Trwyddedu cynlluniau ynni dŵr cystadleuol

Mae gennym ddyletswydd statudol i sicrhau’r defnydd priodol o adnoddau dŵr a defnyddio'r broses drwyddedu i wneud hyn. Ar adegau prin, bu ceisiadau cystadleuol am drwyddedau i dynnu’r un dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr ar wahân. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae angen i ni ystyried teilyngdod pob cynllun, gan gynnwys ei effeithiau ar yr amgylchedd a'i effeithlonrwydd wrth ddefnyddio dŵr. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud penderfyniad ar drwyddedu rydym yn ei ystyried i fod er budd rheoli adnoddau dŵr cyfrifol a gwarchodaeth amgylcheddol. Gall y penderfyniad hwn fod yn gymhleth a chaiff ei wneud ar sail fesul achos. Darperir y canllawiau hyn er mwyn helpu ymgeiswyr i ddeall beth rydym yn ei ystyried wrth wneud hyn. 

Ymagwedd tuag at gynlluniau cystadleuol

Lle mae dau neu fwy o ymgeiswyr (presennol neu arfaethedig) yn ceisio datblygu cynlluniau ynni dŵr ar un safle, mae nifer o opsiynau:

Cynllun a rennir

Gall ymgeiswyr gydweithio i gynnig cynllun a rennir, gan gytuno rhyngddynt eu hunain ar faterion fel sut y byddid rhannu buddsoddiad yn y cynllun ac unrhyw incwm cysylltiedig. Byddent wedyn yn gallu ceisio am y trwyddedau angenrheidiol gennym ar gyfer y cynllun a rennir a bydd y rhain yn cael eu hystyried drwy'r broses arferol ar gyfer penderfynu ar drwyddedau.

Cynllun rhanedig

Gall fod yn bosibl datblygu cynllun rhanedig gan ddefnyddio un adeiledd cored, gyda'r ymgeiswyr yn dod i gytundeb i rannu dŵr ar y safle a chyflwyno cais am drwydded yr un. Ni fydd hyn yn bosibl ym mhob safle a gall gynnwys yr angen i bob parti fod yn fodlon â chyfradd tynnu dŵr is nag sy'n bosibl gydag un ymgeisydd. Bydd hefyd fel arfer yn golygu'r angen am gydweithrediad a chytundeb rhwng y partïon.

Penderfyniad CNC

Os nad yw cynllun a rennir na chynllun rhanedig yn bosibl, bydd yn angenrheidiol i ni benderfynu pa un (os o gwbl) o'r cynlluniau arfaethedig a ddylai gael caniatâd i fynd yn ei flaen gan ddefnyddio'r ffactorau isod. Lle yr ystyrir gennym ni a'r ymgeiswyr i fod yn ddichonadwy, gallai cytuno i gynllun a rennir neu ranedig, yn amodol ar gymeradwyaeth, ganiatáu'r ddau barti i wireddu cynllun ynni dŵr yn y lleoliad o ddiddordeb. Os nad oes cytundeb, mae perygl na fydd yr un cynllun, neu ar y mwyaf dim ond un cynllun, yn cael ei drwyddedu. Rydym felly yn hybu partïon i ddod i gytundeb y tu allan i'r broses drwyddedu.

Mae sawl pwynt y dylid eu deall gan ymgeiswyr nag sy'n gallu dod i gytundeb:

  • Wrth ddod i benderfyniad ar drwyddedu cynllun neu beidio, byddwn yn ystyried ceisiadau ar eu teilyngdod, gan ystyried unrhyw geisiadau cystadleuol (gwirioneddol neu bosibl) eraill rydym yn ymwybodol ohonynt sy'n ymwneud â'r un adnodd dŵr. Ni fydd amseru, trefn neu statws buddiant mewn man tynnu dŵr posibl fel arfer yn berthnasol. Byddwn yn ystyried pa gynllun, os unrhyw un, yw'r mwyaf dymunol ac er budd y cyhoedd, fel y llywir gan ein dyletswyddau deddfwriaethol a nodau polisi.
  • Nid ydym yn gweithredu ar bolisi 'cyntaf i'r felin' o ran ceisiadau ynni dŵr cystadleuol. Byddwn yn ystyried teilyngdod pob cais waeth pa gais a dderbynnir gyntaf.
  • Ni fyddwn o reidrwydd yn trwyddedu un o ddau neu fwy o geisiadau cystadleuol. Gallai fod amgylchiadau lle rydym yn ei hystyried yn amhriodol i roi trwydded ar gyfer unrhyw gais, er enghraifft lle mae cynllun yn debygol o gael effaith sylweddol ar safle sydd wedi'i ddynodi ar gyfer cadwraeth natur o dan y Rheoliadau Cynefinoedd.

