Cynhadledd Twyni Byw 2024

Mae'n bleser gan Twyni Byw a Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi y cynhaliwyd cynhadledd derfynol y prosiect rhwng 15 ac 17 Mai 2024.

Daeth dros 100 o gynrychiolwyr o’r DU a’r tu hwnt ynghyd wyneb yn wyneb ac ar-lein i glywed gan arbenigwyr lleol a rhyngwladol am warchod a rheoli twyni tywod yng nghynhadledd Twyni Byw, a gynhaliwyd dros dridiau yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys:

  • Canfyddiadau ac uchafbwyntiau pum mlynedd o waith Twyni Byw dros fioamrywiaeth.
  • Cyflwyniadau llawn gwybodaeth gan siaradwyr lleol a rhyngwladol, ar y datblygiadau diweddaraf ym maes gwarchod a rheoli twyni tywod.
  • Rhwydweithio, cydweithio a rhannu arferion gorau rhwng rheolwyr twyni tywod blaenllaw o bob rhan o'r DU a gogledd Ewrop.
  • Ymweliadau safle â thwyni tywod ar Ynys Môn sydd gyda’r gorau yn y byd.
  • Diwylliant, tirweddau ac iaith unigryw Gogledd Cymru.

Darllenwch y rhaglen lawn a gwyliwch gyflwyniadau o'r gynhadledd.

Bydd cyflwyniadau'r gynhadledd ar gael cyn hir.

Am unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch e-bost: SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru