Peirianwyr sifil arbenigol yw’r rhain a chanddynt wybodaeth fanwl am weithio ar argaeau a chronfeydd dŵr. Gelwir y rhain hefyd yn beirianwyr panel oherwydd bod rhaid iddynt gael eu penodi i un o bedwar panel ar gyfer gwahanol fathau o gronfeydd dŵr a gweithgareddau. Mae’r rhestri o beirianwyr panel ar gael oddi wrthym ni pan ofynnwch amdanynt.

Adeiladu, newid ac ail-ddefnyddio cronfeydd dŵrundefined / undefined

Cyn i chi adeiladu cronfa uwch fawr, neu ei altro er mwyn newid y capasiti, rhaid i chi benodi peiriannydd sifil cymwysedig sy’n cael ei adnabod fel Peiriannydd Adeiladu. Rhaid i’r person hwn fod yn aelod o un o’r paneli cymeradwy, yn unol â’r math o gronfa ddŵr sydd i’w hadeiladu neu ei newid. Dylech benodi Peiriannydd Adeiladu yn fuan ar ddechrau’r gwaith cynllunio er mwyn iddo/iddi roi cyngor priodol i chi.

Rhaid penodi Peiriannydd Adeiladu hefyd cyn i chi ddechrau ailddefnyddio cronfa ddŵr sydd wedi ei gadael yn segur, er mwyn iddo/iddi allu adrodd am unrhyw fesurau diogelwch y dylid eu cymeryd cyn i’r gronfa gael ei hail-lenwi.

Gellir dewis Peiriannydd Adeiladu o blith Panel Pob Cronfa Ddŵr ar gyfer unrhyw gronfa ddŵr, ond mae paneli ychwanegol ar gael ar gyfer cronfeydd nad ydyn nhw’n cronni a chronfeydd dŵr gwasanaeth.

Rhaid i chi roi gwybod i ni am y penodiad a chyflwyno rhywfaint o wybodaeth beirianyddol benodol a hynny fwy na 28 diwrnod cyn i’r gwaith ddechrau. Gallwch ofyn i ni am ffurflen hysbysu.

Rhoi’r Gorau i Ddefnyddio Cronfa Ddŵr a Dod â Chronfa Ddŵr i Ben

Pan na fydd gyda chi bellach unrhyw ddefnydd i’ch cronfa ddŵr, neu bod y defnydd hwnnw wedi dod i ben dros dro, gallwch ystyried rhoi’r gorau i’w defnyddio neu ddod â hi i ben er mwyn lleihau neu ddiddymu’r goblygiadau sydd wedi eu gosod arnoch fel yr ymgymerwr. Ni ddylech, dan unrhyw amgylchiadau, ystyried eich cronfa ddŵr fel un y rhoddwyd gorau i’w defnyddio neu un sydd wedi dod i ben heb gyfranogiad ac ardystiad peiriannydd sifil cymwysedig. Hyd nes y byddwch wedi derbyn copi o dystysgrif y peiriannydd rhaid i chi gyflawni eich holl ymrwymiadau dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Mae hyn yn berthnasol i bob cronfa ddŵr, nid yn unig y rhai hynny sy’n gronfeydd risg uchel.

Gall peiriannydd o Banel Pob Cronfa Ddŵr gynllunio a goruchwylio rhoi’r gorau i ddefnyddio cronfa a dod â chronfa i ben, a hynny yn achos unrhyw gronfa ddŵr, ond mae paneli ychwanegol ar gael ar gyfer cronfeydd nad ydyn nhw’n cronni a chronfeydd dŵr gwasanaeth.

Rhoi’r gorau i ddefnyddio cronfa ddŵr: mae’r broses o roi’r gorau i ddefnyddio cronfa yn golygu addasu eich cronfa fel bod ei hargae neu ei harglawdd yn aros yn gyfan ond fel nad oes modd iddi gael ei llanw’n naturiol neu ar ddamwain, neu i raddau lle nad yw’n creu risg. Er mwyn rhoi’r gorau yn ffurfiol i’ch cronfa ddŵr, rhaid i chi benodi peiriannydd sifil cymwysedig. Bydd y peiriannydd yn paratoi adroddiad i chi ac yn nodi, os bydd angen, unrhyw fesurau y dylid eu cymeryd er diogelwch.