Cynlluniau rhanedig

Mewn sawl achos, bydd datblygwyr ynni dŵr yn ceisio defnyddio'r swm mwyaf o ddŵr sydd ar gael o dan ein safonau trwyddedu tynnu dŵr. Fel arfer, bydd yn amhosibl i ddau gynllun dynnu dŵr ar y gyfradd fwyaf a ganiateir.

Lle mae ymgeiswyr yn dangos diddordeb i fynd ar ôl y posibilrwydd o gynllun rhanedig, byddwn yn ystyried gyda'r ymgeiswyr p'un a fyddai cynllun rhanedig – dau gynllun ynni dŵr yn defnyddio cyfran o'r llif sydd ar gael yr un – yn ddichonadwy ar y safle dan sylw. Gall ystyriaeth o'r fath gynnwys y ffactorau canlynol, lle bo'n briodol:

  • Yr effaith bosibl ar safleoedd dynodedig statudol a gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid eu hystyried mewn unrhyw benderfyniad trwyddedu.
  • Lleoliad ffisegol a dichonoldeb, dymunoldeb ac effaith (gan gynnwys effaith weledol) gosod dau gynllun ynni dŵr.
  • Y llif sydd ar gael ar y safle a'r llif sydd ar gael yr un ar gyfer y ddau gynllun.
  • Hyfywedd – mewn termau ymarferol ac economaidd – y ddau gynllun gyda chyfran o'r llif sydd ar gael.
  • Gorfodadwyedd amodau'r drwydded ar gyfer y ddau gynllun. Yn benodol, bydd angen modd dichonadwy o ddosrannu'r llif sydd ar gael rhwng y ddau gynllun a gorfodi amod trwydded 'llif annibynnol' ar wahân ar gyfer pob cynllun. Mae'n debygol y bydd systemau rheoli ar gyfer dau gynllun yn gofyn am elfennau a rennir, er enghraifft un system i fonitro llifau a/neu lefelau dŵr. Mae'r manylion yn debygol o fod yn benodol i'r safle.
  • Unrhyw gytundeb mae'r ymgeiswyr wedi'i wneud, neu'n cynnig ei wneud, o ran y cynllun rhanedig – gan gynnwys unrhyw gytundeb o ran, er enghraifft, costau a rennir, gwaith monitro, gweithredu’r cynllun a’r llwybr pysgod, a chydweithrediad rhwng y naill a'r llall.

Mewn rhai achosion, gallwn gasglu nad yw cynllun rhanedig yn dderbyniol am resymau amgylcheddol, neu nad yw er budd y cyhoedd, ar y safle – er enghraifft, lle bydd effeithiau annerbyniol ar nodweddion hysbysedig safleoedd dynodedig, llwybrau pysgod neu byllau cored, neu lle bydd cynnydd mewn perygl llifogydd.

Mewn achosion o'r fath, os yw'r ddau ymgeisydd dal eisiau parhau gyda chynlluniau ar y safle, gall yr ymgeiswyr ystyried cynnig cynllun (a rennir) ar y cyd. Yn methu gwneud hyn, gallai olygu ein bod yn asesu'r ddau gais.

Mae cynlluniau a rennir yn debygol o gael eu ffafrio i gynlluniau rhanedig ar gyfer rhesymau amgylcheddol, yn enwedig mewn perthynas â llwybrau pysgod. Mewn cynlluniau rhanedig, gallai un llwybr pysgod beidio bod yn effeithiol, gan arwain at yr angen am ddau lwybr pysgod i ddefnyddio'r llif atynnu o bob cynllun.

Ffactorau i'w hystyried wrth asesu cynlluniau cystadleuol

Os ydym yn penderfynu mai dim ond un o ddau neu fwy o gynlluniau cystadleuol sy'n briodol ar safle, byddwn yn ystyried pa gynllun, os o gwbl, fydd yn cael ei drwyddedu. Wrth wneud hynny, gallai rhai neu bob un o'r ffactorau a amlinellir ym mharagraff 17 isod fod yn berthnasol, gan ddibynnu ar nodweddion y safle a'r holl amgylchiadau perthnasol eraill. Caiff ei bwysleisio nad yw'r rhestr isod yn hollgynhwysol: gall ffactorau eraill fod yn berthnasol a gallent fod yn gyfartal o ran pwysigrwydd, neu'n bwysicach.

