Asesu effeithiau cronnus neu gyfunol cynlluniau ynni dŵr

Wrth asesu ceisiadau am drwydded ar gyfer cynllun ynni dŵr, mae angen inni ddeall p'un a fydd yn cael effeithiau cronnus neu gyfunol gyda datblygiadau, gweithrediadau neu weithgareddau eraill. Mae hyn yn cynnwys datblygiadau a allai fod ar y cam cynllunio yn unig o hyd.

Effeithiau cronnus yw'r effaith gan effeithiau tebyg a ddaw o ddatblygiadau lluosog ar hyd neu ddalgylch afon. Effeithiau cyfunol yw lle gellid effeithio ar afon gan un neu fwy o ddatblygiadau ond mewn ffyrdd gwahanol.

Rydym yn debygol o fod angen mwy o asesiadau ategol ar gyfer ceisiadau am drwydded lle mae potensial am effeithiau cronnus neu gyfunol o gymharu â chynllun ynni dŵr unigol wedi'i ynysu.

Mae gan y term cyfunol hefyd ystyr penodol yng nghyd-destun y Rheoliadau Cynefinoedd lle bydd unrhyw gynllun neu brosiect sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) neu safle gwlyptir Ramsar yn destun asesiad priodol unai yn unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill. Byddwn yn cynnal yr asesiad priodol, ond bydd gan ymgeiswyr rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i wneud hyn.

Gweler ein canllawiau ar Safleoedd dynodedig, rhywogaethau a warchodir a chynefin cynhaliol am fwy o wybodaeth ynglŷn â hyn.

Mae'n rhaid i gynlluniau ynni dŵr unigol fodloni'r safonau dylunio a gweithredu amgylcheddol a osodir yn ein canllawiau i ni ystyried eu trwyddedu. Lle mae cynlluniau ynni dŵr lluosog neu ddatblygiadau eraill yn bresennol, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i ddatblygiadau newydd fodloni safonau amgylcheddol uwch i leihau'r perygl o effeithiau cronnus neu gyfunol.

Mae'r effeithiau cronnus a chyfunol sydd fwyaf aml yn gysylltiedig â chynlluniau ynni dŵr â chwymp mawr sy'n dibynnu ar lif yr afon yn gysylltiedig â newidiadau i lifau afonydd a achosir gan dynnu dŵr a chreu rhwystrau yn yr afon drwy adeiladu neu addasu coredau mewnlif.

Tynnu dŵr

Mae'n bosibl y gwnawn gyfyngu ar gyfraddau tynnu dŵr ar gyfer cynlluniau newydd lle mae un neu fwy o gynlluniau ynni dŵr, neu fannau tynnu dŵr eraill, eisoes yn bresennol ar brif lif afon mewn is-afon neu ddalgylch, neu mewn afonydd lluosog ar wahân o fewn dalgylch.

Byddwn fel arfer yn trwyddedu tynnu dŵr ar gyfer ynni dŵr i'r safonau llif a osodir yn ein canllawiau Cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer ynni dŵr. Ar gyfer cynllun unigol, mae'r rhain yn caniatáu man tynnu dŵr i achosi llifau afonydd i ddisgyn o dan ein lefelau gwarchod llif arferol ond ar gyfer hyd cyfyngedig o afon yn unig, gyda'r llif ar ôl yr hyd hwnnw yn cael ei ddychwelyd yn llawn i'r un sianel.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn annhebygol o gael effaith anffafriol ar ecoleg afonol o ganlyniad i faint gofodol cyfyngedig yr effaith a gwarchodaeth cyfeintiau llif ac amrywioldeb llif yn yr hyd sydd wedi'i ddisbyddu o ganlyniad i’r cyfyngiadau ar dynnu dŵr a wnaethom eu gosod yn amodau'r drwydded.

Gallai mannau tynnu dŵr lluosog ar gyfer ynni dŵr a defnyddiau eraill achosi i lifau afonydd ddisgyn o dan ein lefelau gwarchod llif cyffredin ar gyfer darnau estynedig o hydoedd afon un ai ar afon unigol neu nentydd cyfagos mewn dalgylch bach. Mae hyn yn golygu bod cael llai o lif am bellter hwy yn ein hafonydd yn dod yn berygl sylweddol i strwythur a gweithrediad ecosystemau afonydd.

Bydd y cyfyngiadau arferol rydym yn eu cymhwyso i dynnu dŵr heb ei ddychwelyd yn gadael digon o lif yn ein afonydd i fodloni'r safon gwarchod amgylcheddol ar gyfer Statws Ecolegol Da fel y’i disgrifir o dan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr). Mae gennym ddyletswydd statudol i gyflawni Statws Ecolegol Da yn rhan fwyaf o gyrff dŵr Cymru ac i atal safonau amgylcheddol cyrff dŵr sydd eisoes â Statws Ecolegol Da rhag dirywio.

Mae ein safon llif ar gyfer ynni dŵr Parth 1, sy'n caniatáu tynnu 40% o lif yr afon sydd ar gael uwchben y llif isel gwarchodedig, yn darparu'r un lefel o warchodaeth llif ag yr amcanion llif afonydd a amlinellwyd yn ein strategaethau trwyddedu tynnu dŵr i gyflawni Statws Ecolegol Da.

Byddwn yn caniatáu tynnu dŵr at ddibenion dros dro, fel y rheiny ar gyfer ynni dŵr, i achosi llifau afonydd i ddisgyn o dan y lefel hon am ddarn cyfyngedig o hyd yr afon ar yr amod ei fod yn gyson â'n safonau llif ar gyfer ynni dŵr ac nad yw’n cyflwyno risg uchel i ecoleg yn yr afon.

Nid ydym yn ffafrio datblygu cynlluniau ynni dŵr mewn cyrff dŵr â statws ecolegol uchel.

Byddwn fel arfer yn cyfyngu tynnu dŵr ar gyfer ynni dŵr rhag achosi llifau i ddisgyn o dan ein safonau ar gyfer statws ecolegol da i 15% o hyd prif lif nentydd ac afonydd o fewn dalgylchoedd neu eu hisafonydd. Mae llawer o gynlluniau ynni dŵr yng Nghymru mewn is-ddalgylchoedd blaenddwr bach iawn o lai na 2 km2 o fewn dalgylch isafon fach. Yn y sefyllfaoedd hyn, gallwn ganiatáu i hyd at 100% o hyd yr afon o fewn yr is-ddalgylch blaenddwr i ddisgyn yn is na'n safonau llif ar gyfer statws ecolegol da, ar yr amod ein bod yn fodlon na fydd yn effeithio strwythur a gweithrediad ecosystem yr afon wrth ei hystyried ar y cyd ag effeithiau cynlluniau ynni dŵr eraill o fewn y dalgylch ehangach.

Os ydych yn meddwl y gall tynnu dŵr ar gyfer eich cynllun gael effaith gronnus ar lif afonydd, yna gallwch gyflwyno ymholiad cyn-ymgeisio i ni. Fel arall, byddwn yn eich cynghori wrth dderbyn eich cais am drwydded tynnu dŵr os ydym yn credu y bydd faint o ddŵr sydd ar gael ar gyfer cynhyrchu pŵer yn gyfyngedig o ganlyniad i bresenoldeb cynlluniau ynni dŵr lluosog neu fannau tynnu dŵr eraill.

Cronnu dŵr

Rydym yn annhebygol o drwyddedu croniadau dŵr newydd mewn dalgylchoedd afonydd neu nentydd is. Nid ydym yn ffafrio adeiladu rhwystrau lluosog mewn hydoedd serth afonydd ar ucheldir oni bai y gellir dangos yn glir y gellir gosod a chynllunio cored newydd i warchod cysylltedd ecosystemau a bod â risg isel o effeithio ar ecoleg a geomorffoleg afonydd. Lle cynigir croniad dŵr newydd mewn hyd neu ddalgylch lle mae adeileddau neu fannau tynnu dŵr eraill eisoes yn bresennol, mae’n debygol y byddwn yn gofyn i ymgeiswyr gynnal asesiadau geomorffolegol ac ecolegol meintiol i'n helpu ni i ddeall yr effeithiau cronnus a chyfunol posibl.

Beth mae angen i chi ei wneud?

Dylech asesu nodweddion hyd neu ddalgylch yr afon lle rydych yn cynnig lleoli eich cynllun ynni dŵr ac ymchwilio i gynlluniau a phrosiectau i benderfynu p'un a fydd eich cynnig yn cael unrhyw effeithiau cronnus neu gyfunol. Dylech ystyried:

  • mannau tynnu dŵr a gollyngiadau eraill
  • coredau gweithredol neu segur, argaeau, neu unrhyw ffurf arall ar groniadau dŵr neu adeileddau yn yr afon yn y dalgylch lle mae eich cynllun wedi'i gynnig
  • sensitifrwydd yr ecoleg a geomorffoleg yn hyd yr afon i newidiadau mewn llif ac adeiladu rhwystrau newydd
  • defnydd tir o fewn y dalgylch (e.e. coedwigaeth, mwyngloddio, amaethyddiaeth)
  • treillio afonydd, gwaith amddiffyn rhag llifogydd, cysylltiadau trafnidiaeth
  • effaith ar safleoedd a ddynodwyd ar gyfer cadwraeth natur
  • statws ecolegol y corff dŵr fel y’i hamlinellir o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Gellir dod o hyd i'r rhan fwyaf o'r wybodaeth hon ar Borth-Daear Lle Llywodraeth Cymru.

Dylech gysylltu â ni cyn gwneud eich cais os ydych yn ystyried datblygu croniad dŵr newydd mewn dalgylch lle mae adeileddau neu gynlluniau ynni dŵr lluosog yn yr afon eisoes yn bresennol.

Byddwn yn cynghori os ydym yn meddwl y bydd angen asesiad effeithiau cronnus ac, os felly, beth fyddem yn disgwyl iddo asesu. Nid yw cwblhau asesiad effeithiau cronnus ar gyfer croniad dŵr newydd yn gwarantu y byddem yn rhoi trwydded ar ei gyfer.

Mewn rhai achosion, ni fydd mannau tynnu dŵr pellach na chronni dŵr newydd yn cael eu caniatáu gan y gallai'r effeithiau cronnus a chyfunol beryglu ein dyletswyddau statudol i fodloni amcanion Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr).

Diweddarwyd ddiwethaf