Trwyddedau Cyffredinol 001
Rhif y drwydded: WCA / GEN / 001 / 2024
Yn ddilys o: 1 Ionawr 2024
Dyddiad gorffen: 31 Rhagfyr 2024
Trwydded i ladd neu gymryd adar gwyllt neu i gymryd neu ddinistrio eu nythod neu eu hwyau at ddibenion atal difrod difrifol neu ledaeniad afiechyd i dda byw, bwydydd ar gyfer da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau.
Rhan A. Sail gyfreithiol a diben y drwydded hon
1. Mae'r drwydded hon, a roddir o dan Adran 16(1)(j) a (k) a (5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) (y Ddeddf) gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru a elwir fel arall yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n fodlon o ran y dibenion a nodir ym mharagraff 2 nad oes ateb boddhaol arall, yn caniatáu unigolion awdurdodedig (gweler Diffiniadau) i gyflawni’r camau gweithredu a nodir ym mharagraff 3.
2. Y dibenion y rhoddir y drwydded hon ar eu cyfer yw atal difrod difrifol neu ledaenu clefydau i dda byw, bwydydd ar gyfer da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau.
Rhan B. Yr hyn y mae'r drwydded hon yn ei awdurdodi
3. At y dibenion a nodir ym mharagraff 2 yn unig, mae’r drwydded hon yn caniatáu i unrhyw unigolyn awdurdodedig ladd neu gymryd adar gwyllt o’r rhywogaethau a restrir yn Nhabl 1 isod, neu gymryd, difrodi neu ddinistrio eu nythod neu gymryd neu ddinistrio eu hwyau, er mwyn atal difrod difrifol o'r mathau a ddangosir gyda ‘Ie’ yn Nhabl 1 ar gyfer pob un o'r rhywogaethau hynny, trwy ddefnyddio’r canlynol:
(i) unrhyw ddull nad yw wedi'i wahardd gan adran 5 o'r Ddeddf
(ii) arf lled-awtomatig (gweler Diffiniadau)
(iii) magl cawell, nad yw ei ddimensiynau'n bodloni gofynion adran 8(1) o'r Ddeddf
(iv) y tu mewn i adeilad, dyfais ar gyfer goleuo targed, dyfais gweld ar gyfer saethu gyda'r nos, unrhyw fath o olau artiffisial, neu unrhyw ddrych neu ddyfais ddisglair arall
(v) y tu mewn i adeilad ac i gymryd adar nad ydynt yn hedfan neu sydd ar fin hedfan, rhwyd a ddelir â llaw neu rwyd a yrrir â llaw
|
Atal difrod difrifol i dda byw trwy ymosodiad uniongyrchol |
Atal difrod difrifol i fwydydd ar gyfer da byw |
Atal difrod difrifol i gnydau, llysiau neu ffrwythau |
Atal lledaeniad clefydau i dda byw neu fwydydd ar gyfer da byw |
Gŵydd Canada Branta canadensis |
Na |
Na |
Ie |
Na |
Colomen graig Columbia livia |
Na |
Ie |
Ie |
Ie |
Ysguthan Columba palumbus |
Na |
Na |
Ie |
Ie |
Jac-y-do Coloeus monedula |
Na |
Ie |
Ie |
Ie |
Brân dyddyn Corvus corone |
Ie |
Ie |
Na |
Ie |
4. Dim ond yn y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024, ac yn amodol ar gydymffurfio â’r holl amodau a restrir yn Rhan C, y mae’r camau gweithredu a restrir ym mharagraff 3 wedi’u hawdurdodi.
5. Mae'r drwydded hon yn berthnasol yng Nghymru, ochr y tir o'r marc distyll cymedrig.
Iwan G. Hughes, Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau
Llofnodwyd ar gyfer ac ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rhan C. Amodau
C.1 Amodau cyffredinol
6. Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n bwriadu defnyddio’r drwydded hon sicrhau ei fod wedi darllen a deall ei thelerau ac amodau cyn cymryd camau trwyddedig.
7. Rhaid lladd unrhyw adar sy'n cael eu lladd yn unol â'r drwydded hon mewn modd cyflym a thrugarog, a hynny’n unol â’r diffiniad o “ladd” yn y drwydded hon (gweler Diffiniadau).
8. Rhaid mynd ar drywydd unrhyw aderyn o rywogaeth darged (gweler Diffiniadau) sy'n cael ei anafu drwy gymryd unrhyw gamau trwyddedig, a'i ladd yn drugarog.
9. Os bydd unrhyw anifail o rywogaeth a warchodir gan Ewrop (gweler Diffiniadau), neu unrhyw aderyn ysglyfaethus gwyllt (gan gynnwys tylluanod), yn cael ei ddal, ei ladd neu ei anafu wrth gymryd camau o dan y drwydded hon, rhaid hysbysu CNC am y ffaith honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Gellir cysylltu gyda CNC drwy e-bostio trwyddedrhywogaeth@naturalresourceswales.gov.uk.
10. Nid yw’r drwydded hon yn awdurdodi cymryd unrhyw gamau o fewn unrhyw un o’r safleoedd gwarchodedig, neu o fewn y clustogfeydd diffiniedig o amgylch y safleoedd hyn, a restrir yn Atodiad 1 y drwydded hon.
11. Ni chaiff unrhyw un a geir yn euog o drosedd y mae’r amod hwn yn gymwys iddo ddefnyddio’r drwydded hon oni bai, mewn perthynas â’r drosedd honno, naill ai (1) y cafodd yr achos ei wrthod â rhybudd, neu (2) ei fod yn unigolyn a adsefydlwyd at ddibenion Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a chaiff ei euogfarn ei thrin fel un sydd wedi darfod. Caiff unigolyn ddefnyddio’r drwydded hon pan fo llys, mewn perthynas â throsedd o’r fath, wedi gwneud gorchymyn i’w ryddhau’n ddiamod. Mae'r amod hwn yn berthnasol i droseddau o dan y Ddeddf, Deddf Ceirw 1991, Wild Mammals (Protection) Act 1996, Hunting Act 2004, Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (i gyd fel y'u diwygiwyd).
C.2 Amodau sy'n berthnasol i unrhyw ddefnydd o faglau cawell o dan y drwydded hon
12. Rhaid i unrhyw fagl cawell a ddefnyddir at ddiben y drwydded hon fod o un o’r mathau canlynol:
(i) magl cawell cerdded i mewn a all ddal sawl aderyn ar unwaith
(ii) magl Larsen nad oes ganddo unrhyw adran ddal wedi'i gosod yn union uwchben yr adran ddenu
(iii) magl Larsen mate, a elwir hefyd yn fagl clam
(iv) magl Larsen pod
(v) magl colomennod
13. Rhaid i unrhyw fagl Larsen mate neu Larsen pod gael ei ddiogelu yn ei le wrth gael ei ddefnyddio i liniaru'r risg y caiff ei lusgo i ffwrdd gan rywogaethau nad ydynt yn rhywogaethau targed.
14. Pan ddefnyddir magl cawell sy'n cynnwys aderyn denu byw at ddiben y drwydded hon, rhaid i'r aderyn denu fod o un o’r rhywogaethau canlynol: brain tyddyn (Corvus corone), jac-y-dos (Coloeus monedula).
15. Rhaid i unrhyw aderyn denu byw a ddefnyddir at ddiben y drwydded hon beidio â chael ei glymu, ei ddallu, neu ei anafu mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys drwy docio adenydd.
16. Rhaid darparu unrhyw aderyn denu byw a ddefnyddir at ddiben y drwydded hon â digon o fwyd a dŵr, cysgodfa briodol a chlwydfan addas bob amser pan fydd yn cael ei gadw’n gaeth mewn magl.
17. Os defnyddir unrhyw gig neu gynnyrch cig fel bwyd ar gyfer aderyn denu, rhaid iddo fod wedi'i dorri'n fân neu wedi'i ddeisio.
18. Os defnyddir cig neu unrhyw gynnyrch cig fel abwyd, rhaid iddo fod wedi'i dorri'n fân neu wedi'i ddeisio.
19. Pan ddefnyddir magl cawell, ni ddylai'r cyfnod amser rhwng archwiliadau corfforol (gweler Diffiniadau) fod yn fwy na 25 awr.
20. Dim ond os yw'r sawl sy'n gyfrifol amdano yn hyderus y bydd yn cael ei archwilio'n ffisegol ar yr adegau gofynnol y gellir defnyddio magl cawell. Rhaid peidio â gosod magl cawell os yw archwiliad ffisegol o leiaf bob 25 awr yn annhebygol o fod yn bosibl, er enghraifft oherwydd tywydd garw a ragwelir neu resymau eraill y gellir yn rhesymol eu rhagweld.
21. Os bydd mwy na 25 awr yn mynd heibio cyn i fagl cawell gael ei archwilio'n ffisegol oherwydd amgylchiadau nas rhagwelwyd, rhaid gwneud pob ymdrech resymol i gael archwiliad ffisegol o'r magl cyn gynted â phosibl.
22. Rhaid i unrhyw adar sy'n dal yn fyw o'r rhywogaeth darged gael eu difa mewn modd trugarog neu eu rhyddhau heb niwed cyn gynted ag y bo'n ymarferol, oni bai eu bod i'w cadw i'w defnyddio fel adar denu.
23. Rhaid lladd unrhyw aderyn sy'n cael ei gadw'n gaeth allan o olwg adar caeth eraill. Nid yw'r amod hwn yn berthnasol i adar sy'n cael eu dal mewn maglau a all ddal sawl aderyn ar unwaith.
24. Pan na ddefnyddir magl cawell, rhaid sicrhau nad yw'n bosib i ddal adar neu anifeiliaid ynddo.
Rhan D. Diffiniadau
25. Ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, fel y'i diwygiwyd.
26. Mae “unigolyn awdurdodedig” yn golygu:
(i) perchennog neu feddiannydd y tir y cymerir y camau a awdurdodwyd arno, neu unrhyw unigolyn a awdurdodwyd gan y perchennog neu’r meddiannydd i wneud hynny
(ii) unrhyw unigolyn a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y cymerir y camau a awdurdodwyd ynddi
(iii) unrhyw unigolyn a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan CNC
Ni fydd awdurdodi unrhyw unigolyn at ddibenion y diffiniad hwn yn rhoi unrhyw hawl mynediad i unrhyw dir.
27. Ystyr “rhywogaeth o anifail a warchodir gan Ewrop” yw rhywogaeth a restrir yn Atodlen 2 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, fel y’u diwygiwyd.
28. Mae “lladd” yn cynnwys clwyfo'n ddamweiniol wrth geisio lladd yn unol â thelerau ac amodau'r drwydded hon.
29. Mae “da byw” at ddibenion y drwydded hon fel y’i diffinnir yn adran 27(1) o’r Ddeddf. Mae’n cynnwys unrhyw anifail a gedwir:
(i) ar gyfer darparu bwyd, gwlân, crwyn neu ffwr
(ii) at y diben o'i ddefnyddio i gynnal unrhyw weithgaredd amaethyddol; neu
(iii) ar gyfer darparu neu wella saethu neu bysgota
Nid yw'r term ‘a gedwir’ wedi'i ddiffinio yn y Ddeddf. At ddibenion y drwydded hon, gellir parhau i ystyried anifail neu aderyn sy'n perthyn i un neu fwy o gategorïau (i), (ii) neu (iii) uchod yn un 'a gedwir' hyd yn oed pan nad yw wedi'i gyfyngu'n gorfforol. Er enghraifft, pan fo aderyn sy’n cael ei fagu’n gaeth, fel dofednod maes neu aderyn hela, yn ddigyfyngiad ond yn parhau i fod yn agos at loc, corlan neu adeilad y mae’n dychwelyd iddo i gael lloches neu i glwydo yn y nos, ac yn dibynnu’n sylweddol ar y bwyd a ddarperir gan bobl, yna gellir yn rhesymol ei ystyried yn dda byw.
30. Mae "archwiliad ffisegol" yn golygu archwiliad sy'n ddigonol er mwyn gwirio'r canlynol:
(i) a oes unrhyw anifail neu aderyn wedi'i ddal;
(ii) rhywogaeth a chyflwr corfforol unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi'i ddal;
(iii) cyflwr unrhyw aderyn denu a gedwir yn y magl;
(iv) a oes gan unrhyw aderyn denu a ddelir yn y magl fynediad at glwydfan addas ac at ddigon o fwyd a dŵr sydd mewn cyflwr digonol; ac
(v) a yw'r magl yn gweithredu'n effeithiol.
Gydag archwiliad ffisegol, mae’n ofynnol i'r sawl sy'n ei wneud gael golwg glir o bob cydran o'r magl a'r cynnwys, ac, fel arfer, bydd hyn yn golygu bod yn ddigon agos i gyffwrdd â'r magl.
31. Mae “arf lled-awtomatig” yn golygu unrhyw arf nad yw wedi'i wahardd gan adran 5 o Firearms Act 1968 (fel y'i diwygiwyd) ac sydd â storgell sy'n gallu dal mwy na dwy rownd o fwledi, lle mae gwasgu'r glicied yn taflu un ergyd, gyda phob ergyd dilynol yn gofyn am wasgu pellach o'r glicied.
32. Mae “rhywogaeth darged” yn golygu rhywogaeth a grybwyllir ym mharagraff 3 o'r drwydded hon.
33. Mae “aderyn gwyllt” fel y'i diffinnir yn adran 27(1) o'r Ddeddf.
Rhan E. Cyngor i ddefnyddwyr y drwydded
E.1 Cyngor cyffredinol
34. Gall methu â gweithredu o fewn telerau’r drwydded hon fel y nodir yn Rhan B neu fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o’r amodau a restrir yn Rhan C olygu na ellir dibynnu ar y drwydded ac y gellir cyflawni trosedd. Y gosb uchaf yn y Llys Ynadon am drosedd o dan y Ddeddf yw dirwy anghyfyngedig neu ddedfryd o chwe mis o garchar neu'r ddau.
35. Gall y drwydded hon gael ei haddasu neu ei dirymu gan CNC ar unrhyw adeg.
36. Ac eithrio fel y caniateir yn benodol o dan baragraff 3, nid yw’r drwydded hon yn awdurdodi defnyddio unrhyw ddull o ladd neu gymryd adar gwyllt a waherddir gan adran 5 neu adran 8 o’r Ddeddf.
37. Cyn cymryd unrhyw gamau a awdurdodir gan y drwydded hon mewn perthynas â brain tyddyn, colomennod craig, jac-dos, ysguthanod (rhywogaethau sy’n frodorol i’r Deyrnas Unedig), dylai unigolyn awdurdodedig wneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r diben dan sylw gan ddefnyddio dulliau amgen, cyfreithlon nad ydynt yn dod o dan y drwydded hon a dylai barhau i wneud hynny.
38. Dylai unrhyw un sy’n bwriadu rheoli adar gwyllt yn unrhyw un o’r safleoedd a restrir yn Atodiad 1 y drwydded hon, neu o fewn eu clustogfeydd, wneud cais i CNC am drwydded benodol.
39. Mae defnyddwyr y drwydded hon yn gyfrifol am gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethau perthnasol, gan gynnwys mewn perthynas â lles anifeiliaid, y defnydd o ddrylliau a’r defnydd o beledi plwm.
40. Dim ond os ydynt o fewn cwmpas effeithiol y dylid saethu adar â dryll.
41. Wrth ymgymryd â gweithgareddau o dan y drwydded hon, cynghorir unigolion awdurdodedig i gario copi o'r drwydded.
42. Cynghorir defnyddwyr y drwydded hon i wneud cofnod ysgrifenedig o’r camau a gymerwyd o dan y drwydded hon, gan gynnwys er enghraifft:
- unrhyw gamau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r broblem gan ddefnyddio dewisiadau eraill nad ydynt yn farwol yn lle camau trwyddedig;
- y rhesymau pam y penderfynwyd nad oedd dewisiadau amgen nad oeddent yn farwol yn ddigon i fynd i'r afael â'r broblem;
- dyddiad(au) a lleoliad(au) y camau trwyddedig a gymerwyd;
- nifer yr adar/wyau/nythod a laddwyd/cymerwyd/difrodwyd/dinistriwyd a'r dull(iau) a ddefnyddiwyd.
Cynghorir defnyddwyr ymhellach i gadw'r cofnodion hyn am o leiaf tair blynedd o'r dyddiad y cymerwyd camau gweithredu, ac iddynt fod yn gallu eu dangos ar gais.
E.2 Cyngor ar ddefnyddio maglau cawell
43. Dylai unrhyw fagl a ddefnyddir o dan y drwydded hon gael ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a chydrannau sy'n lleihau'r risg y bydd anifeiliaid neu adar a gedwir yn y magl yn cael eu hanafu neu’n anafu eu hunain.