Y cwestiwn terfynol ym mhob achos fydd pa un o'r cynlluniau arfaethedig, os o gwbl, sy'n dderbyniol, yn amgylcheddol ac er budd y cyhoedd, i ni ei drwyddedu. Ein rôl fydd gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r defnydd priodol o'r safle er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, gan gofio effeithiau tymor hir llawer o gynlluniau ynni dŵr a’n cylch gwaith statudol. Mae hynny'n cynnwys cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy a budd cymunedol, rheoli a gwarchod safleoedd dynodedig, gwarchod a gwella harddwch naturiol ac amwynder dyfrffyrdd a thir cysylltiedig, gwarchod yr amgylchedd dyfrol, gwarchod pysgodfeydd, a sicrhau defnydd priodol ac effeithlon o adnoddau dŵr.

Ein nod cyffredinol wrth wneud penderfyniad fydd sicrhau datblygiad y cynlluniau ynni dŵr cynaliadwy gorau posibl yn y presennol ac yn y dyfodol. Os byddwn yn wynebu dau neu fwy o gynlluniau cystadleuol, dim ond un y gellir ei drwyddedu, byddwn yn dewis rhwng y cynlluniau ar eu teilyngdod drwy benderfynu pa gynllun sydd fwyaf derbyniol yn amgylcheddol ac sy'n cynnig y budd mwyaf i'r cyhoedd drwy gyfeirio at y ffactorau a amlinellir isod (nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol – gweler paragraff 14 uchod), gan gynnwys yn enwedig yr angen am effeithlonrwydd yn y defnydd o adnoddau dŵr a'r angen i warchod yr amgylchedd.

Wrth benderfynu pa gynllun y dylid ei drwyddedu, os o gwbl, byddwn fel arfer yn ystyried y materion canlynol:

  • Y defnydd optimwm o adnoddau dŵr sydd ar gael gan ystyried, er enghraifft (i) faint o ddŵr a ddefnyddir, (ii) y gofyniad rhesymol am ddŵr, (iii) faint o bŵer a gynigir i'w gynhyrchu, a (iv) unrhyw effeithiau anffafriol o ran adnoddau dŵr.
  • P'un a oes unrhyw effeithiau sylweddol tebygol ar safleoedd dynodedig (ACA, AGA, Ramsar a SoDdGA) a ph'un a yw'r cynigion yn bodloni gofynion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ac Adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
  • Effeithiau amgylcheddol lleol ac ehangach y cynllun arfaethedig. Gallai effeithiau o'r fath fod yn gadarnhaol neu negyddol, a gallent gynnwys, er enghraifft: newidiadau mewn hydromorffoleg, newidiadau i statws ecolegol corff dŵr, newidiadau i lwybrau pysgod drwy gynnwys llwybr pysgod, darparu sgrinio priodol, a dyluniad cynllun i alluogi'r mesurau gorau ar gyfer gwarchod pysgod / creu llwybrau iddynt.
  • Asesu a lliniaru perygl llifogydd y cynllun arfaethedig lle mae angen cydsyniad ar y cynllun ar gyfer gwaith ac fel rhan o’n rôl fel cynghorydd ar berygl llifogydd gyda dyletswydd i ymarfer goruchwyliaeth gyffredinol dros holl faterion sy'n gysylltiedig â pherygl llifogydd.
  • Effaith ar ddefnyddwyr dŵr eraill y cynllun arfaethedig o ran effeithiau ar hawliau gwarchodedig tynwyr dŵr presennol a defnyddiau cyfreithiol o'r dŵr gan eraill at ddibenion amaethyddol, diwydiannol, cyflenwad cyhoeddus neu hamdden, gan gynnwys pysgota, ac ar ofynion pysgodfeydd, mordwyaeth neu ddraenio tir.
  • Effaith y cynllun o ran ynni adnewyddadwy, gan gynnwys (i) allyriadau carbon a arbedir trwy gynhyrchu trydan, (ii) faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir, a (iii) carbon ymgorfforedig ac ôl troed carbon cylch oes y cynllun.

