Meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid

Mae yn erbyn y gyfraith i feddu ar rywogaethau byw neu farw a warchodir gan Ewrop a'r DU, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid.

Gallwn ddyrannu trwydded os ydych yn bwriadu meddu ar rywogaethau a warchodir, a gludir, a werthir neu a gyfnewidir.

Nid yw'n anghyfreithlon i chi feddu ar rywogaeth anabl a warchodir, dros dro, i'w thrin a'i rhyddhau'n ddiweddarach. Mae hyn ond yn gymwys gyhyd â na chafodd yr anaf ei beri gan weithred anghyfreithlon.

Deddfwriaeth Ewropeaidd

Yn ôl Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 mae'n anghyfreithlon gwneud y canlynol:

  • meddu ar
  • rheoli
  • cludo
  • gwerthu neu gyfnewid
  • cynnig gwerthu neu gyfnewid

Unrhyw rywogaethau a warchodir Ewropeaidd byw neu farw sydd wedi cael eu cymryd o'r gwyllt.

Deddfwriaeth y DU

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon i feddu ar y canlynol:

Mae yna droseddau tebyg sy'n ymwneud â gwerthu, cynnig neu arddangos ar werth ar gyfer anifeiliaid Atodlen 5 a phlanhigion Atodlen 8.

Mae Deddf Diogelu Moch Daear 1992 yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon i feddu ar fochyn daear marw. Mae hefyd yn drosedd meddu ar fochyn daear byw neu ei reoli.

Trwyddedau meddiant

Gallwn ddyrannu trwyddedau meddiant dan y canlynol:

Gallwn ddyrannu'r trwyddedau hyn at ddibenion penodol yn unig.

Gallwn ddyrannu trwyddedau ar gyfer meddiant sbesimen byw neu farw at ddibenion gwyddonol, ymchwil neu addysgol. Byddwn yn dyrannu trwydded os gallwch ddangos y rheswm gwyddonol neu addysgol dros feddu ar sbesimen yn unig.

Cyflwyno cais am drwydded i feddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid

Os oes angen trwydded arnoch i feddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid, bydd angen i chi gwblhau un o'r ffurflenni cais hyn.

Ffurflen gais meddu ar rywogaethau a warchodir

Ffurflen gais gwerthu neu gyfnewid rhywogaethau a warchodir

Mae yna ddwy drwydded gyffredinol sy'n ymwneud â meddiant. Mae un ar gyfer aelodau llawn o'r Urdd Tacsidermyddion:

Mae'r llall ar gyfer:

Mae Deddf Ceirw 1991 yn cyfyngu ar y dulliau o ladd a chymryd ceirw. Trwyddedir gwerthu cig carw dan Ddeddf Hela 1831 a'r Ddeddf Trwyddedau Hela 1860. Nid ydym yn dyrannu trwyddedau dros ladd na chymryd ceirw.

Caiff masnach ryngwladol ei rheoleiddio gan y Confensiwn Masnach Rhyngwladol mewn Rhywogaethau Fflora a Ffawna Gwyllt dan Fygythiad. Gallwch weld rhestr o'r rhywogaethau yr ymdrinnir â hwy yn y ddeddfwriaeth masnach ryngwladol ar y wefan species+.

Diweddarwyd ddiwethaf