadau yn cael eu cyhoeddi fel cynnwys gwe, fel y strategaeth fasnachol. Mae cynnwys gwe yn addasu i feintiau sgrin pobl gan ei gwneud hi'n haws i bob defnyddiwr ddarllen a sganio. Mae hefyd yn gwneud y cynnwys yn fwy hygyrch i bawb.

Nid ydym yn cyhoeddi dogfennau oherwydd:

  • nid ydynt yn addasu i faint sgrin pobl
  • mae’n anodd dod o hyd iddynt a mynd drwyddynt, yn enwedig i bobl sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol
  • rhaid eu lawrlwytho er mwyn eu gweld, sy’n creu rhwystr i fynediad
  • gallant fod yn gostus i'w cynhyrchu
  • ni ellir eu mesur o ran ymgysylltiad defnyddwyr

Dylai'r cynnwys ddilyn ein canllaw arddull a'n canllawiau ysgrifennu ar gyfer y we. Darllenwch y rhain i ddarganfod sut i ysgrifennu eich teitl, crynodeb, a’r prif destun.

Pan fyddwch yn creu strategaeth neu gynllun i’w gyhoeddi ar ein gwefan:

  • peidiwch â defnyddio tablau i drefnu testun - defnyddiwch restrau bwled ac is-benawdau
  • peidiwch â defnyddio troednodiadau - sicrhewch fod yr holl gynnwys yn y prif gorff
  • defnyddiwch gyn lleied â phosib o ddelweddau
  • ychwanegwch destun amgen o dan unrhyw ddelweddau hanfodol
  • os gallwch gyfleu gwybodaeth mewn ffordd gryno, glir gyda thestun, dewiswch hyn dros siart neu graff

Cofiwch ddefnyddio ffurf brawddeg (Sentence case) ar gyfer teitlau tudalennau a rhowch y dyddiad yn y teitl os yw’r dudalen yn rhan o gyfres sydd â’r un teitl, er enghraifft:

Adroddiad Blynyddol 2022

Adroddiad Blynyddol 2021

Adroddiad Blynyddol 2020


Ymgynghoriadau a hysbysiadau cyhoeddus

Rydym yn cyhoeddi ymgynghoriadau a hysbysiadau cyhoeddus ar Citizen Space a'n gwefan.

Cyhoeddir y rhan fwyaf o ymgynghoriadau ar Citizen Space, gan gynnwys:

  • polisi neu strategaeth newydd neu sydd wedi newid
  • cynlluniau adnoddau coedwigoedd
  • taliadau am drwyddedau
  • newidiadau i drwyddedau rheolau safonol
  • cynlluniau rheoli’r risg o lifogydd

Rydym yn cyhoeddi'r canlynol ar ein gwefan:

  • trwyddedau amgylcheddol
  • trwyddedau morol
  • trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr
  • trwyddedau a gorchmynion sychder

Citizen Space: cyhoeddi ymgynghoriadau

Rhaid dylunio ymgynghoriadau gyda chynulleidfa ddigidol ac ymatebion digidol mewn golwg.

Peidiwch â chreu ymgynghoriadau i'w hargraffu ac yna ceisio gwasgu hynny i sefyllfa ddigidol.

Mae hyn yn golygu:

Os oes rhaid i chi gynnwys dogfennau, gwnewch yn siŵr eu bod yn rhai hygyrch. 

Cofiwch weithio gyda'ch partner cyfathrebu ar unrhyw ymgynghoriadau ar Citizen Space.

Ymgynghoriadau a gyhoeddir ar ein gwefan

Caiff ymgynghoriadau a hysbysiadau cyhoeddus eu cyhoeddi yn 'trwyddedau a chaniatadau'.


Adroddiadau tystiolaeth

Rhaid i adroddiadau tystiolaeth a gyhoeddir gennym fod yn hygyrch p'un a ydynt yn cael eu cynhyrchu gennym ni, neu’n cael eu comisiynu gennym ni a'u cynhyrchu gan eraill.

Dylai crëwyr dogfennau ddilyn ein:


Blogio

Mae blogio yn ei gwneud hi'n haws inni siarad am ein gwaith, rhannu gwybodaeth, a chysylltu â phobl sydd â diddordeb.

Gall eich helpu i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau presennol, a rhai newydd, gall dynnu sylw at lwyddiannau a’r hyn ry’n ni’n ei ddysgu, a gall ysgogi sgyrsiau gyda'r cyhoedd.

