Os gwrthodwyd cofrestriad i chi ar gyfer tanc carthion neu system trin carthion breifat

Os oes gan eich cartref neu eiddo danc carthion neu uned trin carthion gryno, mae’n ofyniad cyfreithiol ei gofrestru. I’r mwyafrif, cofrestriad di-dâl yw hwn. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gall fod angen caniatâd pellach ar eich system carthion breifat.

Os ydych wedi cael hysbysiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru nad ydych yn gymwys ar gyfer cofrestriad di-dâl, bydd angen ichi wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Beth i’w wneud nesaf

Os gwrthodwyd cofrestriad ichi ar gyfer eich system garthion, bydd angen ichi wneud cais am drwydded wedi’i theilwra i ollwng elifion carthion domestig sydd wedi’u trin.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gymwys i gofrestru am ddim.

Cofrestrwch eich tanc septig neu'ch system garthffosiaeth breifat

Os ydych wedi cofrestru gan ddefnyddio'r ddolen uchod ac ein bod wedi cysylltu â chi i ddweud y bydd angen trwydded lawn arnoch, llenwch y ffurflen ar gyfer 'Trwydded Amgylcheddol: Gollwng elifiant carthion domestig wedi'i drin o hyd at 15 metr ciwbig y dydd i'r ddaear neu hyd at 20 metr ciwbig y dydd i ddŵr wyneb'.

Dim ond os gwrthodwyd cofrestriad am ddim i chi y dylech wneud hyn.

Gwneud cais am drwydded i system garthffosiaeth breifat

Lawrlwythwch ganllawiau ar gwblhau’r cais

Anfonwch eich ffurflenni wedi’u cwblhau at: permitreceiptcentre@naturalresourceswales.gov.uk

neu postiwch nhw at:
Canolfan Derbyn Trwyddedau
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP

Pam y mae fy nghofrestriad wedi’i wrthod?

Bydd eich cofrestriad ar gyfer tanc carthion neu uned trin carthion gryno wedi’i wrthod am un o’r rhesymau a ganlyn:

  • mae eich system garthffosiaeth yn rhyddhau dyfroedd wyneb ac mae o fewn 500 metr i ardal warchodedig neu ddynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) neu Barth Diogelu Ffynhonnell
  • mae eich system garthffosiaeth yn gollwng i ddyfroedd daear ac mae o fewn 50 metr i ardal warchodedig neu ddynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) neu Barth Diogelu Ffynhonnell
  • mae mwy na 13 o bobl yn byw yn eich eiddo ac mae’r tanc carthion yn gollwng i suddfan yn y ddaear
  • mae mwy na 33 o bobl yn byw yn eich eiddo ac mae eich uned trin carthion gryno yn gollwng i gwrs dŵr  
  • mae eich system garthion ger ardal warchodedig neu ddynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu Barth Diogelu Tarddiad Dŵr 
  • caiff y carthion eu gollwng 50 metr neu lai o ddyfrdwll neu ffynnon
  • mae eich eiddo o fewn 30 metr i’r garthffos fudr gyhoeddus.

Yn achos mwyafrif y tanciau carthion neu unedau trin carthion cryno, ni fyddant yn creu problemau pan fyddant yn cael eu cynnal yn dda. Gall gollyngiadau o systemau sy’n cael eu cynnal yn wael lygru afonydd, nentydd a dŵr tanddaearol neu niweidio safleoedd cadwraeth natur. Er mwyn sicrhau bod systemau carthion ger ardaloedd sensitif yn gweithredu’n effeithlon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gosod amodau penodol ar eu defnyddio, a hynny drwy Drwydded Amgylcheddol.

Darllenwch ragor am gynnal eich system garthion.

Diweddarwyd ddiwethaf