Diweddariad i dargedau ffosfforws ar gyfer cyrff dŵr mewn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru

Fel rhan o’r ffocws ar ansawdd dŵr afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru, rydym wedi adolygu’r cyrff dŵr o fewn cwmpas targedau ACA, ac wedi gwneud newidiadau i’r targedau ffosfforws ar gyfer chwe chorff dŵr hefyd. Mae'r adolygiad hwn yn rhan o'r broses gosod targedau ansawdd dŵr ar gyfer afonydd ACA ac yn gweithredu argymhellion yn Asesiad Cydymffurfedd Afonydd ACA Cymru  yn erbyn Targedau Ffosfforws (Hatton-Ellis a Jones, 2021) (Saesneg yn unig).

Yn y dyfodol y nod yw gwneud adolygiad llawn o'r holl dargedau ansawdd dŵr ar gyfer cyrff dŵr sy'n rhan o afonydd ACA, felly penderfynwyd gweithredu'r mân newidiadau hyn ar unwaith yn hytrach nag aros. Manylir ar y newidiadau isod (Tabl 1).  

O ganlyniad i'r adolygiad, mae dau gorff dŵr wedi'u tynnu a phedwar wedi'u hychwanegu oherwydd mân anghysondebau yn y mapiau. Mae hyn yn bennaf oherwydd cyrff dŵr nad ydynt yn alinio â ffin yr ACA a hefyd oherwydd yr wybodaeth ddiweddaraf am leoliad nodweddion perthnasol yr ACA.

Yn ogystal, mae targedau ar gyfer pum corff dŵr wedi'u tynhau ac ar gyfer un corff dŵr mae'r targed wedi'i lacio. Mae'r targedau ffosfforws yn seiliedig ar deipoleg sy'n defnyddio trothwyon ar gyfer uchder, alcalinedd a maint afonydd. Gwnaed y newidiadau oherwydd nodwyd y corff dŵr yn anghywir naill ai o ran uchder, alcalinedd neu faint afon neu defnyddiwyd data ffosfforws anghywir yn ystod y broses gosod targedau wreiddiol.

Newid

Cyfeirnod y corff dŵr

Enw’r corff dŵr

ACA

Targed ffosfforws (µg l-1)

Corff dŵr wedi'i dynnu

GB110064048730

Afon Mawddach – canol

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

Amherthnasol

Corff dŵr wedi'i dynnu

GB110065053960

Glaslyn – i fyny'r afon o afon Colwyn

Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion

Amherthnasol

Corff dŵr wedi'i ychwanegu

GB111067051980

Afon Tryweryn – afon Mynach i Lyn Celyn

Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid

10

Corff dŵr wedi'i ychwanegu

GB110064048740

Afon Wen (afon Mawddach)

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

10

Corff dŵr wedi'i ychwanegu

GB110064054610

Afon Crawcwellt (de)

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

5

Corff dŵr wedi'i ychwanegu

GB109056040000

Afon Grwyne Fawr – o'i tharddiad i'r man lle mae'n ymuno ag afon Grwyne Fechan

Afon Wysg

7

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB111067051610

Afon Ceiriog – i fyny'r afon o afon Teirw

Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid

10 (28 yn flaenorol)

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB111067051910

Afon Ceiriog – o’r man lle mae’n ymuno ag afon Dyfrdwy i fyny i afon Teirw

Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid

25 (28 yn flaenorol)

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB110064048750

Afon Eden – is

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

5 (10 yn flaenorol)

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB109056039960

Afon Grwyne Fechan – o’i tharddiad i'r man lle mae'n ymuno ag afon Grwyne Fawr

Afon Wysg

15 (28 yn flaenorol)

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB110064048710

Afon Mawddach – is

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

10 (13 yn flaenorol)

Targed ffosfforws wedi'i leihau

GB110061030690

Nant Deepford – o'i blaenddyfroedd i'r man lle mae'n ymuno ag afon Syfynwy

Afonydd Cleddau

40 (39 yn flaenorol)

Tabl 1. Newidiadau i gyrff dŵr a thargedau ffosfforws ers cyhoeddi'r Asesiad Cydymffurfedd Afonydd ACA Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws (Hatton a Jones, 2021) (Saesneg yn unig).

Yn dilyn y newidiadau hyn, mae bellach 127 o gyrff dŵr o fewn afonydd ACA a chanddynt darged ffosfforws sengl wedi'i ddiffinio.

Ceir rhestr lawn o dargedau ffosfforws pob afon ACA yng Nghymru yma

Ailasesu cyrff dŵr yn dilyn newidiadau i'r targedau ffosfforws

Mae’r cyrff dŵr a ychwanegwyd a’r cyrff dŵr sydd â thargedau diwygiedig bellach wedi’u hailasesu o ran cydymffurfedd gan ddefnyddio data o’r un cyfnod â’r adroddiad cydymffurfio ffosfforws gwreiddiol (2017-2019) a dangosir y canlyniadau yn Nhabl 2 isod.

Mae un corff dŵr bellach wedi'i asesu a'i ganfod yn methu, a oedd yn pasio yn ôl asesiad blaenorol, sef ‘Afon Ceiriog – o’r man lle mae’n ymuno ag afon Dyfrdwy i fyny i afon Teirw’ (GB111067051910) yn ACA Afon Dyfrdwy. Dim ond ar gyfer cymedr y tymor tyfu y mae'n methu. Dangosir canlyniadau'r asesiad cydymffurfedd ar gyfer cyrff dŵr yn ACA Afon Dyfrdwy yn adroddiad 2021 ac o ran y targedau diwygiedig (sy’n achosi i gorff dŵr afon Ceiriog fethu) yn ffigurau 1 a 2, yn y drefn honno, isod.

Newid

Cyfeirnod y corff dŵr

Enw’r corff dŵr

Safle

Targed µg l-1

Cyfeirnod y pwynt samplu

Corff dŵr wedi'i ychwanegu

GB111067051980

Afon Tryweryn – afon Mynach i Lyn Celyn

Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid

10

288

Corff dŵr wedi'i ychwanegu

GB110064048740

Afon Wen (afon Mawddach)

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

10

20228

Corff dŵr wedi'i ychwanegu

GB110064054610

Afon Cracwellt (de)

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

5

28902

Corff dŵr wedi'i ychwanegu

GB109056040000

Afon Grwyne Fawr – o'i tharddiad i'r man lle mae'n ymuno ag afon Grwyne Fechan

Afon Wysg

7

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB111067051610

Afon Ceiriog – i fyny'r afon o afon Teirw

Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid

10

28038

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB111067051910

Afon Ceiriog – o’r man lle mae’n ymuno ag afon Dyfrdwy i fyny i afon Teirw

Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid

25

578

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB110064048750

Afon Eden – is

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

5

20064

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB109056039960

Afon Grwyne Fechan – o'i tharddiad i'r man lle mae'n ymuno ag afon Grwyne Fawr

Afon Wysg

15

Targed ffosfforws wedi'i dynhau

GB110064048710

Afon Mawddach (is)

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

10

20003

Targed ffosfforws wedi'i lacio

GB110061030690

Nant Deepford – o'i blaenddyfroedd i'r man lle mae'n ymuno ag afon Syfynwy

Afonydd Cleddau

40

86005

Tabl 2. Gwybodaeth am gyrff dŵr wedi'u hychwanegu a chyrff dŵr lle mae'r targed ffosfforws wedi'i newid

Enw’r corff dŵr

Targed µg l-1

Nifer y samplau y flwyddyn

Cymedr blynyddol µg l-1

Nifer y samplau yn ystod y tymor tyfu

Cymedr y tymor tyfu µg l-1

Statws blaenorol 2021

Statws canlyniad 2022

Afon Tryweryn – afon Mynach i Lyn Celyn

10

26

8.55

18

9.57

heb ei gynnwys

llwyddo

Afon Wen (afon Mawddach)

10

dim data

-

dim data

-

heb ei gynnwys

heb ei asesu

Afon Cracwellt (de)

5

21

2.34

14

2.78

heb ei gynnwys

llwyddo

Afon Grwyne Fawr – o'i tharddiad i'r man lle mae'n ymuno ag afon Grwyne Fechan

7

dim data

-

dim data

-

heb ei gynnwys

heb ei asesu

Afon Ceiriog – i fyny'r afon o afon Teirw

10

dim data

-

dim data

-

heb ei asesu

heb ei asesu

Afon Ceiriog – o’r man lle mae’n ymuno ag afon Dyfrdwy i fyny i afon Teirw

25

31

22.25

19

25.9

llwyddo

methu

Afon Eden – is

5

21

0.77

14

0.86

llwyddo

llwyddo

Afon Grwyne Fechan – o'i tharddiad i'r man lle mae'n ymuno ag afon Grwyne Fawr

15

dim data

-

dim data

-

heb ei asesu

heb ei asesu

Afon Mawddach – is

10

28

0.85

18

0.74

llwyddo

llwyddo

Nant Deepford – o'i blaenddyfroedd i'r man lle mae'n ymuno ag afon Syfynwy

40

28

44.25

17

50.2

methu

methu

Tabl 3. Cydymffurfedd ffosfforws ar gyfer cyrff dŵr sydd wedi'u hychwanegu a chyrff dŵr lle mae'r targed ffosfforws wedi'i newid

Ffigur 1. Map cydymffurfio orthoffosffad ar gyfer ACA Afon Dyfrdwy o asesiad cydymffurfedd 2021. Mae cyrff dŵr sydd wedi'u lliwio'n wyrdd yn llwyddo i gyrraedd eu targed. Mae lliwiau eraill yn methu'r targed a'r lliwiau gwahanol yn cynrychioli maint y methiannau o ran µg l-1-1, wedi'i nodi fel yr un sydd fwyaf o’r cymedr blynyddol a chymedr y tymor tyfu. Nid oedd modd asesu cyrff dŵr llwyd oherwydd diffyg data.

Ffigur 2. Map cydymffurfiaeth orthoffosffad ar gyfer ACA Afon Dyfrdwy yn seiliedig ar y targedau wedi'u diweddaru. Mae cyrff dŵr sydd wedi'u lliwio'n wyrdd yn llwyddo i gyrraedd eu targed. Mae lliwiau eraill yn methu'r targed a'r lliwiau gwahanol yn cynrychioli maint y methiannau o ran µg l-1-1, wedi'i nodi fel yr un sydd fwyaf o’r cymedr blynyddol a chymedr y tymor tyfu. Nid oedd modd asesu cyrff dŵr llwyd oherwydd diffyg data.

Crynodeb o gydymffurfedd ffosfforws ar gyfer pob un o'r 127 o gyrff dŵr o fewn afonydd ACA yng Nghymru

Aseswyd cyfanswm o 109 o gyrff dŵr mewn naw ACA wahanol (Tabl 3 isod). Yn gyffredinol, llwyddodd 43 (39.4%) o gyrff dŵr i fodloni eu targedau a methodd 66 (60.6%) o gyrff dŵr. Roedd hyn yn amrywio ym mhob afon ACA ac nid aseswyd bod unrhyw gyrff dŵr yn methu yn ACA Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd, ACA Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn, ACA Afon Tywi, ac ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion (Tabl 4 isod).

Asesiad

Llwyddo

Methu

Cyfanswm

Heb eu hasesu

Cyfanswm

Nifer y cyrff dŵr

43

66

109

18

127

% y cyrff dŵr a aseswyd

39.4

60.6

85.8

14.2

100

% yn ôl hyd (km) y cyrff dŵr a aseswyd

44

56

88.1

11.9

100

Tabl 3. Crynodeb o ganlyniadau cydymffurfio ffosfforws afonydd ACA wedi'u mynegi fel nifer a hyd y cyrff dŵr.

 

Afon ACA

Llwyddo (nifer y cyrff dŵr)

Llwyddo (% y cyrff dŵr a aseswyd)

Methu (dim cyrff dŵr)

Methu (% y cyrff dŵr a aseswyd)

Cyfanswm nifer y cyrff dŵr

Heb eu hasesu

Cyfanswm

Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid

4

50

4

50

8

1

9

Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd

4

100

0

0

4

1

5

Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn

2

100

0

0

2

0

2

Afon Teifi

8

50

8

50

16

2

18

Afon Tywi

2

100

0

0

2

1

3

Afonydd Cleddau

5

33

10

67

15

4

19

Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion

2

100

0

0

2

0

2

Afon Wysg

2

12

15

88

17

7

24

Afon Gwy

14

33

29

67

43

2

45

Tabl 4. Crynodeb o ganlyniadau cydymffurfedd ffosfforws afonydd ACA ar gyfer y naw afon ACA yng Nghymru.

Cywiro pwynt samplu

Yn Asesiad Cydymffurfedd Afonydd ACA Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws (Hatton-Ellis a Jones, 2021), mae’r adroddiad yn sôn am ‘bwynt samplu ychwanegol a gymerwyd ger Gwaith Trin Carthion Waunfawr (55219 Gwaith Trin Carthion y Waun)’ ar dudalen 34. Dylai hwn ddarllen pwynt samplu 22519.

 

Diweddarwyd ddiwethaf