Gwneud cais i ildio (canslo) y cyfan neu ran o'ch trwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ildio (canslo) y cyfan neu ran o'ch trwydded.

Bydd wedi’i nodi ar eich trwydded a allwch idlio’ch trwydded drwy hysbysiad neu drwy gais.

Cyn i chi ddechrau

Mae angen i chi wybod:

  • rhif y drwydded
  • y dyddiad y cafodd y drwydded ei chyhoeddi
  • ble y digwyddodd y gwaith
  • p’un a ydych yn ildio'r cyfan neu ran o'ch trwydded
  • p’un a ydych yn hysbysu neu'n gwneud cais i ildio'ch trwydded

Os ydych yn gwneud cais i ildio, bydd hefyd angen i chi wybod:

  • unrhyw fesurau a gymerwyd i liniaru risgiau fel llifogydd, difrod i'r amgylchedd ac effaith ar ddraenio
  • unrhyw fesurau yr ydych wedi'u cymryd i adfer y safle

 

Diweddarwyd ddiwethaf