Enghreifftiau o gludwyr gwastraff, broceriaid a delwyr
Dewiswch eich math o gofrestriad: haen uwch neu haen is
Mae dwy lefel o gofrestru: haen uwch ac haen is.
Cofrestrwch ar yr haen is os ydych yn:
- cludo gwastraff a gynhyrchir gennych chi eich hun, ar yr amod nad yw'n wastraff adeiladu neu ddymchwel. Er enghraifft, gallech fod yn arddwr sy'n cludo gwastraff gwyrdd neu'n osodwr carpedi sy'n gwaredu hen garped
- elusen neu'n sefydliad gwirfoddol
- awdurdod casglu, gwaredu a/neu reoleiddio gwastraff
- cludydd, brocer neu ddeliwr sydd dim ond yn ymdrin â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gwastraff o gloddfa neu chwarel, neu wastraff o safle amaethyddol
Cofrestrwch ar yr haen uwch os ydych yn:
- cludo gwastraff adeiladu neu ddymchwel
- cludo gwastraff a grëwyd gan rywun arall – er enghraifft, pobl sy'n casglu haearn sgrap o dai pobl
- brocer neu ddeliwr – heblaw os ydych dim ond yn delio â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gwastraff o gloddfa neu chwarel, neu wastraff o safle amaethyddol, sy'n weithgareddau haen is, neu os ydych yn elusen/sefydliad gwirfoddol neu'n awdurdod casglu, gwaredu a/neu reoleiddio gwastraff
Dewiswch eich gweithgaredd
Cario, brocera, delio
Enghreifftiau o gludwyr gwastraff
Pwy | Gweithgaredd | Angen cofrestru | Haen uwch neu haen is |
---|---|---|---|
Adeiladwyr |
Cario gwastraff adeiladu a dymchwel rydych wedi'i symud, e.e. sinciau, baddonau |
Oes |
Uwch |
Gosodwyr carpedi |
Gosod carped newydd a mynd â'r hen garped ymaith neu dynnu darnau o garpedi |
Oes |
Is |
Trydanwyr a phlymwyr |
Cario gwastraff adeiladu a dymchwel rydych wedi'i symud, e.e. sinciau, baddonau |
Oes |
Uwch |
Trydanwyr a phlymwyr |
Cario darnau o bipellau ymaith, er enghraifft, ond nid gwastraff adeiladu neu ddymchwel |
Oes |
Is |
Ysgubwyr simneiau |
Cario lludw rydych wedi'i dynnu o simneiau |
Oes |
Is |
Contractwyr ffensio |
Cario ffensys rydych wedi'u tynnu ymaith (caiff ffensys eu hystyried yn wastraff adeiladu) |
Oes |
Uwch |
Garddwyr, tirlunwyr, meddygon coed |
Cario perthi a gwastraff gwyrdd rydych wedi'u tynnu ymaith |
Oes |
Is |
Garddwyr, tirlunwyr, meddygon coed |
Cario gwastraff adeiladu rydych wedi'i dynnu ymaith |
Oes |
Uwch |
Llety gwyliau |
Cludo gwastraff a gynhyrchir gennych chi eich hun, ar yr amod nad yw'n wastraff adeiladu neu ddymchwel. Er enghraifft, efallai eich bod yn arddwr sy'n cludo gwastraff gwyrdd i ffwrdd, neu'n osodwr carpedi sy'n cludo hen garped i ffwrdd |
Oes |
Is |
Clirio tai |
Cario gwastraff a dynnir o gartrefi ymaith |
Oes |
Uwch |
Delwyr haearn sgrap |
Casglu a chario gwastraff ymaith o dai/busnesau |
Oes |
Uwch |
Deiliaid tai |
Mynd â'ch gwastraff chi neu wastraff pobl eraill (yn ddielw) i safle awdurdod lleol |
Nac oes |
Amherthnasol |
Nyrsys a gweithwyr gofal iechyd |
Cario gwastraff a gynhyrchwyd o ganlyniad i'ch gofal |
Oes |
Is |
Nyrsys a gweithwyr gofal iechyd, gan gynnwys fferyllfeydd |
Darparu gwasanaeth i gario gwastraff a gynhyrchir gan gleifion, nid o ganlyniad i'w gweithgareddau gofal ac nid fel rhan o'r busnes neu i wneud elw |
Nac oes |
Amherthnasol |
Mecanydd symudol |
Gwaredu gwastraff a gynhyrchir o ganlyniad i'ch gwaith |
Oes |
Is |
Mecanydd symudol |
Gwaredu gwastraff a gynhyrchir gan rywun arall |
Oes |
Uwch |
Heddlu, gwasanaeth tân, ambiwlansys |
Gwaredu gwastraff, ond nid fel busnes nac i wneud elw |
Nac oes |
Amherthnasol |
Glanhawyr biniau ar olwynion |
Gwaredu a chario gwastraff o'r bin ymaith |
Oes |
Uwch |
Glanhawyr biniau ar olwynion |
Dim ond yn cario dŵr gwastraff a gynhyrchir yn ystod y weithred o lanhau |
Oes |
Is |
Sefydliadau cario gwastraff haen is |
Oes |
Is |
|
Unigolion sy'n cofrestru ar haen is yn ôl y mathau o wastraff |
Cario gwastraff heblaw am wastraff amaethyddol a gwastraff o gloddfeydd a chwareli neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid |
Oes |
Uwch |
Unrhyw un sy'n cario samplau nad ydynt yn wastraff |
Am ba bynnag reswm, gan gynnwys i bennu a yw'n wastraff |
Nac oes |
Amherthnasol – ddim yn wastraff |
Unrhyw un sy'n cario samplau o wastraff a gynhyrchir gan rywun arall neu sy'n wastraff adeiladu a dymchwel |
Am ba bynnag reswm |
Oes |
Uwch |
Gosodwyr teiars |
Amnewid a chario hen deiars ymaith |
Oes |
Is |
Unrhyw grefftwr |
Cario gwastraff rydych wedi'i gynhyrchu fel mater o drefn arferol a rheolaidd nad yw'n wastraff adeiladu neu ddymchwel |
Oes |
Is |
Unrhyw grefftwr |
Cario gwastraff rydych wedi'i gynhyrchu nad yw'n fater o drefn arferol neu reolaidd |
Nac oes |
Amherthnasol |
Noder bod yn rhaid i chi gofrestru os arfer arferol eich busnes yw cario gwastraff, hyd yn oed os nad ydych chi'n gwneud hyn yn aml.
