Cydsyniad ymchwilio dŵr daear
Os ydych am dynnu dŵr o ffynhonnell dŵr daear (neu amrywio trwydded tynnu dŵr daear sy'n bodoli eisoes), mae'n bosibl y bydd angen i chi ymchwilio i gael gwybod a oes digon o ddŵr daear ar gael, a ph'un a yw'r ansawdd yn addas ar gyfer eich anghenion.
Mae'n rhaid i'r ymchwiliad hwn ddigwydd cyn y gallwch wneud cais am drwydded tynnu dŵr.
Bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd i adeiladu twll turio neu ffynnon, a thynnu mwy nag 20 metr ciwbig o ddŵr y dydd at ddibenion profi. Bydd yr ymchwiliad hwn yn dangos y canlynol:
- a oes dŵr daear yn bresennol; a
- pha effaith fyddai tynnu dŵr daear yn ei chael ar yr amgylchedd.
Nid oes angen cydsyniad arnoch i ymchwilio i ffynhonnell dŵr daear os byddwch yn tynnu llai nag 20 metr ciwbig o ddŵr y dydd.
Ar ôl i chi orffen eich ymchwiliadau, bydd angen i chi wneud cais am drwydded tynnu dŵr i barhau i dynnu dŵr daear.
Hyd yn oed os yw'r ffynhonnell yn darparu digon o ddŵr, nid yw hyn yn golygu y byddwch yn cael trwydded yn awtomatig.
Gallwch ddefnyddio canlyniadau'r ymchwiliad hwn i gynhyrchu asesiad effaith dŵr daear, y gellir ei gyflwyno gydag unrhyw gais rydych yn ei wneud am drwydded tynnu dŵr yn y dyfodol.
Gwneud cais am gydsyniad i ymchwilio i ffynhonnell dŵr daear
Y ffi am ganiatâd ymchwiliad dŵr daear yw £1,961.
Byddwn yn anelu at ddarparu eich cydsyniad i chi o fewn 45 diwrnod gwaith. Gall gymryd hirach i asesu eich cais os yw'r gweithgaredd yn agos i safleoedd cadwraeth sensitif, gan ei bod yn bosibl y bydd rhaid i ni ymgynghori'n allanol.
Gallwch ddefnyddio canlyniadau'r ymchwiliad hwn i gynhyrchu asesiad effaith dŵr daear i'w gyflwyno gydag unrhyw gais rydych yn ei wneud am drwydded tynnu dŵr yn y dyfodol.
Paratoi eich cais i ymchwilio i ffynhonnell dŵr daear
Gall cynghorydd hydroddaearegol proffesiynol awgrymu’r lle gorau i chi ddatblygu ffynhonnell, neu p'un a yw werth ei wneud o gwbl. Gall hefyd gynllunio a goruchwylio eich prawf pwmpio a chynhyrchu'r asesiad effaith dŵr daear sydd ei angen.
Profion pwmpio a chynhyrchu asesiad effaith dŵr daear
Defnyddir profion pwmpio i weld a all y ffynhonnell gynhyrchu cyflenwad dŵr a fydd yn diwallu'ch anghenion, ac i weld a fydd y tyniad dŵr yn effeithio ar dyllau turio, ffynhonnau, tarddellau, afonydd a nodweddion amgylcheddol eraill sy'n bodoli eisoes yn yr ardal.
Mae'n rhaid i chi gynnal y profion pwmpio a chynhyrchu asesiad effaith dŵr daear yn unol â'r canllawiau ac arferion gorau perthnasol, gan gynnwys:
- Safon Brydeinig ISO 14686 (2003), ‘Hydrometric determinations – pumping tests for water wells – considerations and guidelines for design, performance and use’. Lawrlwythwch o wefan Ansdimat.
- Asiantaeth yr Amgylchedd (2012), ‘Hydrogeological impact appraisal for groundwater abstractions’. Gweler ar Gov.uk
- Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (2013), ‘Regulatory Method (WAT-RM-24): Pumping Test Methodology’. Lawrlwythwch o wefan Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban.
Efallai y bydd arnom angen ailadrodd profion neu weithgareddau priodol eraill os nad yw'r safonau gofynnol yn cael eu bodloni.
Byddwn yn dweud wrthych yn y cydsyniad pa nodweddion dŵr a thyniadau dŵr eraill cyfagos sydd angen eu monitro yn ystod eich prawf pwmpio yn seiliedig ar y wybodaeth rydych yn ei darparu yn eich arolwg nodweddion dŵr. Mae'n bosibl y bydd angen i chi osod tyllau turio ychwanegol at ddibenion monitro yn unig.
Cynnig amlinellol
Mae'n rhaid i chi ddarparu amlinelliad o'ch cynnig yn y cais. Bydd faint o wybodaeth a roddir yn ddibynnol ar gymhlethdod eich cynnig a sensitifrwydd y safle. Dylai'r wybodaeth ein galluogi i ddeall eich cynnig, lleoliad y safle a'r ardal gyfagos yn glir.
Gallai'r wybodaeth a roddir gynnwys:
- Disgrifiad o'r gosodiad arfaethedig, y prawf pwmpio a’r trefniadau tynnu dŵr
- Amlinelliad o'r prif resymau dros y cynnig, gan ystyried effeithiau amgylcheddol posibl
- Disgrifiad o unrhyw fesurau a gynigir i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol posibl ar amgylchedd y dŵr
Manylion y gwaith tynnu dŵr
Dywedwch wrthym faint o ddŵr rydych am ei dynnu bob awr, diwrnod a blwyddyn. Rhowch yr uchafsymiau, nid cyfartaleddau. Gwnewch yn siŵr fod y meintiau rydych yn eu nodi yn adlewyrchu'ch anghenion yn gywir. Pan ydych yn gwneud cais am drwydded tynnu dŵr, os ydych yn gofyn i dynnu cyfradd uwch o ddŵr na'r hynny a brofwyd yn rhan o gydsyniad yr ymchwiliad dŵr daear, bydd rhaid i chi fynd drwy'r broses gydsynio eto.
Darparwch ddiben, cyfnod a chyfeintiau eich cynigion tynnu ar gyfer pob man tynnu dŵr. Os yw dŵr i'w ddefnyddio at ddibenion lluosog, darparwch ddadansoddiad o faint o ddŵr a dynnir ar gyfer pob defnydd gwahanol.
Gollwng dŵr yn ystod y prawf pwmpio
Dywedwch wrthym lle y byddwch yn cael gwared ar y dŵr a dynnir yn ystod eich ymchwiliadau. Gall eich gollyngiad fynd i un o'r canlynol:
- Tir (h.y. suddfan)
- Cwrs dŵr (afon, nant neu ffos)
- Twll turio neu ffynnon arall
- Carthffos dŵr wyneb
- Y môr
- Rhywbeth arall (nodwch fanylion)
Nodwch y mannau gollwng yn glir ar y map rydych yn ei ddarparu gyda'ch cais, a'u labelu fel nad ydynt yn cael eu drysu gyda'r mannau tynnu dŵr. Mae'n rhaid i chi roi Cyfeirnod Grid Cenedlaethol deg ffigur pob man.
Dywedwch wrthym a ydych yn bwriadu defnyddio unrhyw fan gollwng fel rhan o unrhyw weithrediad yn y dyfodol, megis fel rhan o system oeri neu gynhesu dolen agored o’r ddaear.
Mae'n bosibl y bydd angen trwydded amgylcheddol ar gyfer gollwng eich dŵr a bwmpiwyd i'r tir neu i gwrs dŵr.
Rhagor o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer gollwng dŵr.
Os oes gennych drwydded amgylcheddol / eithriad i ollwng dŵr ar gyfer unrhyw un o'r mannau hyn eisoes, rhowch y rhif cyfeirnod yn eich cais.
Arolwg nodweddion dŵr
Mae'n rhaid i chi gynnal astudiaeth ddesg ac arolwg maes cywir a manwl o'r holl nodweddion dŵr yn yr ardal o amgylch eich cynnig. Gall nodweddion dŵr gynnwys:
- tyllau turio a ffynhonnau, hyd yn oed os nad ydynt mewn defnydd neu wedi'u llenwi
- tarddellau
- cyrsiau dŵr
- pyllau a llynnoedd, hyd yn oed os ydynt wedi'u llenwi
- ardaloedd gwlyptir
- lagwnau diferion a dalbyllau
- ceuffyrdd (llwybrau ar gyfer draenio i gloddfa neu ohoni)
Dylai astudiaethau desg gynnwys yr holl waith mapio sydd ar gael (megis Arolwg Ordnans, Arolwg Daearegol Prydain a'r Awdurdod Glo) ac ymgynghoriadau ag awdurdodau perthnasol (megis Cyfoeth Naturiol Cymru a chofrestr cyflenwadau dŵr preifat yr awdurdod lleol).
Bydd yr astudiaeth maes yn cadarnhau'r data a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth ddesg ac yn rhoi cyfle i ennill mwy o wybodaeth ar dderbynyddion sensitif posibl.
Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus wrth ymchwilio i nodweddion dŵr a gweithredu rhagofalon iechyd a diogelwch priodol.
Mae'r arwynebedd y dylai eich arolwg ei gynnwys yn dibynnu ar faint o ddŵr rydych yn dymuno ei dynnu. Mae'r tabl isod yn dangos yr arwynebedd lleiaf y dylai eich arolwg gynnwys:
Cyfaint dyddiol arfaethedig o ddŵr a dynnir (m3) | Radiws lleiaf ar gyfer yr arolwg (metrau) |
---|---|
20 i 100 |
250 |
100 – 500 |
500 |
500 – 1,000 |
1,000 |
1,000 – 3,000 |
1,500 |
3,000 – 5,000 |
2,000 |
Dros 5,000 |
4,000 |
Effeithiau ar ddefnyddwyr presennol
Os yw'r arolwg yn nodi y bydd y gwaith yn debygol o effeithio ar ddefnyddwyr dŵr eraill yn sylweddol, bydd angen i chi arddangos eich bod wedi dod i gytundeb boddhaol gyda'r defnyddwyr eraill.