44. Dylai dyluniad ac adeiladwaith maglau leihau'r risg o ddal neu niweidio rhywogaethau nad ydynt yn rhywogaethau targed heb effeithio’n afresymol ar effeithiolrwydd y magl ar gyfer dal rhywogaethau targed yn drugarog.
45. Dylai defnyddwyr maglau gymryd camau priodol i gyflawni a chynnal y lefel angenrheidiol o gymhwysedd i weithredu maglau cawell yn ddiogel ac yn drugarog, a all gynnwys hyfforddiant.
46. Dylid gosod maglau mewn lleoliadau sy'n lleihau'r risgiau o'r canlynol: dal neu anafu rhywogaethau nad ydynt yn rhywogaethau targed; difrod i'r magl gan adar neu anifeiliaid gwyllt neu rai dof; ymyrraeth gan unigolion anawdurdodedig; a niwed i adar neu anifeiliaid sydd wedi'u dal neu adar denu pan fyddant yn y magl.
47. Ni ddylid defnyddio maglau cyn belled ag y bo modd yn ystod cyfnodau o dywydd poeth neu oer eithafol, neu pan ragwelir amodau o'r fath. Os yw tywydd eithafol yn bosibl, dylid naill ai gosod maglau lle mae gorchudd naturiol i’w hamddiffyn rhag gwyntoedd cryfion, glaw, eira neu haul uniongyrchol (fel y bo’n berthnasol), neu dylid darparu gorchudd gan ddefnyddio dulliau artiffisial. Ni ddylid gosod maglau mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd.
48. Os defnyddir abwyd mewn magl, ni ddylai gynnwys cig lle bynnag y bo modd. Ni ddylid defnyddio cig neu gynhyrchion cig fel abwyd oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol.
49. Wrth gael eu defnyddio, lle bynnag y bo modd, dylai maglau gael eu harchwilio'n amlach nag unwaith bob 25 awr, ac yng ngolau dydd.
50. Dylid cymryd pob cam rhesymol i sicrhau lles adar denu ac unrhyw adar neu anifeiliaid byw sy'n cael eu dal yn y magl. Mae’n drosedd o dan ddeddfwriaeth lles anifeiliaid achosi dioddefaint diangen i anifail neu aderyn caeth.
51. Dylai defnyddwyr maglau a all ddal sawl aderyn wneud pob ymdrech resymol i ladd adar allan o olwg adar caeth eraill oni bai y byddai gwneud hynny'n arwain at oedi a thrin ychwanegol, gan arwain at fwy o ofid i adar caeth.
52. Ym mhob archwiliad o fagl, cyn gynted ag y bo'n ymarferol:
(i) Dylid symud unrhyw anifeiliaid neu adar marw yn y magl.
(ii) Rhaid cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod gan unrhyw aderyn denu sydd i aros yn y magl fynediad at y cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer aderyn denu.
(iii) Rhaid i unrhyw adar byw o'r rhywogaeth darged sydd wedi'u dal gael eu difa mewn modd trugarog neu eu rhyddhau heb niwed, oni bai eu bod i'w cadw i'w defnyddio fel adar denu.
(iv) Rhaid i unrhyw adar neu anifeiliaid sydd wedi’u dal yn fyw o rywogaeth ac eithrio'r rhywogaeth darged gael eu rhyddhau, eu cymryd neu eu difa mewn modd trugarog cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Mae pa un o’r camau hyn y dylid ei gymryd yn dibynnu ar a yw’r anifail neu’r aderyn yn anifail dof neu’n wyllt, a yw wedi’i anafu, ac, os yw’n anifail neu’n aderyn gwyllt, i ba rywogaeth y mae’n perthyn, fel a ganlyn:
(a) dylai anifail neu aderyn dof sydd heb unrhyw arwydd o anaf naill ai gael ei ryddhau ar ôl cael ei ddal, neu ei ddychwelyd i'w berchennog;
(b) dylid mynd ag anifail neu aderyn dof sydd wedi'i anafu ar gyfer triniaeth filfeddygol a gwneud pob ymdrech resymol i hysbysu ei berchennog;
(c) cyn gynted ag y bo’n ymarferol, dylai aderyn neu anifail gwyllt naill ai:
-
-
- gael ei ryddhau ar ôl cael ei ddal, oni bai ei fod o rywogaeth na chaniateir ei ryddhau heb drwydded (gweler isod), neu
- gael ei ddifa mewn modd trugarog, oni bai ei fod o rywogaeth na chaniateir ei ladd heb drwydded (gweler isod).
-
(v) Os bydd unrhyw anifail neu aderyn gwyllt sydd mewn magl yn cael ei anafu mor ddifrifol fel ei fod yn y fath gyflwr ei fod yn annhebygol o oroesi neu y byddai ei ryddhau yn anhrugarog, dylid ei ddifa mewn modd trugarog.
53. Mae gan anifail neu aderyn o unrhyw un o'r canlynol ofynion deddfwriaethol penodol y mae'n rhaid eu bodloni:
(i) rhywogaeth nad yw fel arfer yn preswylio ym Mhrydain nac yn ymweld yn rheolaidd
(ii) rhywogaeth a restrir yn Atodlen 9 i'r Ddeddf
(iii) rhywogaeth a restrir fel rhywogaeth estron goresgynnol sy'n peri pryder i'r Undeb
Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gofynion hyn.
54. Ni chaniateir lladd anifail neu aderyn o unrhyw un o’r rhywogaethau canlynol heb drwydded, oni bai ei fod wedi’i anablu mor ddifrifol fel nad oes unrhyw siawns resymol y bydd yn gwella, neu ei fod o rywogaeth sy’n destun tymor agored ac a gafodd ei ddal yn ystod y tymor agored hwnnw:
(i) adar gwyllt (unrhyw rywogaeth)
(ii) moch daear (Meles meles)
(iii) ceirw (unrhyw rywogaeth)
(iv) rhywogaeth a restrir yn Atodlen 5 i'r Ddeddf
(v) rhywogaeth a restrir yn Atodlen 2 i Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, fel y'u diwygiwyd
Atodiad 1. Safleoedd gwarchodedig lle nad yw'r drwydded hon yn berthnasol
Nid yw’r drwydded hon yn awdurdodi cymryd unrhyw gamau o fewn ffiniau, neu o fewn 300 metr i ffiniau, unrhyw un o’r safleoedd gwarchodedig a restrir isod (neu o fewn 500 metr yn achos SoDdGA/AGA Aber Dyfi).
Gellir gweld lleoliadau’r ardaloedd hyn ar Map Data Cymru
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Aberarth — Carreg Wylan
Aberdunant
Afon Cleddau Dwyreiniol
Afon Cleddau Gorllewinol
Afon Dyfrdwy
Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd
Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn
Afon Irfon
Afon Llynfi
Afon Teifi
Afon Tywi
Afon Wysg (Isafonydd)
Allt y Gaer
Cloddfa Allt y Main
Arfordir Abereiddi
Arfordir Gogleddol Penmon
Ceunant Bach Howey
Beech Cottage, Waterwynch
Coed Benarth
Berwyn
Borth — Clarach
Bryn y Gwin Isaf
Stablau a Choetsiws Neuadd Bryngwyn
Coetsiws a Thŷ Iâ Buckland
Cadair Idris
Caeau Coed Mawr
Castell Caeriw
Carreg y Llam
Castell y Waun a'i Barcdir
Maes Tanio Castellmartin
Bae Cemlyn
Ceunant a Thyrrau Trefgarn
Chwarel Cambrian, Gwernymynydd
Cilcenni Dingle
Ciliau
Coed Aberdulais
Coed Aberedw
Coed y Crychydd
Coed y Gopa
Coedydd a Cheunant Rheidol
Coedydd Beddgelert a Cheunant Aberglaslyn
Coedydd De Dyffryn Maentwrog
Coedydd Dyffryn Alwen
Coedydd Dyffryn Ffestiniog (Gogleddol)
Coedydd Nanmor
Corsydd Nant Colwyn (Gogledd a De)
Cors Caron
Corsydd Llangloffan
Craig yr Aderyn
Creigiau Pen y graig
Creigiau Rhiwledyn
Cwm Doethie – Mynydd Mallaen
Arfordir Dale a De Marloes
De Porth Sain Ffraid
Aber Afon Dyfrdwy
Ysgubor Dolorgan
Duhonw
Dyfi
Elenydd
Glyn Erwyd
Eryri
Felin Llwyngwair
Ffynnon Beuno ac Ogofâu Cae Gwyn
Ynys Echni
Foxwood
Ganllwyd
Garth-eryr
Glannau Aberdaron
Glannau Rhoscolyn
Glannau Ynys Gybi
Glascoed, Meifod
Glaslyn
Glyn Cywarch
Glynllifon
Penrhyn Gŵyr: Rhosili i Borth Einon
Graig Fawr
Ynys Gwales
Twyni Gronant a Drysfa Talacre
Gwernydd Pembre
Gweunydd Esgairdraenllwyn
Gweunydd Nant y Dernol
Gwlyptiroedd Casnewydd
Hendre, Llangedwyn
Clwydfannau Ystlumod Tre'r Llai
Calchfaen Llanddulas a Choed Castell Gwrych
Eglwys Llangofan
Migneint-Arenig-Dduallt
Dyfrffordd Aberdaugleddau
Morfa Harlech
Mwyngloddfa Mynydd-Bach
Mwyngloddiau a Chreigiau Gwydyr
Mwyngloddiau Llanfrothen
Mwyngloddiau Wnion ac Eglwys Sant Marc
Mynydd Llangatwg
Mynydd Penarfynydd
Tywyn Niwbwrch — Ynys Llanddwyn
Bloc Stablau Cwrt Newton
Bloc Stablau a Seleri Orielton
Adeiladau Allanol Park House, Ystangbwll
Pen y Gogarth
Coedwig Pengelli a Choedwig Pant-teg
Neuadd Penmaenuchaf
Stablau Pen-rhys a Bwthyn Underhill
Mwynglawdd Penygarnedd
Plas Maenan
Porth Ceiriad, Porth Neigwl ac Ynysoedd Sant Tudwal
Ynys Seiriol
Pwll-y-wrach
Ynys Dewi
Rhagnentydd Gwy Uchaf
Rhos Llawr Cwrt
Afon Ieithon
Afon Llugwy
Afon Tefeidiad
Afon Wysg (Wysg Isaf)
Afon Wysg (Wysg Uchaf)
Afon Gwy (Gwy Isaf)
Afon Gwy (Isafonydd)
Afon Gwy (Gwy Uchaf)
Rose Cottage, Llethrid
Castell a Choetiroedd Rhiwperra
Scoveston Fort
Morlynnoedd a Chorsleoedd Shotton
Siambr Ddu
Sgogwm
Ynys Sgomer a Middleholm
Llofft Iard, Seleri a Thwneli Stablau Slebets
Arfordir Penrhyn Tyddewi
Ynys Farged
Ystangbwll
Fflatiau Cwrt a Gardd Furiog Ystangbwll
Ynysoedd Glannau Penfro
Ynysoedd y Moelrhoniaid
Twyni Lacharn – Pentywyn
Ty Bach Ystlumod
Chwarel Gorllewin Llangynog
Dyffryn Gwy
Ynys Enlli
Ynys Feurig
Ynysoedd y Gwylanod
Ysbyty Bron y Garth
Yr Eifl
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
Morwenoliaid Ynys Môn
Berwyn
Cilfach Tywyn
Arfordir Castellmartin
Craig yr Aderyn
Aber Dyfi
Elenydd-Mallaen
Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli
Glannau Ynys Gybi
Gwales
Bae Lerpwl
Migneint-Arenig-Dduallt
Mynydd Cilan, Trwyn yr Wylfa ac Ynysoedd Sant Tudwal
Ynys Dewi ac Arfordir Penrhyn Tyddewi
Aber Hafren
Sgomer, Sgogwm a Moroedd Penfro
Aber Afon Dyfrdwy
Traeth Lafan
Ynys Seiriol
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd
Afon Gwyrfai a Llyn Gwellyn
Afon Teifi
Afon Tywi
Afonydd Cleddau
Bae Ceredigion
Bae Caerfyrddin ac Aberoedd
Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion
Cors Caron
Aber Dyfrdwy
Glynllifon
Arfordir Calchfaen De Orllewin Cymru
Mwyngloddiau Fforest Gwydir
Coedydd Gogledd Sir Benfro
Safleoedd Ystlumod Sir Benfro a Llynnoedd Bosherston
Sir Benfro Forol
Pen Llŷn a’r Sarnau
Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid
Afon Wysg
Afon Gwy
Safleoedd Ystlumod Tanat Ac Efyrnwy
Safleoedd Ystlumod Wysg
Safleoedd Ystlumod Dyffryn Gwy
Coetiroedd Dyffryn Gwy