Marram grass

Beth ydym yn ei wneud

Mae Twyni Byw yn brosiect cadwraeth pwysig sy’n adfywio twyni tywod ar hyd a lled Cymru. Mae’n ail-greu symudiad naturiol y twyni er mwyn adfywio cynefinoedd sy’n gartref i rywfaint o’n bywyd gwyllt mwyaf prin.

Mae’r prosiect pwysig hwn, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, yn adfer bron i 2400 hectar o dwyni tywod ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar ddeg safle gwahanol yn y wlad:

Ynys Môn ac Afon Menai

Sir Feirionydd

Bae Caerfyrddin

  • Lacharn - Twyni Pendine
  • Twyni Pen-bre
  • Twyni Whiteford

Pen-y-Bont ar Ogwr

  • Cynffig
  • Merthyr Mawr

Pam y mae twyni iach yn bwysig

Tirweddau gwyllt eiconig yw twyni tywod. Maent yn gynefinoedd sy’n llawn bioamrywiaeth, lle mae carpedi o degeirianau yn dal i oroesi ochr yn ochr â gloÿnnod byw, adar ac amrywiaeth eang o bryfed sydd dan fygythiad.

Mae ymwelwyr a phobl leol yn trysori twyni tywod oherwydd eu cymeriad unigryw ac maent yn gefnlen i ddiwrnod ar y traeth ac yn fan chwarae naturiol perffaith i bob plentyn.

Mae gan dwyni iach ddigon o dywod moel ac maent yn symud yn gyson. Mae bryniau tywod yn cael eu creu, eu chwythu i ffwrdd a’u hail-greu eto. Mae cymunedau o blanhigion ac infertebratau unigryw ac arbenigol yn ail-gytrefu’r ardal agored yn gyson.

Yn ogystal â bod yn gronfeydd o fioamrywiaeth mae ein twyni yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ehangach drwy ddarparu ateb naturiol wrth amddiffyn yn erbyn llifogydd ac erydiad arfordirol yn ogystal â chynnal llif dŵr a chynorthwyo peillwyr hanfodol megis gwenyn a gloÿnnod byw.

Newidiadau i dwyni tywod

Dros yr 80 mlynedd diwethaf mae oddeutu 90% o’r tywod agored wedi diflannu ac wedi cael ei ddisodli gan laswellt trwchus a phrysgwydd. O ganlyniad mae’r twyni wedi sefydlogi a llonyddu ac mae bywyd gwyllt prin wedi diflannu.

Achoswyd y newid hwn gan ffactorau megis cyflwyno planhigion anfrodorol, diffyg pori traddodiadol, dirywiad ym mhoblogaeth y cwningod a llygredd aer.

Dysgwch fwy am ein gwaith gyda thwyni tywod.

Gweithredu dros dwyni tywod

Mae prosiect Twyni Byw yn cyflawni rhaglen waith ymarferol uchelgeisiol ar y safleoedd rhyngwladol bwysig hyn trwy:

  • ailbroffilio twyni i ganiatáu i dywod symud eto
  • gostwng wyneb llaciau (pantiau) sych i ail-greu pyllau a chynefinoedd gwlyb
  • hyrwyddo pori cynaliadwy gan dda byw a chwningod
  • symud prysgwydd a rhywogaethau estron goresgynnol

Mae yna raglen helaeth o fonitro cyn ac ar ôl ymyriadau hefyd i olrhain cynnydd y prosiect. Mae prosiect Twyni Byw yn cynnwys cymunedau lleol ac yn magu dealltwriaeth o werth a phwysigrwydd twyni tywod i bobl a’r amgylchedd. Mae’r prosiect yn annog pawb i rannu gwybodaeth ar reoli twyni tywod gydag eraill yng Nghymru a thu hwnt.

Nodau llesiant Cymru

Yn ogystal a bod yn gronfeydd bioamrywiaeth, mae twyni tywod Cymru’n helpu i warchod ein hamgylchedd fel amddiffynfeydd naturiol rhag y môr, ac maent yn cynnal a chadw ansawdd a llif dŵr a hybu poblogaethau o bryfed peillio hollbwysig.

Mae traethau a thwyni'n bwysig i economi twristiaeth Cymru ac yn lleoliadau penigamp i hamddena a gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored. Mae Twyni Byw yn cyfrannu at nodau llesiant y genedl fel a ganlyn:

  • cefnogi arferion ffermio traddodiadol
  • creu cyfleoedd economaidd i fusnesau
  • hyfforddi a datblygu cenhedlaeth newydd o reolwyr amgylcheddol
  • galluogi mwy o bobl i ddefnyddio a mwynhau’r twyni, gan hybu iechyd a llesiant yn ei dro.

