Gerlan Hydro Limited, Sir Richard Arkwright’s Masson Mills, 41 Derby Road, Matlock Bath, Swydd Derby, Lloegr, DE4 3PY
Awdur: Alex Cowell, Swyddog Trwyddedu (Adnoddau Dŵr)
Rhifau’r ceisiadau: PAN-021620 a PAN-021621
Rhifau’r trwyddedau: Dd/G
Rhanbarth CNC: y Gogledd
Dyddiad y Cais: 31/03/2023
Manylion yr ymgeisydd: Gerlan Hydro Limited, Sir Richard Arkwright’s Masson Mills, 41 Derby Road, Matlock Bath, Swydd Derby, Lloegr, DE4 3PY
Crynodeb o’r cynnig: Mae’r Asiant, Derwent Hydroelectric Power Limited, wedi gwneud cais ar ran Gerlan Hydro Limited, am drwydded tynnu dŵr drosglwyddo newydd a thrwydded cronni dŵr newydd ar gyfer Cynllun Ynni Dŵr ar Afon Cenllusg.
Byddai’r cynllun yn cael ei ddefnyddio i ategu cynllun ynni dŵr sy’n bodoli eisoes, sydd â dau fewnlif ar wahân (mewnlif dwbl) ar Afon Llafar ac Afon Caseg, a reoleiddir o dan drwyddedau 23/65/18/0029 (trwydded tynnu dŵr ar y cyd ar gyfer mewnlifau ar Afon Caseg ac Afon Llafar), WA/065/0018/001 (trwydded cronni dŵr Caseg) a WA/065/0018/005 (trwydded cronni dŵr Llafar).
Byddai dŵr yn cael ei drosglwyddo o’r strwythur mewnlif newydd yn SH 64634 64994 ar Afon Cenllusg a’i ollwng i fyny’r afon o fan mewnlif presennol Afon Llafur yn SH 64815 65400 i mewn i sianel newydd, a fyddai’n ymestyn dros 30 metr cyn ymuno ag Afon Llafar. Diben trosglwyddo’r dŵr fyddai ehangu’r cynllun ynni dŵr presennol drwy ychwanegu at y dŵr sydd yn Afon Llafar yn ystod cyfnodau pan na fo’r tyrbin yn cynhyrchu’n llawn, neu pan na fo’n cynhyrchu o gwbl ond y gallai gynhyrchu â’r dŵr ychwanegol. Byddai’r tyniad dŵr arfaethedig yn creu hyd â llif is o 1,150m.
Cynigir yr uchafswm cyfraddau tynnu dŵr canlynol: 74 litr yr eiliad (l/e), 266.4 metr ciwbig yr awr (m3 yr awr), 6,393.6 metr ciwbig y dydd (m3 y dydd) a 2,333,664 metr ciwbig y flwyddyn (m3 y flwyddyn).
Gwnaeth yr ymgeisydd gais am gyfundrefn tynnu dŵr Parth 3 sy’n cymryd 70% o’r llif sydd ar gael uwchlaw isafswm Llif Annibynnol o Q95 (diogelu llif isel) ac uchafswm cyfradd tynnu dŵr o 0.85 x Qmean, a fyddai’n cael ei reoli gan strwythur cored a phlât â thwll a fydd wedi’u lleoli yn yr ollyngfa.
Byddai’r tyniad dŵr yn cael ei sicrhau gan strwythur cronni dŵr, gan gynnwys y canlynol:
- sgrin ‘goferu’ mewnlif 10 milimedr (mm)
- Hollt llif sy’n cymryd 70% o’r llifau sydd ar gael a 30% o’r llif gweddilliol.
- Hollt Llif Annibynnol
- Rampiau osgoi a phlymbwll (â dyfnder cyffredinol o 382mm)
- Teils llyswennod
Byddai’r tyniad dŵr yn cael ei reoli drwy strwythur mewnlif yn ogystal â falf awtomataidd, dyfais monitro llif a phlât agen yn y ollyngfa. Byddai’r falf yn cael ei gosod i fod ar gau bob amser heblaw o fewn amrediad penodedig o lefelau afon Afon Llafar, er mwyn sicrhau mai dim ond pryd y gallai dŵr Afon Cenllusg gael ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni y byddai dŵr yn cael ei dynnu o Afon Cenllusg.
Hanes yr achos:
Dyddiad |
Digwyddiad |
---|---|
31/03/2023 |
Cyflwynodd yr asiant ddau gais ffurfiol am drwyddedau newydd i hwyluso cynllun ynni dŵr Cenllusg. Y cynnig cychwynnol oedd cyfundrefn tynnu dŵr bwrpasol, cymeriant o 88% uwchlaw isafswm Llif Annibynnol o Q95 (diogelu llif isel), ac uchafswm cyfradd tynnu dŵr o 0.85 x Qmean. |
20/04/2023 |
Cafodd y ceisiadau eu pennu’n annilys i ddechrau am fod angen eglurder a rhagor o wybodaeth. |
24/05/2023 |
Rhoddodd yr asiant yr holl wybodaeth a geisiwyd er mwyn gwneud y ceisiadau’n rhai dilys a’i gwneud yn bosibl i’r broses benderfynu gychwyn. Anfonwyd llythyr dilys 25/05/2023. |
17/07/2023 |
Hysbysebwyd y ceisiadau. |
22/08/2023 |
Rhoddwyd diweddariad i’r asiant yn amlinellu pryderon ynglŷn â’r cynigion fel yr oeddent yn y cais a gofynnwyd am newidiadau. |
02/10/2023 |
Rhoddwyd ymateb gan yr asiant i bryderon CNC, ynghyd â lluniadau diwygiedig a diwygiad i safon cynllun ynni dŵr Parth 3. |
16/05/2024 |
Anfonwyd diweddariad at yr asiant yn amlinellu pryderon ynglŷn â’r cynigion diwygiedig a oedd yn weddill. |
02/07/2024 |
Hysbyswyd yr asiant bod pryderon o hyd ynglŷn â’r cynnig a bod CNC yn ystyried cwblhau’r broses benderfynu yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd. |
24/07/2024 |
Cwblhawyd asesiad manwl o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, Asesiad Priodol a dogfennau penderfyniad perthnasol. |
Cyfiawnhad dros y gofynion ac effeithlonrwydd dŵr: Mae Canllawiau Ynni Dŵr CNC ar gyfer cynlluniau ynni dŵr Parth 1 yn pennu uchafswm cyfradd tynnu dŵr sy’n 1.3 gwaith yn fwy na llifau Qmean er mwyn diogelu llif uchel. Byddai’r cynnig ar gyfer cyfundrefn tynnu dŵr Parth 3 yn lleihau llifau o fewn yr hyd â llif is y tu hwnt i’r rhai a ystyrir yn dderbyniol o dan Ganllawiau ynni dŵr CNC. Mae CNC o’r farn ei bod yn debygol y byddai dŵr yn cael ei dynnu o Afon Cenllusg ar adegau pan na fyddai llif digonol i gynhyrchu ynni dŵr. Felly, ym marn CNC, nid oes cyfiawnhad llawn dros y meintiau o ddŵr y gwnaed cais amdanynt na’r effeithlonrwydd dŵr ac nid ydynt yn rhesymol.
Statws o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a’r dŵr sydd ar gael: Daeth yr asesiad manwl o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr i’r casgliad bod risg y bydd statws corff dŵr nifer o gyrff dŵr yn dirywio ac y gallai’r prosiect wrthdaro â nifer o fesurau lliniaru cyrff dŵr yn awr neu yn y dyfodol.
Asesiad o effaith y cynnig: Ym marn CNC, ni fydd yr uchafswm cyfraddau tynnu dŵr y gwnaed cais amdanynt yn diogelu llifau uchel, ac ni fydd yr hollt llif yn diogelu llifau isel. Felly, byddai’r cynnig presennol yn lleihau llifau yn yr hyd â llif isel a gâi ei greu i lawr yr afon y tu hwnt i’r rhai a ystyrir yn dderbyniol o dan Ganllawiau Ynni Dŵr CNC. Ceir pryderon y byddai cyfanswm hyd yr afon yr effeithid arno gan lifau is yn fwy na 50% o’r cwrs dŵr, ynghyd ag effeithiau cyfunol / cronnol o’r cynllun ei hun. Gallai’r llifau is effeithio ar hydromorffoleg, ansawdd dŵr, bioleg ac elfennau sy’n ymwneud â physgod.
Gallai’r pryderon uchod ynglŷn ag effeithiau ar lif effeithio ar y nodweddion canlynol sy’n bresennol yng nghyffiniau’r cynnig:
- Ecoleg: gweundir gwlyb, gorgors a mawndir dwfn.
- Pysgodfeydd: brithyllod, llyswennod a brithyllod môr
Gallai’r cynnig arwain at effeithiau ar elfennau sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr fel a ganlyn: Rhagwelir y bydd unrhyw effeithiau ar dymheredd yn ardal leol y cynnig, o fewn yr hyd â llif is; er y gallai unrhyw effeithiau ar loywder dŵr o ganlyniad i gludo llai o waddodion effeithio ar yr hyd â llif is ac i lawr yr afon i’r ollyngfa arfaethedig. Gallai’r pryderon o hyd ynglŷn â risg trosglwyddo ar draws dalgylchoedd effeithio ar ansawdd dŵr ymhellach.
Mae gan CNC nifer o bryderon o hyd ynglŷn â’r ffordd y byddai’r llwybr pysgod a’r llwybr llyswennod arfaethedig yn gweithredu.
Ni fu modd i CNC ddiystyru’r posibilrwydd o effaith niweidiol ar gyfanrwydd safle ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Eryri.
Mae CNC o’r farn y bydd y cynnig yn debygol o fod yn niweidiol i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Eryri.
Ymgynghoriad Statudol: Anfonwyd ymgynghoriad allanol statudol a hysbysiad at Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 07/07/2023 ac at Dŵr Cymru ar 14/07/2023.
Sylwadau Allanol: Yn unol â Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003), hysbysebwyd y cais yn The Cambrian News ar 17/07/2023 ac ar wefan CNC. Ni chafwyd unrhyw sylwadau ynglŷn â’r ceisiadau.
Hawliau Gwarchodedig: Ni nodwyd unrhyw risg y byddai unrhyw hawliau gwarchodedig yn cael eu rhanddirymu o ganlyniad i’r amrywiad. Ni nodwyd bod unrhyw risg o effaith ar ddefnyddwyr cyfreithlon o ganlyniad i’r ceisiadau.
Costau / Manteision:
Opsiynau a ystyriwyd |
Opsiwn 1: rhoi’r trwyddedau yn unol â’r ceisiadau. Opsiwn 2: rhoi’r drwydded gydag amodau. Opsiwn 3: gwrthod y cais. |
Opsiwn a ffefrir |
Opsiwn 3 |
Rheswm dros ddewis yr opsiwn a ffefrir |
Mae CNC wedi dewis gwrthod y ceisiadau sy’n gysylltiedig â’r cynnig hwn ar gyfer cynllun ynni dŵr. Yn ein barn ni, nid yw’r cynnig yn gyson â safonau llif Canllawiau Ynni Dŵr CNC sydd â’r nod o ddiogelu’r amgylchedd ar lifau isel ac uchel. Ni allwn ddiystyru’r posibilrwydd o effeithiau niweidiol ar nodweddion ACA/SoDdGA a dirywio statws o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr/atal amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr rhag cael eu cyflawni. Felly, mae CNC wedi’i fodloni bod yn rhaid i’r ceisiadau gael eu gwrthod. |
Bioamrywiaeth a datblygu cynaliadwy: Mae pryderon mawr wedi cael eu codi ynglŷn ag effeithiau ar fioamrywiaeth nad yw CNC wedi llwyddo i ymdrin â nhw felly nid ystyrir bod y cynnig yn gynaliadwy.
Lles cymdeithasol ac economaidd cymunedau gwledig: Ni chanfyddir y bydd unrhyw effeithiau niweidiol ar lesiant cymdeithasol nac economaidd cymunedau gwledig yn yr ardal wledig o ganlyniad i’r cynnig hwn.
Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy: Rydym wedi ein bodloni bod y penderfyniad hwn yn cyd-fynd â’n diben cyffredinol, sef hyrwyddo rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn perthynas â Chymru a chymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Casgliad ac argymhellion: Argymhelliad CNC argymell gwrthod y ceisiadau am y rhesymau canlynol:
- Ym marn CNC, nid yw’r cynnig yn unol â safonau llif Canllawiau CNC ar gynlluniau ynni dŵr sydd â’r nod o ddiogelu’r amgylchedd ar lifau isel ac uchel, sy’n golygu y byddai’r cynnig yn effeithio ar ecoleg, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr.
- Ym marn CNC, nid yw’r cynnig yn cynnwys cyfiawnhad digonol dros y gofynion ac effeithlonrwydd dŵr.
- Ni fu modd i CNC ddiystyru’r posibilrwydd o effaith niweidiol ar gyfanrwydd safle ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Eryri.
- Mae CNC o’r farn y bydd y cynnig yn debygol o fod yn niweidiol i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Eryri.
- Ni fu modd i CNC ddiystyru’r risgiau sy’n gysylltiedig â Throsglwyddo Dŵr ar draws Dalgylch.
- Ni fu modd i CNC ddiystyru’r risg y bydd statws corff dŵr o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn dirywio / na fydd modd cyflawni amcanion nifer o gyrff dŵr o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Cysylltu â’r tîm trwyddedu sy’n gyfrifol am y penderfyniad hwn:
Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Arweinydd y Tîm Adnoddau Dŵr
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