Maelor Foods Limited - Gwaith Prosesu Dofednod Maelor, Pickhill Lane, Cross Lanes, Wrecsam, LL13 0UE

Rydym wedi derbyn ac wedi llunio penderfyniad drafft ar gyfer cais am amrywiad sylweddol gan y gweithredwr uchod yn y lleoliad uchod.

Hysbysiad o benderfyniad drafft ar gyfer amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol gyfredol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-020892 / EPR/AB3591ZQ/V004
Math o gyfleuster rheoledig: A6.8 A1 (b) Lladd anifeiliaid mewn ffatri sydd â gallu i gynhyrchu mwy na 50 tunnell o garcasau y dydd.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Gwaith Prosesu Dofednod Maelor, Pickhill Lane, Cross Lanes, Wrecsam, LL13 0UE.

Rydym yn bwriadu caniatáu’r amrywiad ar gyfer Gwaith Prosesu Dofednod Maelor sy’n cael ei weithredu gan Maelor Foods Limited. Byddwn yn cyhoeddi’r amrywiad yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac y bydd gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw amrywiad i drwydded y byddwn yn ei gyhoeddi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.

Gallwch weld dogfennau’r cais drwy ffonio ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid 0300 065 3000 neu drwy e-bostio permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk i drefnu fod copi yn cael ei anfon i chi. Efallai y byddwn yn codi ffi i dalu am y costau copïo.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 04/07/2024.

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Diweddarwyd ddiwethaf