Asesiad ansawdd dŵr afonydd gwarchodedig yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn asesu cydymffurfiaeth Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) Cymru â thargedau ar gyfer saith nodwedd ansawdd dŵr:

  • Ocsigen Tawdd
  • Y Galw Biolegol am Ocsigen
  • Cyfanswm Amonia
  • Amonia heb ei ïoneiddio
  • Mynegai Diatomau Troffig
  • pH
  • Y Gallu i Niwtralu Asidau

Adroddwyd am fethiannau i gyrraedd targedau ansawdd dŵr yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy, Afon Eden, Afon Gwyrfai, Afonydd Cleddau, Afon Teifi, Afon Wysg ac Afon Gwy.

O ran yr asesiad hwn, yr ACAau lle cafwyd y nifer mwyaf o fethiannau o ran targedau oedd Afonydd Cleddau, Afon Wysg, Afon Gwy ac Afon Teifi.

Roedd mwyafrif y methiannau ar gyfer y Galw Biocemegol am Ocsigen (methodd 41% o'r cyrff dŵr a aseswyd i gyrraedd y targed) a’r Mynegai Diatomau Troffig (methodd 45% o'r cyrff dŵr a aseswyd i gyrraedd y targed).

Adroddir am nifer fechan o fethiannau o ran Ocsigen Tawdd a Chyfanswm Amonia, ac un methiant ar gyfer Amonia heb ei ïoneiddio a’r Gallu i Niwtralu Asidau.

Ni adroddwyd am unrhyw fethiannau ar gyfer pH.

Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion i fynd i’r afael â methiannau ansawdd dŵr yn ein hafonydd gwarchodedig.

Targedau a dulliau asesu

Gosodir y targedau a’r dulliau asesu ar lefel y DU gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur ac maent yn rhan o’r amcanion cadwraeth ar gyfer nodweddion yr ACA afonol.

Cynhaliwyd yr asesiad trwy rannu pob ACA yn gyrff dŵr, sef darnau unigol o afonydd. Aseswyd cyfanswm o 119 o gyrff dŵr (o 127 o rai posibl) am un neu fwy o nodweddion.

Defnyddiwyd data ansawdd dŵr o gyfnod o dair blynedd (1 Ionawr 2017 – 31 Rhagfyr 2019) i asesu cydymffurfiaeth â’r targedau.

Defnyddiwyd y cyfnod hwn er mwyn bod yn gyson ag Asesiad Cydymffurfiaeth ACA Afonydd Cymru yn Erbyn Targedau Ffosfforws, sy'n ategu'r adroddiad hwn.

Ceir naw ACA yng Nghymru gyda nodweddion afonol:

  • Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid
  • Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn
  • Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion (Afon Glaslyn)
  • Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd
  • Afon Teifi
  • Afonydd Cleddau
  • Afon Tywi
  • Afon Wysg
  • Afon Gwy

Gallwch ddod o hyd i'r Cynlluniau Rheoli Craidd ar gyfer pob ACA trwy fynd i'n tudalen chwilio safle gwarchodedig a darllen y dogfennau atodedig.

Diweddarwyd ddiwethaf