Trosolwg o wlyptiroedd a adeiladwyd
Mae gwlyptiroedd naturiol yn gynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, ond maent o dan fygythiad. Gellir hefyd adeiladu gwlyptiroedd i gyflawni pwrpas penodol. Nod gwlyptiroedd a adeiladwyd yw defnyddio’r prosesau a welir mewn gwlyptiroedd naturiol i sicrhau buddion cymdeithasol ac amgylcheddol.
Y prif fanteision yw:
- gwella ansawdd dŵr, gan gynnwys trin dŵr a chael gwared ar faetholion
- arafu a/neu storio dŵr (lleihau perygl llifogydd a/neu sicrhau bod mwy o ddŵr ar gael yn ystod tywydd sych)
Mae gan wlyptiroedd a adeiladwyd hefyd y potensial ar gyfer buddion bioamrywiaeth anuniongyrchol y gellir gwneud y gorau ohonynt drwy ddylunio sympathetig.
Cynllunio eich gwlyptir a’r rheoliadau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt
Rhaid dylunio a defnyddio gwlyptiroedd a adeiladwyd i’r diben cywir i gyflawni eu canlyniadau disgwyliedig. Bydd angen cydymffurfio â deddfwriaeth a/neu bolisïau perthnasol eraill.
A oes angen trwydded ar eich gwlyptir a adeiladwyd?
Gellir adeiladu gwlyptiroedd at wahanol ddibenion ac mae gan bob un ei ofynion penodol ei hun.
Nid yw’r cyngor hwn yn ymdrin â chynefinoedd gwlyptir sy’n digwydd yn naturiol (gan gynnwys corsydd, wernydd, ffeniau, pyllau, llynnoedd ac afonydd).
Rhagor o wybodaeth am wlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer gwella ansawdd dŵr
Rhagor o wybodaeth am wlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer arafu a storio dŵr
Rhagor o wybodaeth am wlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd