Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Rydym yn ceisio eich barn ar gynlluniau i ddiweddaru ein ffioedd ar gyfer rhai o'n trwyddedau a’n gweithgareddau cydymffurfio ar gyfer 2024 - 2025.

 

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar-lein a bydd yn cau ddydd Llun 8 Ionawr 2024.

Masnachu allyriadau yn y DU

Ers 1 Ionawr 2021, mae Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU wedi disodli cyfranogiad y DU yn System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r llywodraeth wedi sefydlu'r cynllun er mwyn cynyddu uchelgais hinsawdd polisi prisio carbon y DU a darparu parhad masnachu allyriadau i fusnesau’r DU. Bydd llawer o nodweddion a phrosesau cynllun newydd y DU yn gyfarwydd i weithredwyr. Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU drwy Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020.

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon yn gweithredu ar y cyd fel Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU i oruchwylio’r cynllun. 

Sut mae Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn gweithio

Mae cynlluniau masnachu allyriadau yn gweithio ar yr egwyddor o 'gapio a masnachu', lle gosodir cap ar gyfanswm rhai nwyon tŷ gwydr penodol y gellir eu hallyrru gan sectorau a gwmpesir o fewn y cynllun. Mae hyn yn cyfyngu ar gyfanswm y carbon y gellir ei allyrru, ac wrth i'r cyfanswm leihau dros amser, bydd yn cyfrannu'n sylweddol at y modd yr ydym yn cyrraedd ein targed Sero Net 2050 a'n hymrwymiadau lleihau carbon cyfreithiol eraill. 

Am ragor o wybodaeth am Gynllun Masnachu Allyriadau'r DU, ewch i Gov.uk.

Ceir rhagor o wybodaeth am newid hinsawdd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Prynu a gwerthu lwfansau allyriadau

O fewn y cap hwn, mae cyfranogwyr yn cael lwfansau am ddim a/neu yn prynu lwfansau allyriadau mewn arwerthiant neu ar y farchnad eilaidd, a gallant eu masnachu â chyfranogwyr eraill yn ôl yr angen.

Bob blwyddyn, rhaid i osodiadau a gweithredwyr awyrennau sy'n dod o dan y cynllun ildio lwfansau i dalu am eu hallyriadau adroddadwy.

Caiff y cap ei leihau dros amser, felly rhaid i gyfanswm yr allyriadau ostwng.

Am ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn arwerthiannau a masnachu ar y farchnad eilaidd, ewch i Gov.uk.

I bwy mae Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn berthnasol

Mae Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn berthnasol i ddiwydiannau ynni-ddwys, y sector cynhyrchu pŵer a'r diwydiant hedfan. 

Mae'n ymdrin â gweithgareddau a reoleiddir sy'n achosi allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gynnwys hylosgi tanwydd mewn gosodiadau ag unedau hylosgi sydd â chyfanswm mewnbwn thermol ar gyfradd o fwy na 20MW (ac eithrio gosodiadau sy'n llosgi gwastraff peryglus neu ddinesig).

Os ydych yn cyflawni gweithgaredd rheoledig mewn gosodiad mewn blwyddyn gynllun, mae'n ofynnol i chi feddu ar drwydded allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y gosodiad sy'n awdurdodi'r gweithgaredd rheoledig i'w gyflawni.

Os nad oes gennych drwydded ar gyfer gosodiad neu os nad yw rhannau penodol o'r gosodiad yn dod o dan y drwydded, yna rydych yn agored i gosb sifil fel y cyfarwyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer erthygl 50.

Mae’r llwybrau hedfan a gwmpesir o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn cynnwys hediadau domestig y DU, hediadau rhwng y DU a Gibraltar, y DU a'r Swistir a hediadau sy’n gadael y DU i fynd i wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a gynhelir gan bob gweithredwr awyrennau cynwysedig, waeth beth fo’u cenedligrwydd. 

Rhestrir y gweithgareddau a gwmpesir o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU yn Atodlen 1 (hedfan) ac Atodlen 2 (gosodiadau) Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020.

Ceir manylion am y gweithgareddau hedfan sydd o fewn y cwmpas ar legislation.gov.uk

Ceir manylion am weithgareddau gosodiadau sydd o fewn y cwmpas ar legislation.gov.uk

Am wybodaeth am sut i gydymffurfio â’r cynllun, defnyddiwch y canllawiau canlynol:

Ceir manylion am sut i gydymffurfio â'r cynllun masnachu ar gyfer hedfan ar Gov.uk

Gallwch lawrlwytho manylion am sut i gydymffurfio â'r cynllun masnachu ar gyfer gosodiadau o wefan Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban

Ysbytai ac allyrwyr bach 

Yng Nghynllun Masnachu Allyriadau'r DU mae darpariaethau symlach ar gyfer ysbytai ac allyrwyr bach sydd ag allyriadau o lai na 25,000t CO2e y flwyddyn a chapasiti thermol cyfradd net o dan 35MW. Mae'r gosodiadau hyn yn destun targedau allyriadau yn hytrach na lwfansau masnachu.  

Os ydych chi’n cael eich ystyried yn allyrrwr bach neu'n ysbyty, yna bydd angen i chi gael trwydded ysbyty neu drwydded allyrrwr bach ar wahân.

Gallwch lawrlwytho arweiniad ar gydymffurfio â'r cynllun masnachu ar gyfer ysbytai ac allyrwyr bach o wefan Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban.

Er mwyn darganfod sut i optio allan o Gynllun Masnachu Allyriadau'r DU os ydych yn ysbyty neu'n allyrrwr bach, ewch i Gov.uk

Allyrwyr bach iawn

Mae darpariaethau symlach ar wahân ar gael i osodiadau sydd ag allyriadau o lai na 2,500t CO2e y flwyddyn ac a gaiff eu dosbarthu fel allyrwyr bach iawn.

Os ydych yn cael eich ystyried yn allyrwr bach iawn, nid oes angen i chi feddu ar drwydded, ond mae'n ofynnol eich bod yn monitro eich allyriadau o hyd, a rhaid i chi ein hysbysu os byddwch yn mynd dros y trothwy y cytunwyd arno.

Os ydych, mewn blwyddyn gynllun fel allyrrydd ultra-fach, yn mynd y tu hwnt i'ch trothwy y cytunwyd arno ac yn methu â rhoi gwybod i ni erbyn 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol, rydych yn atebol am gosb sifil fel y cyfarwyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer erthygl 60.

Er mwyn darganfod sut i optio allan o Gynllun Masnachu Allyriadau'r DU os yw eich gosodiad yn allyrrwr bach iawn, ewch i Gov.uk

Taliadau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Mae taliadau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU wedi’u diweddaru ar gyfer 2022/2023 ac maent yn berthnasol o 1 Ionawr 2022 ymlaen.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y taliadau yng Nghynllun Masnachu Allyriadau'r DU, yna cysylltwch â ni: ghghelp@cyfoethnaturiolcymru.gov.ukghghelp@naturalresourceswales.gov.uk 

Talu am eich trwydded drwy drosglwyddiad electronig

Os ydych am dalu am eich trwydded neu am eich cais am drwydded trwy drosglwyddiad electronig, defnyddiwch yr wybodaeth isod i wneud eich taliad.  

Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Llundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif y cyfrif: 10014438

Rhaid i chi gynnwys enw'ch cwmni. 

Dylech gynnwys y cyfeirnod taliad BACS ar y ffurflen gais ei hun. Os na fyddwch yn nodi cyfeirnod y taliad, efallai y bydd oedi wrth brosesu’ch taliad a’ch cais. 

Talu am eich trwydded dros y ffôn 

Rhif Ffôn: 0300 065 3000 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am–5pm)

Os ydych yn talu dros y ffôn, dewiswch opsiwn 5 i siarad â gweithredwr yn hytrach nag opsiwn 3 a rhowch enw'ch cwmni a rhif ID trwydded ETS y DU.

 E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Diweddarwyd ddiwethaf