Rhaid i gronfeydd dŵr risg uchel ddal i fod â Pheiriannydd Goruchwylio penodedig a rhaid eu harchwilio’n rheolaidd yn unol ag Adran 10 y Ddeddf Cronfeydd Dŵr. 

Dod â chronfa ddŵr i ben: mae hyn yn galw am waith digonol fydd yn cadarnhau bodlonrwydd y peiriannydd nad yw eich cronfa ddŵr bellach yn gallu dal 10,000 metr ciwbig o ddŵr; i bob pwrpas:

  1. Mae’r argae neu’r arglawdd wedi ei symud yn gyfan neu’n rhannol ac nid oes dŵr yn cael ei storio uwchlaw lefel naturiol y tir, neu
  2. Mae’r gronfa ddŵr wedi ei chadw, ond mae’r capasiti wedi ei leihau islaw’r trothwy rheoleiddiol sef 10,000 metr ciwbig

Yn y naill achos a’r llall, rhaid i’r gwaith altro gael ei wneud dan gyfarwyddyd peiriannydd sifil cymwysedig. Gall y peiriannydd roi tystysgrifau interim i chi sy’n pennu lefelau dŵr diogel yn ystod y broses o ddod â chronfa i ben. Dylid anfon copi o bob tystysgrif atom ni.

Gall dod â chronfa i ben olygu ein bod ni, neu awdurdodau eraill fel eich Awdurdod Cynllunio Lleol, yn gofyn am sawl caniatâd arall.

Pan fydd yr holl waith o ddod â chronfa ddŵr i ben wedi ei gwblhau, bydd y peiriannydd yn cyflwyno tystysgrif yn cadarnhau bod y gwaith wedi ei wneud mewn ffordd effeithlon. Pan fyddwn yn derbyn y dystysgrif hon, byddwn yn tynnu’r gronfa oddi ar gofrestr y cronfeydd uwch mawr.

Cronfeydd Dŵr Risg Uchel – gofynion ychwanegol

Cofnod Ffurf Rhagnodedig (Llyfr Glas)

Rhaid i chi gadw a chynnal Cofnod Ffurf Rhagnodedig (CFfRh) ar gyfer pob cronfa ddŵr risg uchel; efallai y clywch chi eraill yn cyfeirio at y ‘Llyfr Glas’ gan mai dyma oedd lliw traddodiadol y cyhoeddiad papur. Bydd CFfRh sy’n cael ei gadw’n dda yn:

  • Cynnig gwybodaeth bwysig i chi ac i beirianwyr am y gronfa ddŵr - gwybodaeth fydd yn werthfawr os bydd unrhyw broblem yn codi all gael effaith ar ddiogelwch y gronfa
  • Gweithredu fel dyddiadur bywyd y gronfa sy’n cofnodi’i hymddygiad, problemau a’r gwaith cynnal a chadw sydd arni. Gall newidiadau bach sydd wedi eu cofnodi dros amser dynnu sylw at ddiffygion mwy difrifol

Rhaid i chi gadw’r Cofnod Ffurf Rhagnodedig yn gwbl gyfoes drwy gynnwys yr wybodaeth rydych chi’n ei chasglu o ddarlleniadau, mesuriadau, archwiliadau, apwyntiadau peirianydd, etc.

Peiriannydd Goruchwylioundefined / undefined

Os ydych yn berchen ar neu’n gweithredu cronfa ddŵr risg uchel rhaid i chi gael Peiriannydd Goruchwylio penodedig trwy’r adeg. Bydd y peiriannydd yn ymweld o dro i dro ac yn rhoi cyngor i chi ar ymddygiad y gronfa. Bydd yn paratoi adroddiad ysgrifenedig o’i ganfyddiadau ar eich cyfer bob blwyddyn; mae’r adroddiad hwn yn aml yn cael ei adnabod fel Adran 12 neu Ddatganiad Blynyddol.