Pryd i ddefnyddio blogiau

Defnyddiwch flogiau ar gyfer:

  • disgrifio unrhyw waith ry’ch chi’n ei wneud neu'n meddwl amdano
  • amlinellu ymarfer neu theori newydd mewn maes penodol
  • rhannu syniadau a'r hyn ry’ch chi’n ei ddysgu
  • gwahodd barn ar gynlluniau neu ddatblygiadau

Arddull a thôn y llais

Dylai'r holl gynnwys ar ein gwefan ddilyn ein canllaw ysgrifennu ar gyfer y we a'r canllaw arddull.

Mae blogio yn cynnig ffordd bersonol o ymgysylltu â phobl. Cânt eu hysgrifennu gan awdur sydd wedi’i enwi -  gan wneud i’r sefydliad deimlo’n agosach at y cyhoedd. Mae’r elfen bersonol hon yn ychwanegu hygrededd ac ymdeimlad o fod yn agored.

Mae hyn yn golygu y dylech ysgrifennu fel ry’ch chi’n siarad. Ysgrifennu fel unigolyn, nid fel sefydliad neu dîm amhersonol.

Dylech ddilyn y canllaw arddull - ond nid yw hyn yn golygu na allwch fod yn gynnes, yn onest neu’n bersonol. Mae’r pethau hyn yn bwysig.

Fe ddylai blogiau sbarduno sgyrsiau. Mae hyn yn golygu bod yn atebol am y pethau rydych chi'n eu hysgrifennu a gweithio gyda'r tîm cyfathrebu i ymateb i unrhyw sylwadau.

Bydd hyn yn helpu i wella profiad ein defnyddwyr ac yn ein helpu i ddysgu mwy amdanyn nhw.

Ar ôl i chi ysgrifennu blog, darllenwch e’n uchel i wneud yn siŵr ei fod wedi'i ysgrifennu mewn arddull reit lafar. Pan fyddwch chi'n hapus, gofynnwch i rywun arall ei ddarllen.

Strwythur

Dylai fod gan eich blog deitl sy'n dweud wrth ddarllenwyr beth yw pwrpas y postiad, gan eu denu i'w ddarllen.

Torrwch y testun i fyny gyda pharagraffau, penawdau, delweddau a phwyntiau bwled i wneud y blog yn haws i'w ddarllen ar sgrin. Dylai paragraffau ddim bod yn fwy na rhyw 5 llinell o hyd er mwyn bod yn hawdd i'w darllen.

Dylai fod gan bob blog o leiaf un llun. Dylai lluniau:

  • fod â thestun amgen sy'n disgrifio'r ddelwedd ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu ei gweld neu sy'n defnyddio darllenydd sgrin
  • bod â theitl os ydyn nhw'n sgrinlun neu'n cyfleu gwybodaeth
  • nodi manylion perchnogaeth priodol er mwyn osgoi torri hawlfraint

Os ydych yn defnyddio dolenni, gwnewch yn siŵr eu bod wedi'u hymgorffori yn y testun. Ceisiwch osgoi testun cyswllt sy'n dweud 'Cliciwch yma' - ceisiwch eirio testun y ddolen mewn ffordd y bydd defnyddwyr yn gwybod i ba wefan y byddant yn mynd drwy glicio ar y ddolen.

Galwad i weithredu

Ar ddiwedd eich blog, meddyliwch am eich ‘galwad i weithredu’. Gallai hyn, er enghraifft, ofyn i'ch cynulleidfa:

  • fynychu digwyddiad
  • dilyn cyfrif cyfryngau cymdeithasol
  • gadael sylw ac ymuno mewn sgwrs
  • darllen postiadau cysylltiedig (y gallwch eu hychwanegu gan ddefnyddio'r blwch 'postiadau cysylltiedig')

Cyflwyno eich blog

Anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau a'ch lluniau at y tîm cyfathrebu.

Templed

Awdur:

Teitl y Blog:

Cynnwys y blog:

Crynodeb i gloi neu alwad i weithredu:

Disgrifiad o'r lluniau a manylion unrhyw un y mae angen i ni roi credyd iddynt:


Astudiaeth Achos

Dim ond gwybodaeth ymarferol y mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr ei heisiau. Gall astudiaethau achos fod yn wrthgynhyrchiol yn hyn o beth - jyst rhywbeth ychwanegol i'r defnyddiwr ei ddarllen. Gallant hefyd gymhlethu canlyniadau chwilio.

Nid ydym felly’n cyhoeddi astudiaethau achos.

Os mai'r nod yw helpu i egluro canllawiau, yna mae'n well canolbwyntio ar eirio’r canllawiau yn dda.

O ran sefyllfaoedd sydd o ddiddordeb dros dro yn unig - er enghraifft hyrwyddo ein data neu ein gwasanaethau - byddai hynny’n well fel stori newyddion, datganiad i'r wasg, neu flog. Siaradwch â'r tîm cyfathrebu.


