CNC yn cau safleoedd ymwelwyr oherwydd gwyntoedd cryfion Storm Éowyn

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi y bydd pedwar safle yng Ngorllewin a Gogledd Cymru ar gau ar ddydd Gwener 24 Ionawr oherwydd effaith Storm Éowyn.

Bydd canolfannau ymwelwyr Coed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian, ac Ynyslas, yn ogystal â Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, ar gau i'r cyhoedd ar ddydd Gwener.

Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i beidio ag ymweld â choedwigoedd a gwarchodfeydd eraill a reolir gan CNC oherwydd y perygl o goed a changhennau'n cwympo oherwydd gwyntoedd cryfion.

Dywedodd Nicholas Bettinson, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth Storm Darragh ddifrodi llawer o goed yn ein coedwigoedd, ac eu gwneud yn fwy agored i niwed gan stormydd dilynol.
Gyda’r disgwyl o wyntoedd cryfion o Storm Éowyn, mae perygl uwch o goed a changhennau'n cwympo. Felly, mae'n bwysig iawn i ddiogelwch pobl eu bod yn osgoi mynychu ein coedwigoedd a'n gwarchodfeydd ar ddydd Gwener.

Gyda gwyntoedd cryfion yn cael eu disgwyl o Storm Éowyn ar ddydd Gwener, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd Amber am wynt, sy'n cwmpasu llawer o Ogledd Cymru.