Dysgu mwy am dwyni tywod

Darllenwch ein newyddion a’n blogiau

Diweddariad ar waith Twyni Byw o’n twyni yn y de - 28 Gorffennaf 2023

Dathlu tirweddau unigryw ar ddiwrnod Twyni Tywod y Byd - 20 Meh 2023

Gwaith Twyni Byw hanfodol yn parhau yn Aberffraw - 17 Awst 2022

Diweddariad am waith Twyni Byw ar dwyni’r De yn yr haf a’r hydref - 3 Awst 2022

Rhoi hwb i dwyni Ardudwy yr haf a’r hydref hwn - 1 Awst 2022

Gwaith ffensio i ddiogelu a gwella’r cynefinoedd pwysig yng Nghynffig - 13 Ebrill 2022

Ailganfod tegeirian y fign galchog yn nhwyni Talacharn – Pentywyn - 28 Gorffennaf 2022

Gwaith yn digwydd yn Niwbwrch yr haf hwn - 26 Gorffennaf 2022

Y rhesymau y tu ôl i waith prosiect Twyni Byw i dynnu conwydd o’r twyni yn Nhwyni Whiteford - 21 Medi 2021

Sut y bydd prosiect Twyni Byw yn rhoi hwb i dwyni tywod o gwmpas de Cymru - 16 Awst 2021

Diweddariad ar waith Twyni Byw dros yr haf a’r hydref yn Niwbwrch - 2 Awst 2021

Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod ar ei ffordd i dynnu sylw at bwysigrwydd y cynefin - 21 Mehefin 2021

Twyni tywod yn cael hwb ar safle o bwysigrwydd rhyngwladol ar Ynys Môn - 24 Mawrth 2021

Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf i’w chynnal ar 25 Mehefin 2021- 24 Mawrth 2021

Adroddiad newydd yn dangos y bydd gwaith cadwraeth yn hybu rhywogaeth brin warchodedig ledled Cymru - 16 Mawrth 2021

Diweddariad gwaith Twyni Byw o Niwbwrch - 10 Mawrth 2021

Gwaith gaeaf hanfodol wedi'i gwblhau yn Nhwyni Pen-bre - 23 Chwefror 2021

Gwaith hanfodol Twyni Byw i gefnogi twyni Cynffig - 2 Chwefror 2021

Gwaith Twyni Byw ar fin rhoi hwb i dwyni tywod Tywyn Aberffraw - 8 Rhagfyr 2020

Adroddiad newydd yn taflu goleuni ar boblogaeth madfall y tywod Cymru - 19 Tachwedd 2020

Gwaith pwysig er mwyn adfywio twyni tywod ym Merthyr Mawr - 5 Hydref 2020

Prosiect Twyni Byw am waredu prysgwydd er mwyn adfywio glaswelltir twyni yn Niwbwrch - 3 Medi 2020

Pa effaith y mae’r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar y prosiect Twyni Byw? - 28 Mai 2020

Adfywio ein twyni tywod - 7 Hydref 2019

Adfywio Twyni Cymru - 7 Awst 2018

Yr haf at y twyni tywod - 30 Mai 2018

Gwyliwch ein fideos

Twyni Dynamig

Sut yr ydym yn rheoli twyni tywod mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Gweler Arc-GiS StoryMap Twyni Byw/Sands of LIFE

Gyliwch gwaith y prosiect Twyni Byw i adfywio un o’r llaciau yn Niwbwrch

Gwyliwch ychydig o waith hanfodol y prosiect Twyni Byw yn Nhwyni Pen-bre

Darllenwch ein cylchlythyrau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyrau Twyni Byw

Twyni Byw yn y newyddion

'Important fencing work to begin at Pembrey Burrows', Llanelli Herald (Erthygl yn Saesneg yn unig) - 17 Mehefin 2020 

'Preserving Life', Life in North Wales Magazine (Erthygl yn Saesneg yn unig), Tudalen 29-32 - 29 Medi 2020

'Sands of LIFE - Revitalising Wales Dunes', South Wales Life (Erthygl yn Saesneg yn unig) - 1 Mawrth 2021 

'Robo-mowers to help boost sand dune habitat', Cambrian News (Erthygl yn Saesneg yn unig)​  - 15 Mawrth 2021

'Diwrnod o ddathlu gwerth a phwysigrwydd twyni tywod', BBC Cymru Fyw  - 25 Mehefin 2021

Rhagor o fanylion y prosiect

Darllenwch mwy o wybodaeth fanwl am y prosiect

Adroddiadau technegol

Arolygon o fadfallod y tywod cyn ymyriadau yn Nhywyn Aberffraw a Thywyn Niwbwrch ar gyfer Twyni Byw

Twyni Byw: Arolwg bryoffytau

Twyni Byw: Adroddiad arolwg madfallod dŵr cribog

Twyni Byw: Monitro llystyfiant mewn mannau penodol – adroddiad cyn ymyrraeth

Twyni Byw: Adroddiad Infertebratau – Monitro infertebratau cyn ymyrraeth

Arolwg Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol Twyni Byw

Twyni Byw: Adroddiad Hydroleg

Prosiectau Partner

Dunes2Dunes

Twyni Bae Caerfyrddin

Twyni Dynamig CNC/LIFE

Rhwydwaith Graean Bras a Thwyni Tywod y DU/ UK Sand and Shingle Network

Cysylltu â ni

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu ag aelod o’r tîm, anfonwch e-bost I SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyllid

Mae prosiect Twyni Byw wedi cael cyllid gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect, a ddechreuodd ym Medi 2018, yn rhedeg tan fis Mehefin 2024.

   LIFE   Natura 2000    Welsh Govt logo

 

Diweddarwyd ddiwethaf