Lefelau’r gwasanaeth trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru
Ers 1 Ebrill 2013 daeth yr holl ddyletswyddau trwyddedu (golyga hynny unrhyw gofrestriad, eithriad, cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, cydsyniad neu unrhyw awdurdodiad arall), a oedd yn gyfrifoldeb Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth Cymru i’w rheoleiddio ac, mewn rhai ardaloedd, Llywodraeth Cymru, o dan gylch gorchwyl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Golyga’r newid hwn y bydd cwsmeriaid yn cael un ymateb clir a sengl i geisiadau trwydded ac na fydd yn rhaid ymgeisio i nifer o sefydliadau gwahanol ynghylch rhai gweithgareddau.
Monitro perfformiad
Byddwn yn monitro perfformiad rheoleiddio’n glos iawn ac yn darparu gwasanaeth o ansawdd da as fydd yn cyfarfod â gofynion yr amgylchedd a busnesau yng Nghymru. Mae manylion yn Nhabl 1 o lawer o’r cyfundrefnau rheoleiddio rydym yn gyfrifol amdanynt ac o’r cyfnodau amser y byddwn yn cadw atynt.
Cyfnodau amser
Os byddwch angen penderfyniad ar gais mewn llai o amser na’r cyfnod yn Nhabl 1, trafodwch gyda ni wrth gyflwyno’r cais.
Rydym yn argymell eich bod yn ymgeisio am drwyddedau mewn da bryd (yn ddelfrydol ar ôl cael cyngor cyn ymgeisio gennym ni), gan gyflwyno’r holl wybodaeth angenrheidiol a chan gadw’r cyfnodau amser penderfynu mewn cof. Efallai bydd ceisiadau cymhleth, sydd o gryn ddiddordeb cyhoeddus neu a allai gael cryn effaith ar leoliad sensitif, yn gofyn am gyfnod hirach i’w penderfynu nag sydd yn Nabl 1.
Rheoli’ch cais
Pan fyddwch yn cyflwyno cais i ni am drwydded, bydd un o’n swyddogion a fydd yn gyfrifol am benderfynu'ch cais yn cysylltu â chi. Bydd y swyddog hwnnw’n egluro wrthych sut y bydd y cais yn cael ei brosesu, sut y gallwch chi gysylltu a beth yw’r terfynau amser ar gyfer penderfynu. Bydd y swyddog hefyd yn trafod eich disgwyliadau gyda chi.
Byddwch yn cael gwybod hynt eich cais gydol y broses benderfynu fel eich bod yn ymwybodol o sut y mae’ch cais yn symud yn ei flaen.
Tabl 1. Cyfnodau amser statudol ar gyfer penderfynu
Trwydded/Cydsyniad/Awdurdodiad | Cyfnod Penderfynu Statudol neu Lefel Gwasanaeth | Math o drwydded |
---|---|---|
Trwydded Gwastraff – Amrywiad CNC |
Dim amserlen |
Gwastraff |
Cynlluniau Adfer Gwastraff |
Dim amserlen |
Gwastraff |
Trwydded Bwrpasol Gwastraff |
4 mis |
Gwastraff |
Trwydded Rheol Safonol Gwastraff |
3 mis |
Gwastraff |
Amrywiad Trwydded Gwastraff |
3 mis neu 4 mis gydag ymgynghoriad |
Gwastraff |
Trosglwyddo Trwydded Gwastraff |
2 mis |
Gwastraff |
Ildio Trwydded Gwastraff |
3 mis |
Gwastraff |
Esemptiad Gwastraff T11 |
25 diwrnod gwaith |
Gwastraff |
Cyfleusterau Gwastraff Mwyngloddio – Categori A |
9 mis |
Gwastraff |
Defnyddio Offer Symudol |
25 diwrnod gwaith |
Gwastraff |
Defnyddio Offer Symudol |
25 diwrnod gwaith |
Gwastraff |
Asesiad cynllun adfer gwastraff |
25 diwrnod gwaith |
Gwastraff |
Trwydded Bwrpasol Newydd o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
4 mis |
Gosodiadau |
Trwydded Rheolau Safonol o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
3 mis |
Gosodiadau |
Amrywio trwydded o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
3 mis |
Gosodiadau |
Ildio trwydded o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
3 mis |
Gosodiadau |
Trosglwyddo trwydded o dan y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol |
2 mis |
Gosodiadau |
Trwydded Bwrpasol Gosodiad |
4 mis |
Gosodiadau |
Amrywiad sylweddol – gosodiad |
4 mis |
Gosodiadau |
Trwydded Rheolau Safonol Gosodiad |
3 mis |
Gosodiadau |
Amrywiad Trwydded – Gosodiad |
3 mis |
Gosodiadau |
Ildio Trwydded Gosodiad |
3 mis |
Gosodiadau |
Trosglwyddo Trwydded Gosodiad |
2 mis |
Gosodiadau |
Trwydded bwrpasol ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
4 mis |
Gosodiadau |
Trwydded rheolau safonol ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
3 mis |
Gosodiadau |
Amrywio trwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
3 mis |
Gosodiadau |
Amrywiad sylweddol ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
4 mis |
Gosodiadau |
Trosglwyddo trwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
2 mis |
Gosodiadau |
Ildio trwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig |
3 mis |
Gosodiadau |
Trwyddedau Cwympo Coed |
91 diwrnod (13 wythnosau) |
Cwympo coed |
Penderfyniadau o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) |
28 diwrnod gwaith |
Cwympo coed |
Cynllun Rheoli Coedwig |
16 o wythnosau |
Cwympo coed |
Trwydded Rhywogaethau a Warchodir |
30 diwrnod gwaith |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop – datblygiad, prosiectau cadwraeth a choedwigaeth |
40 diwrnod gwaith |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop – diogelu iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd |
30 diwrnod gwaith |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (Morol) |
40 diwrnod gwaith |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Trwydded rheoli adar – diogelu iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, diogelu pysgodfeydd, gwarchod adar gwyllt, diogelu cnydau, stoc, bwydydd ar gyfer stoc, neu atal clefyd rhag lledaenu |
40 diwrnod gwaith |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Trwydded moch daear at ddiben datblygiad |
40 diwrnod gwaith |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Trwydded Rhywogaethau a Warchodir – diwygiad (syml) |
15 diwrnod gwaith |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Trwydded Rhywogaethau a Warchodir – diwygiad (cymhleth) |
30 diwrnod gwaith |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Cronfa Newydd-ddyfodiaid (Ehangu Capasiti’n Sylweddol) |
2 mis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Adolygiad o Newidiadau Lefel Gweithgaredd System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd |
4 mis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Adolygiad o Fonitro Allyriadau Blynyddol System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd |
4 mis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Mân Amrywiad |
2 mis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Amrywiad Sylweddol |
2 mis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Trosglwyddiad |
2 mis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Trosglwyddo Cyfuniad |
2 mis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Ildiad |
2 mis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Dirymiad |
2 mis |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd – Hysbysiad |
6 wythnosau |
Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir |
Adnoddau Dŵr – Ynni Trydan Dŵr |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Tynnu Dŵr |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Cronni Dŵr |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Trwydded Dros Dro |
20 diwrnod gwaith |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Trwydded Drosiannol (awdurdodiadau newydd) |
Yn ystod y cyfnod 01 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2022 |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Dirymu Trwydded Tynnu Dŵr |
20 diwrnod gwaith |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Dirymu Trwydded Cronni Dŵr |
4 mis |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Gweinyddu Amrywiad, gan gynnwys rhaniadau |
20 diwrnod gwaith |
Adnoddau Dŵr |
Trosglwyddo Deiliad Trwydded a breinio trwydded |
10 diwrnod gwaith |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Tariff Dwy Ran |
20 diwrnod gwaith |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Cyn Ymgeisio (ynni dŵr) |
45 diwrnod gwaith |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Cyn Ymgeisio (nad yw'n ynni dŵr) |
45 diwrnod gwaith |
Adnoddau Dŵr |
Adnoddau Dŵr – Cydsyniad Ymchwilio Dŵr Daear |
45 diwrnod gwaith |
Adnoddau Dŵr |
Dip Defaid Pwrpasol |
4 mis |
Ansawdd Dŵr |
Dip Defaid – Amrywiad |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu |
Ansawdd Dŵr |
Ildio Trwydded |
20 diwrnod gwaith |
Ansawdd Dŵr |
Trosglwyddo Trwydded |
20 diwrnod gwaith |
Ansawdd Dŵr |
Amrywio Trwydded |
4 mis os caiff ei hysbysebu, 3 mis os na chaiff ei hysbysebu |
Ansawdd Dŵr |
Amrywiad Trwydded – Gweinyddol |
3 mis |
Ansawdd Dŵr |
Trwydded Bwrpasol |
4 mis |
Ansawdd Dŵr |
Amrywio Trwydded CNC |
3 mis |
Ansawdd Dŵr |
Deddf y Diwydiant Dŵr 166a |
7 a 14 o ddiwrnodau |
Ansawdd Dŵr |
Deddf y Diwydiant Dŵr 166b |
3 mis |
Ansawdd Dŵr |
Trwydded Rheolau Safonol |
3 mis |
Ansawdd Dŵr |
Trwyddedau Morol – Band 2 |
4 mis |
Trwyddedu Morol |
Trwyddedau Morol – Band 1 |
6 wythnos |
Trwyddedu Morol |
Trwyddedau Morol – Band 3 |
Dim amserlen |
Trwyddedu Morol |
Amrywiad 0 (a arweinir gan CNC) |
Dim amserlen |
Trwyddedu Morol |
Amrywiad 1 (gweinyddol) |
21 dyddiau |
Trwyddedu Morol |
Amrywiad 2 (cymhleth) (B2/B3) |
4 mis / Dim amserlen |
Trwyddedu Morol |
Amrywiad 3 (arferol) |
8 wythnosau |
Trwyddedu Morol |
Trosglwyddo – Amrywiad |
21 dyddiau |
Trwyddedu Morol |
Cais am Gynllun Samplau |
4 wythnosau |
Trwyddedu Morol |
Rhyddhau amodau – Band 2 |
6 wythnosau |
Trwyddedu Morol |
Rhyddhau amodau – Band 3 |
Dim amserlen |
Trwyddedu Morol |
Cymeradwyaeth monitro |
8 wythnosau |
Trwyddedu Morol |
Trwyddedau Morol – Band 2 |
4 mis; 6 mis os ceisir rhanddirymiad |
Trwyddedu Morol |
Trwyddedau Morol – Band 1 |
6 wythnosau |
Trwyddedu Morol |
Trwyddedau Morol – Band 3 |
Dim amserlen |
Trwyddedu Morol |
Cymeradwyaeth monitro |
8 wythnosau |
Trwyddedu Morol |
Barn Sgrinio |
90 dyddiau |
Trwyddedu Morol |
Barn Gwmpasu |
90 dyddiau |
Trwyddedu Morol |