Rydym yn crynhoi materion ar ddiwedd yr adran hon a fydd fel arfer yn cael eu hystyried wrth ddod i benderfyniad ar ba gynnig (os o gwbl) i'w drwyddedu. Er mwyn cynnal cymhariaeth o ffactorau perthnasol posibl, gan gynnwys perchenogaeth leol, bydd angen inni dderbyn gwybodaeth yn yr adroddiad amgylcheddol sy’n ategu pob cais am gynllun.

Casgliad

Bydd pob cais ynni dŵr yn cael ei benderfynu ar ei deilyngdod ei hun. Byddwn yn ceisio cymeradwyo'r ceisiadau ynni dŵr sydd fwyaf derbyniol yn amgylcheddol ac er budd mwyaf i'r cyhoedd, gan gofio eu heffeithiau tymor byr a hir ar yr amgylchedd a dymunoldeb cyffredinol unrhyw gynllun er budd y cyhoedd, wrth ei ystyried yn erbyn pob cynnig gwirioneddol neu bosibl arall ar y safle.

Crynodeb o faterion

 Wrth benderfynu ar geisiadau cystadleuol am drwydded ynni dŵr, byddwn yn asesu ceisiadau yn erbyn y safonau dylunio, gweithredu a lliniaru canlynol:

  • Mae'r cynllun wedi'i ddylunio er mwyn osgoi'r angen am adeiledd cronni newydd neu i leihau addasiadau i gored sy'n bodoli eisoes oni bai y bydd yr addasiadau hynny yn arwain at welliant amgylcheddol
  • Mae'r gored mewnlif, llifddor a gollyngfa wedi'u lleoli a'u dylunio yn unol â'n canllawiau i leihau effaith ar geomorffoleg a phrosesau cludo gwaddod y safle
  • Mae darpariaeth o lwybrau i fyny ac i lawr yr afon ar gyfer pysgod, gan gynnwys llwybrau llyswennod a rampiau osgoi
  • Mae sgrinio effeithiol o bysgod a llyswennod o'r tyrbinau ac amddiffyniad yn erbyn llusgo neu wrthdaro pysgod
  • Mae dyluniad y cynllun wedi cynnwys gwaith asesu a dylunio i liniaru effeithiau ar forffoleg/ecoleg y pwll cored
  • Mae’r math o dyrbin yn briodol ar gyfer y lleoliad arfaethedig o ystyried ffactorau amgylcheddol a materion esthetig/amwynder
  • Mae'r cynnig wedi'i asesu'n llawn ar gyfer effaith ar berygl llifogydd ac yn bodloni safonau a amlinellir mewn polisi a chanllawiau cenedlaethol
  • Mae gan drefniant y cynllun arfaethedig yr effaith leiaf ar amgylchedd yr afon gan ei fod yn cynnwys yr hyd byrraf o ran y llif sydd wedi'i ddisbyddu neu’r rhan o’r afon y dylanwadir arni
  • Gall y cynnig arddangos gofyniad rhesymol ar gyfer defnydd effeithlon o ddŵr a dynnwyd
  • Mae'r drefn tynnu dŵr ar gyfer y cynllun ynni dŵr yn gyson â'n canllawiau ar warchod llifau afonydd a/neu'n darparu buddion amgylcheddol eraill o ran gwarchod llif gweddilliol
  • Mae'r cynllun arfaethedig yn bodloni'r holl ofynion deddfwriaethol yn llawn ar gyfer gwarchod safleoedd dynodedig ar gyfer cadwraeth natur, cynefinoedd gwarchodedig, nodweddion a rhywogaethau prin
  • Mae effeithiau posibl y cynllun ar ddefnyddwyr dŵr eraill, tirwedd, treftadaeth ac amwynder wedi'u hasesu'n llawn gyda mesurau lliniaru priodol wedi'u datblygu lle bo'n briodol
  • Gall y cynllun arddangos y buddion gostwng carbon gorau dros ei oes ddylunio o ran y gwaith adeiladu a gweithrediad tymor hir
  • Mae gan y cynllun yr effaith amgylcheddol leiaf wrth ddatblygu mynediad i’r safle, adeiladu ar y safle, a chysylltu’r safle â’r grid trydan
  • Mae gan y cynllun elfen o berchnogaeth leol a gall arddangos budd i'r gymuned
  • Mae gan ddeiliad y drwydded awdurdod cyfreithiol llawn i adeiladu a gweithredu pob cydran o'r cynllun ynni dŵr arfaethedig

Darllenwch am adroddiadau hydrolegol ar gyfer cynlluniau ynni dŵr

Diweddarwyd ddiwethaf