Mae’r term “trwy’r adeg” yn golygu bod y peiriannydd ar gael i roi cyngor i chi, hyd yn oed os mai dros y ffôn y bydd hynny. Mae’n beth arferol iddyn nhw roi gwybod i chi am rywun fydd yn cymryd eu lle dros dro yn ystod cyfnod pan na fydd eich peiriannydd ar gael, e.e. os yw e/hi ar wyliau.

Mae modd i Beirianwyr Goruchwylio gael eu penodi i unrhyw un o’r pedwar panel.

Archwiliadau cyfnodol

Rhaid i bob cronfa ddŵr risg uchel gael ei harchwilio’n rheolaidd ar yr adegau canlynol:

  • Cyn pen dwy flynedd o dderbyn tystysgrif derfynol yn achos cronfa newydd neu un sydd wedi ei newid
  • Cyn gynted ag y bo’n ymarferol yn dilyn unrhyw waith a all gael effaith ar ddiogelwch y gronfa, lle nad oedd y gwaith wedi ei oruchwylio gan Beiriannydd Adeiladu
  • Cyn y dyddiad a nodir yn eich adroddiad archwilio diweddaraf
  • Pan fydd y Peiriannydd Goruchwylio yn rhoi gwybod i chi y dylech wneud hynny
  • Heb fod yn fwy na 10 mlynedd ers yr archwiliad diwethaf

Yn achos cronfeydd sydd newydd eu cofrestru nad oedden nhw cyn hynny mewn cyfundrefn archwilio, rhaid i chi drefnu archwiliad cyn pen un flwyddyn o dderbyn eich rhybudd o ddynodiad terfynol yn cadarnhau bod eich cronfa yn un risg uchel.

Gellir dewis Peirianwyr Archwilio o’r Panel Pob Cronfa Ddŵr ar gyfer unrhyw gronfa, ond mae paneli ychwanegol ar gyfer cronfeydd dŵr nad ydyn nhw’n cronni a chronfeydd dŵr gwasanaeth.

Bydd y Peiriannydd Archwilio yn paratoi adroddiad o’i ganfyddiadau ac argymhellion ar eich cyfer. Dylech ddarllen yr adroddiad yn ofalus a gofyn am esboniad ar unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall.

Mesurau er mwyn Diogelwch

Gall adroddiad archwilio gynnwys Argymhellion ynglŷn â Mesurau i’w cymeryd er Mwyn Diogelwch (MEMD). Dyma’r term cyfreithiol cywir am y gwaith y mae’n rhaid i chi ei wneud i sicrhau bod eich cronfa ddŵr yn aros yn ddiogel. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn deall beth mae’r peiriannydd yn ei argymell. Os na fedrwch gytuno â’r argymhellion a wnaed gan eich peiriannydd yna gellir defnyddio canolwr.

Pan fydd peiriannydd yn fodlon bod y gwaith wedi ei gwblhau, bydd yn anfon tystysgrif atoch i gadarnhau hyn. Dylai’r peiriannydd hefyd anfon copi o’r dystysgrif atom ni, a hynny cyn pen 28 niwrnod – dylech wirio hyn er mwyn gwneud yn siŵr ei fod/bod wedi gwneud hynny. I grynhoi, mae MEMD yn:

  • Bwysig gogyfer â diogelwch y gronfa ddŵr a dylech roi sylw prydlon iddynt
  • Gofynion cyfreithiol y mae’n rhaid i chi eu gosod ar waith o fewn y raddfa amser a roddwyd
  • Gallwn ni eu gorfodi

Mesurau er mwyn Cynnal a Chadw

Gall eich Peiriannydd Archwilio argymell Mesurau er Mwyn Cynnal a Chadw (MEMCCh). Rydym yn argymell eich bod yn cadw cofnodion o’r gwaith hyn a’ch bod yn nodi disgrifiad ohono yn eich Cofnod Ffurf Rhagnodedig. I grynhoi, mae MEMCCh yn:

  • Weithgareddau cynnal a chadw rheolaidd i atal unrhyw ddirywiad fyddai’n cael effaith ar ddiogelwch eich cronfa ddŵr
  • Gweithgareddau gorfodol y gall methu eu cwblhau gael ei ystyried yn drosedd
Diweddarwyd ddiwethaf