Adnoddau addysg

Ysgrifennu cynnwys addysg

Dylai'r cynnwys ddilyn ein canllaw arddull a'n canllawiau ysgrifennu ar gyfer y we.

Teitlau tudalennau

Rhaid i deitlau tudalennau wneud synnwyr. Dylai'r teitl ddarparu cyd-destun llawn fel y gall defnyddiwr ddweud yn hawdd a yw wedi dod o hyd i'r hyn y mae'n chwilio amdano.

Mae 'Llifogydd Llanelwy 2012: adnoddau addysgol'

yn well na

‘Llanelwy’

Creu is-deitl

Dyma'r testun a fydd yn ymddangos o dan ddolen y dudalen mewn canlyniad chwiliad mewnol. Efallai y bydd yn ymddangos mewn canlyniad Google os ydym yn ei ddefnyddio fel y disgrifiad meta hefyd.

Defnyddiwch hwn i helpu'r defnyddiwr i benderfynu a ddylai glicio ar y ddolen a gweld y dudalen gyfan.

Un frawddeg yw’r is-deitl a rhaid iddi fod o dan 160 nod.

Delweddau a fideos

Rhaid i ddelweddau a fideos fod yn hygyrch. Ar gyfer delweddau dilynwch y canllawiau a nodir yn ein canllaw dogfennau hygyrch. Mae gan y Web Accessibility Initiative (WAI) ganllaw defnyddiol ar gyfer gwneud cyfryngau sain a fideo yn hygyrch.


Swyddi, lleoliadau a phrentisiaethau

Mae gwybodaeth am swyddi gwag, prentisiaethau, lleoliadau gwaith, profiad gwaith a gwirfoddoli yn cael eu cyhoeddi yn 'Amdanom ni'.

Mae swyddi gwag yn cael eu cyhoeddi a'u dileu gan y tîm recriwtio.

Mae cyfleoedd eraill, fel prentisiaethau a chyfleoedd gwirfoddoli, yn cael eu cyhoeddi gan y tîm digidol.  

Cyhoeddi swyddi gwag

Rydym yn dilyn y canllaw arddull a chanllawiau ar ysgrifennu ar gyfer y we gan gynnwys:

  • priflythrennau ar gyfer teitlau swyddi (e.e. Swyddog Trwyddedu Ansawdd Dŵr)
  • ysgrifennu is-benawdau gyda phriflythyren ar y dechrau

Ychwanegu is-deit

Dyma'r testun a fydd yn ymddangos mewn canlyniad chwiliad mewnol o dan ddolen y dudalen. Efallai y bydd yn ymddangos mewn canlyniad Google os ydym yn ei ddefnyddio fel y disgrifiad meta hefyd.

Defnyddiwch hwn i helpu'r defnyddiwr i benderfynu a ddylai glicio ar y ddolen a gweld y dudalen gyfan.

Mae'r is-deitl yn un frawddeg ac o dan 160 nod.


Datganiadau i'r wasg a datganiadau i’r cyfryngau

Mae datganiadau i'r wasg a’r cyfryngau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol drwy e-bost at gysylltiadau'r cyfryngau gan y tîm cyfathrebu. Cânt eu cyhoeddi hefyd yn adran 'Newyddion' ein gwefan a'u hyrwyddo ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Rhaid eu cyhoeddi gan ddefnyddio’r templed ‘datganiad newyddion’ a chynnwys y canlynol:

  • dyddiad cyhoeddi’r erthygl
  • dyfyniad
  • dolenni i erthyglau, canllawiau neu ymgynghoriadau cysylltiedig
  • llun

Straeon sy’n cael sylw

Bydd y datganiad diweddaraf i'r wasg neu i'r cyfryngau yn ymddangos ar y dudalen lanio 'newyddion'.

Gofynion ysgrifennu a fformatio

Cysylltwch â'r tîm cyfathrebu. Dylai'r holl gynnwys ddilyn y canllaw arddull  a’r wcanllawiau ysgrifennu ar gyfer y we.

Teitl

Dylech gadw'r teitl yn fyr. Dylai grynhoi’r hyn mae'r erthygl yn sôn amdano. 

Mae pob datganiad i'r wasg yn dechrau gyda 'Datganiad i'r wasg' yn y teitl. Er enghraifft, datganiad i'r wasg: Llygod pengrwn y dŵr yn cael eu hailgyflwyno yng ngwarchodfa natur Oxwich.

Mae pob datganiad i’r cyfryngau yn dechrau gyda 'Datganiad' yn y teitl. Er enghraifft, Datganiad: Rheolaeth newydd ar reoliadau llygredd amaethyddol.

