Canllawiau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr pecynnu (pEPR)
Mae cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr pecynnu (pEPR) yn gosod rhwymedigaethau ar sefydliadau yng Nghymru sy'n:
- cyflenwi neu’n mewnforio pecynnau a nwyddau sydd wedi'u pecynnu
- gweithredu fel cynllun cydymffurfio
- ailbrosesu neu allforio gwastraff pecynnu ar gyfer ei ailgylchu
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheoleiddiwr ar gyfer y sefydliadau hyn yng Nghymru.
Cynhyrchydd deunydd pecynnu
Os yw eich sefydliad yn cyflenwi neu'n mewnforio deunydd pecynnu mae'n bosibl y bydd rhwymedigaeth arnoch fel cynhyrchydd pecynnu. Mae'n rhaid i gynhyrchwyr deunydd pecynnu gofrestru, adrodd ar ddata pecynnu a thalu tuag at gasglu ac ailgylchu deunydd pecynnu pan ddaw'n wastraff.
Darganfod ar bwy fydd hyn yn effeithio a beth i'w wneud (GOV.UK).
Cynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr
Mae cynlluniau cydymffurfio pecynnu yn fusnesau sy'n helpu cynhyrchwyr deunyddiau pecynnu i gyflawni eu rhwymedigaethau.
Gwirio rhestr yr holl gynlluniau cydymffurfio â phecynnu (Asiantaeth yr Amgylchedd.
Os ydych chi eisiau sefydlu cynllun cydymffurfio yng Nghymru e-bostiwch deunyddpacio@cyfoethnaturiol.cymru.
Ailbroseswyr ac allforwyr gwastraff pecynnu
Mae angen i sefydliadau sy'n ailgylchu neu'n allforio gwastraff pecynnu gofrestru fel ailbrosesydd neu allforiwr pecynnu a rhoi gwybod am ddata gwastraff pecynnu.
Mae angen i sefydliadau sy’n dymuno cyhoeddi nodiadau adfer deunydd pacio (PRN) wneud cais am achrediad.
Canfod beth sydd angen i ailbroseswyr ac allforwyr gwastraff pecynnu ei wneud (GOV.UK.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â pEPR gallwch anfon e-bost at:deunyddpacio@cyfoethnaturiol.cymru