Canllawiau ar y gofynion i Ryddhau Safleoedd Niwclear rhag y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol
Mae CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Scottish Environmental Protection Agency wedi llunio’r canllawiau hyn ar y cyd.
Mae’r canllawiau’n egluro'r hyn y mae angen i weithredwyr safleoedd niwclear ei wneud i ildio’u trwydded ar ôl i’r holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoli gwastraff ymbelydrol ddod i ben.
Dylai gweithredwyr ddarllen y canllawiau hyn wrth gynllunio a mynd i’r afael â’u gwaith i ddatgomisiynu a chlirio’u safleoedd. Maent yn berthnasol i bob safle, pa un a ydynt eisoes wedi dechrau ar y gwaith datgomisiynu a chlirio, ai peidio. Ymhellach, dylid eu hystyried wrth gynllunio neu adeiladu safleoedd newydd.
Yn ôl y canllawiau, mae’n ofynnol i weithredwyr wneud y canlynol:
- llunio cynllun rheoli gwastraff
- llunio achos diogelwch amgylcheddol ar gyfer y safle cyfan
- sicrhau bod cyflwr eu safle’n bodloni ein safonau o safbwynt diogelwch pobl a’r amgylchedd, yn awr ac yn y dyfodol
Maent yn pennu ein safonau a’n gofynion ac yn esbonio’r broses reoleiddio sy’n arwain at wneud penderfyniad ynghylch pa un a ddylid:
- rhoi caniatâd i waredu ar y safle y gwastraff ymbelydrol sy’n deillio o waith datgomisiynu a chlirio
- caniatáu i weithredwr y safle niwclear ildio’i drwydded amgylcheddol