Ystyr 'rhywogaethau goresgynnol' yw planhigion ac anifeiliaid estron sydd wedi eu cyflwyno i gynefinoedd gwyllt, naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol. Yn aml iawn bydd y rhywogaethau hyn yn gallu lledu'n gyflym trwy gystadlu'n well na rhywogaethau brodorol mewn cilfachau ecolegol tebyg. Maen nhw'n gallu creu difrod economaidd sylweddol.

Planhigion goresgynnol yng nghoetiroedd Cymru

Mae'r rhestr o blanhigion Goresgynnol sy'n gallu creu problemau yng nghoetiroedd Cymru yn cynnwys:

Mae'r planhigion hyn yn fygythiad i fflora a chynefinoedd brodorol. Maen nhw'n ormesol ac yn ffurfio clystyrau trwchus sy'n cau allan planhigion eraill.

Rhywogaethau anifeiliaid goresgynnol

Mae'r rhestr o rywogaethau anifeiliaid goresgynnol yng nghoetiroedd Cymru yn cynnwys:

  • Gwiwerod llwyd (Sciurus carolinensis), sy'n cystadlu'n well na gwiwerod coch am fwyd a chynefin. Maen nhw'n difrodi coed trwy dynnu rhisgl ac yn agor ffordd i mewn i blâu a phathogenau. Mae goblygiadau hyn i goetiroedd masnachol yn ddifrifol iawn ac mae arbenigwyr yn credu bod y prosesau hyn yn gallu atal rhai coetiroedd rhag aildyfu'n naturiol
  • Ceirw estron, sy'n achosi difrod i wreiddiau coed a llwyni, yn breuo rhisgl coed ac yn newid nodweddion cynefinoedd coetir. Mae hyn yn effeithio ar rywogaethau brodorol coetiroedd, yn effeithio'n negyddol ar ansawdd pren a hyd yn oed yn lladd coed

Mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol

Mae rhai rhywogaethau goresgynnol wedi eu cynnwys yn y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981). Mae rhyddhau'r rhan fwyaf ohonyn nhw i'r gwyllt yn anghyfreithlon, hyd yn oed pan fyddan nhw wedi eu dal yn y gwyllt.

Os oes rhywogaeth oresgynnol yn bresennol ar eich tir, dylech chi geisio darganfod a fydd ei gwaredu yn eich helpu i gwrdd â'ch amcanion rheoli ar gyfer y tir. Bydd y penderfyniad hwn yn ystyried y pwyntiau hyn: pa mor aml mae'r rhywogaeth yn cael effaith a pha mor ddifrifol yw'r effaith honno; y rhywogaethau sy'n debygol o gymryd lle'r rhywogaeth oresgynnol; a'r cydbwysedd rhwng yr adnoddau fydd eu hangen i fynd i'r afael â'r mater a pha mor debygol o lwyddo ydych chi.

Dylech osgoi lledu rhywogaethau goresgynnol ar ddamwain

Yn achos planhigion, mae'n bwysig osgoi lledu'r rhywogaeth ar ddamwain wrth geisio ei difa. Gall canclwm Japan aildyfu o'r darn lleiaf o wreiddyn yn cael eu cario ar esgidiau neu beiriannau. Mae Rhododendron yn cynhyrchu llawer iawn o hadau mân ac ysgafn. Maen nhw'n hawdd eu cario ar y gwynt, esgidiau, cyfarpar a cherbydau. Mae codau ffrwydrol  jac y neidiwr yn lledu hadau dros bellter maith.

Ystyriaethau moesegol

Bydd gwaredu anifeiliaid o dir fel arfer yn codi ystyriaethau moesegol.  Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd trefol lle gall y gymuned leol deimlo'n gryf am y safle a'i hanifeiliaid.

Daeth Rheoliad Ewropeaidd ar Rywogaethau Estron Goresgynnol i rym ar 1 Ionawr 2015. Roedd hyn yn ganlyniad i strategaeth yr UE i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth Ewrop – mae un o chwe tharged y strategaeth yn cyfeirio at rywogaethau estron goresgynnol. Dilynwch y dolenni isod i ddarllen rhagor am hyn.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi gysylltu â thîm Rheolaeth Coedwigaeth Gynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad at sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf