Cais i amrywio (newid) trwydded ar gyfer safle sylweddau ymbelydrol
Diweddariad: 31/03/2023
Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022-2023 hyd nes y bydd cynlluniau codi tâl newydd yn cael eu cytuno.
Cyn i chi wneud cais
Os hoffech newid dim ar eich trwydded, rhaid i chi wneud cais am amrywiad. Am ragor o gyngor ynglŷn â sut y gallwch newid trwydded, gweler ein ffurflenni cais a’n nodiadau cyfarwyddyd.
Sut i wneud cais
Ar y dudalen hon cewch ffurflenni cais ar gyfer trosglwyddo eich trwydded gyfan, neu ran ohoni, i rywun arall. Gellir llenwi’r ffurflenni cais yn electronig. Rhaid i chi lenwi rhannau A ac F, a llenwi’r adrannau rhan C addas.
Sylwch
Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.
Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r blychau priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.
Help gyda'ch cais
Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, cysylltwch â ni trwy:
e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.