Enghreifftiau o froceriaid a delwyr
Pwy | Gweithgaredd | Angen cofrestru | Haen uwch neu haen is | Brocer a/neu ddeliwr |
---|---|---|---|---|
Yr heddlu |
Cyfeirio gwastraff sydd i'w waredu |
Nac oes |
Amherthnasol |
Amherthnasol |
Rheolwyr asiantaethau gosod tai / canolfannau siopa |
Trefnu i wastraff gael ei symud o lety/safle a gaiff ei rentu |
Oes |
Uwch |
Brocer |
Bwrdd Iechyd Lleol |
Trefnu i waredu gwastraff o feddygfeydd |
Oes |
Uwch |
Brocer |
Cyfnewid gwastraff |
Darparu fforwm i bobl fynd ato i chwilio am ddeunyddiau gwastraff, eu prynu neu eu gwerthu |
Nac oes |
Amherthnasol |
Amherthnasol |
Cyfnewid gwastraff |
Cymryd camau i gyfeirio tynged gwastraff, h.y. dwyn gwastraff a phobl ynghyd |
Oes |
Uwch |
Brocer |
Cyfnewid gwastraff |
Defnyddio asiant i brynu gwastraff ac yna ei werthu |
Oes |
Uwch |
Brocer a deliwr |
Nid oes angen i chi fod wedi bod ym meddiant y gwastraff ar unrhyw adeg i gofrestru fel brocer neu ddeliwr.
Gallwch ddewis unrhyw un o'r tri math o weithgarwch neu bob un ohonynt.
Diffiniadau
Gwastraff adeiladu a dymchwel
Gall gwastraff adeiladu a dymchwel ddod yn sgil gwaith paratoadol, gwella, trwsio neu addasu.
Mae'n cynnwys unrhyw eitemau a oedd yn rhan o seilwaith neu a oedd yn rhan o seilwaith yn y gorffennol. Mae hefyd yn cynnwys gwastraff wrth archwilio a thynnu adnoddau mwynol.
Mae enghreifftiau cyffredin o wastraff adeiladu a dymchwel yn cynnwys baddonau, sinciau, toiledau, drysau, ffensys, llwybrau, pyst concrit, rwbel, waliau, gwaith brics, gwaith pibellau, gwifrau, plastrfwrdd, rheiddiaduron a ffenestri.
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid yw carcasau anifeiliaid, rhannau o garcasau neu gynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan ddynion.
Gwastraff o safleoedd amaethyddol
Caiff safle amaethyddol ei ddiffinio fel tir a ddefnyddir ar gyfer garddwriaeth, tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio llaeth, bridio a chadw da byw, tir pori, gweirgloddau, tir ar gyfer tyfu helyg gwiail, gerddi marchnad, a thir ar gyfer meithrinfeydd planhigion.
Mae hefyd yn cynnwys coetiroedd lle y'u defnyddir i gefnogi'r defnydd o dir at ddibenion amaethyddol eraill.
Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys pob math o ffermio âr.
Nid yw pob gweithgaredd lle cedwir anifeiliaid yn cael ei ystyried yn amaethyddol. Nid yw stablau marchogaeth, canolfannau ceffylau, cytiau cŵn, parciau anifeiliaid a chynhyrchwyr pysgod addurniadol yn cael eu hystyried yn safleoedd amaethyddol. Ni fyddai gwastraff o'r safleoedd hyn yn eich gwneud yn gymwys i gofrestru ar yr haen is.
Cofrestru neu adnewyddu
Darllenwch fwy am gofrestru neu adnewyddu fel cludwr gwastraff, brocer neu ddeliwr