Cyflwyniad

Un frawddeg heb fod yn fwy na 30 gair yn crynhoi’r stori gyfan, sef beth yw'r gweithgaredd a sut bydd hyn yn helpu'r amgylchedd. Pe bai'n rhaid i chi leihau'r stori i un frawddeg, dyna fyddai hi.

Copi corff

Dechreuwch gyda'r darn pwysicaf, yna'r darn pwysicaf nesaf ac yn y blaen. Dylai pobl allu gadael y stori hanner ffordd drwyddi a dal i ddeall yr hyn ydych chi'n ceisio'i gyfleu.

Ac eithrio'r cyflwyniad, ni ddylai brawddegau fel arfer fod yn fwy na 25 gair. A dylai hyd brawddegau amrywio. Mae hyn yn atal undonedd ac yn cynorthwyo dealltwriaeth. Mae hefyd yn eich helpu i atalnodi gyn lleied ag sydd bosibl. 

Peidiwch byth â defnyddio gair hir pan fydd gair arall byrrach ar gael. 

Dylai pob brawddeg ymddangos fel paragraff ar wahân.

Dim ond yng nghorff y testun y dylid cael dolenni ac nid mewn 'dolenni cysylltiedig'.

Dylai’r cyfrif geiriau fod o leiaf 200 gair ac fel arfer yn llai na 400.

Dyfyniadau

Rhaid i bob dyfyniad fod yn y fformat 'dyfyniad'.

Dylent ddechrau bob amser gydag enw'r person sy’n cael ei ddyfynnu ac yna ei deitl ac enw'r sefydliad. Dylid defnyddio teitl y person sy’n cael ei ddyfynnu bron bob amser. 

Mae dyfynodau yn cael eu hagor ar ddechrau pob paragraff ond dim ond ar ddiwedd y dyfyniad y byddant yn cael eu cau.

Er enghraifft: 

Meddai Kelly McLauchlan, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r glaw trwm sy’n cael ei ragweld yn debygol o achosi problemau mewn rhannau o’r De a’r Canolbarth dros nos a hyd at bore yfory, felly rydym yn cynghori pobl i ofalu fod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf drwy wrando ar rybuddion llifogydd ar gyfer eu hardaloedd.
“Mae ein timau wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i wneud paratoadau ac i leihau unrhyw risgiau posibl i gymunedau.
"Yn yr achosion prin iawn lle nad ydych yn dymuno enwi’r person (er enghraifft, lle gallai hynny arwain at fwy o risg i’r unigolyn dan sylw) mae dyfynnu “llefarydd” yn dderbyniol, ond ceisiwch osgoi hyn lle bynnag y bo modd." 

Amserlen cadw

Caiff datganiadau i'r wasg a datganiadau i'r cyfryngau eu dileu ar ôl 2 flynedd.

Bydd datganiadau i'r wasg a datganiadau cyfryngau prosiect LIFE yn cael eu dileu 5 mlynedd ar ôl i'r prosiectau ddod i ben.


Prosiectau

Mae’r tîm cyfathrebu’n cyhoeddi gwybodaeth am brosiectau CNC ar Citizen Space.

Mae hyn ar gyfer:

  • prosiectau proffil uchel CNC
  • prosiectau hirdymor sy’n effeithio ar bobl (er enghraifft, cau llwybrau am gyfnod hir neu rai sy’n achosi problemau teithio)
  • Prosiectau a ariennir gan LIFE

Mae pob prosiect arall yn cael ei ystyried fesul achos gan y tîm cyfathrebu.

Citizen Space: prosiectau cyhoeddi

Cynlluniwch dudalennau prosiect gyda chynulleidfa ddigidol mewn golwg.

Mae hyn yn golygu:

Rhaid i unrhyw logos sydd angen eu cynnwys fod ar waelod y dudalen.

Gellir defnyddio lluniau a fideos ond rhaid iddynt fod yn hygyrch.

Os oes rhaid i chi gynnwys dogfennau, gofalwch eu bod yn rhai hygyrch. 

Cofiwch weithio gyda'ch partner cyfathrebu ar unrhyw brosiectau ar Citizen Space.

Enghraifft o dudalennau prosiect

Cyfnod cadw

Bydd tudalennau prosiect LIFE yn cael eu cadw gan y tîm digidol am o leiaf 5 mlynedd ar ôl diwedd y prosiect.

Dylid adolygu tudalennau prosiect eraill 6 mis ar ôl i'r prosiect ddod i ben oni bai ei fod yn dal i fod o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd. Gall y tîm cyfathrebu drafod dileu gyda’r tîm digidol os oes angen.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf