Ardaloedd gwarchodedig morol
Mae ein moroedd yn gartref i enghreifftiau o'r bywyd gwyllt morol gorau yn Ewrop, gydag ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau tanddwr.
Beth yw ardaloedd gwarchodedig morol?
Mae ardaloedd gwarchodedig morol yn ardaloedd o'r môr sydd wedi'u nodi i warchod cynefinoedd a rhywogaethau morol. Maent yn cwmpasu ystod eang o fywyd gwyllt morol, gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau prin a sensitif.
Mae ein moroedd hefyd yn cefnogi ystod eang o weithgarwch dynol. Mae ein hardaloedd gwarchodedig morol yn ein helpu i nodi lle gallai fod angen i bwysau yn sgil y fath weithgarwch gael eu rheoli'n fwy gofalus.
Drwy ddiogelu ein hamgylchedd morol nawr, gallwn sicrhau y bydd ein moroedd yn parhau i gyfrannu at ein cymdeithas am genedlaethau i ddod.
Ymhlith yr ardaloedd gwarchodedig morol yng Nghymru mae:
- Safleoedd o bwys Ewropeaidd a rhyngwladol fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchod Arbennig a safleoedd Ramsar
- Parthau Cadwraeth Morol Sgomer
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy'n cwmpasu glan y môr neu'r môr
Sut y caiff yr ardaloedd morol eu gwarchod?
Er mwyn sicrhau bod ein safleoedd morol yn cael eu gwarchod, gall cyfyngiadau, amodau neu ganllawiau fod yn gymwys i rai gweithgareddau mewn ardaloedd gwarchodedig morol.
- Gweler manylion trwyddedau morol
- Gweler manylion trwyddedau pysgota
- Cyngor i ddatblygwyr a chynllunwyr morol (rheoliad 37)
Pa ardaloedd morol yng Nghymru a warchodir?
Mae dyfroedd Cymru wedi eu rhannu’n 139 safle, sef:
- 13 Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
- 15 Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)
- 1 Parth Cadwraeth Morol (PCMF)
- 107 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- 3 Safle Ramsar
Rhwydwaith ardaloedd gwarchodedig morol
Mae ardaloedd gwarchodedig morol Cymru yn rhan o rwydwaith o safleoedd ledled dyfroedd y DU. Yng Nghymru, rydym hefyd yn ceisio rheoli ein holl safleoedd gyda'i gilydd fel rhwydwaith. Gweithiwn gyda phartneriaid ledled Cymru a'r DU i gynllunio sut y rheolwn y rhwydwaith er mwyn helpu i gyflawni statws amgylcheddol da o dan Gyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol yr UE.
Cynlluniau pellach ar gyfer ardaloedd gwarchodedig yng Nghymru
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur er mwyn asesu'r rhwydwaith presennol o 139 o ardaloedd gwarchodedig morol yn nyfroedd Cymru.
Os caiff unrhyw fylchau yn y rhwydwaith eu nodi, byddwn yn ymgynghori â stocddalwyr er mwyn canfod y ffordd fwyaf priodol o warchod unrhyw gynefinoedd a rhywogaethau morol pellach yng Nghymru.