Ailgylchu yn y gweithle: gwahanu eich gwastraff ar gyfer ei gasglu

Rhaid i bob gweithle wahanu gwastraff penodol y gellir ei ailgylchu fel y bydd yn barod i'w gasglu.

Rhaid i gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu gasglu'r gwastraff hwn ar wahân a'i gadw ar wahân.

Gwastraff y mae'n rhaid i chi ei wahanu

Rhaid i weithleoedd wahanu’r mathau canlynol o wastraff ar gyfer ei gasglu:

  • Gwastraff bwyd
  • Gwydr
  • Papur a chardfwrdd
  • Metelau a chartonau
  • Tecstilau heb eu gwerthu
  • Offer trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu;

Er mwyn darganfod yn union pa wastraff y dylid ei roi mewn ffrwd wastraff benodol - a beth na ddylai ei roi yno - ewch yn syth i atodiadau 1-6 Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân: Cod Ymarfer Cymru (LLYW.CYMRU).

Bydd yr atodiadau yn dweud wrthych, er enghraifft, na ddylid rhoi derbynebau til, cardiau crafu a thywelion papur yn y ffrwd gwastraff 'papur a cherdyn'.

Sut i gydymffurfio â'r gyfraith 

Darllenwch Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân: Cod Ymarfer Cymru (LLYW.CYMRU). Mae’n cynnwys gwybodaeth am, er enghraifft:

  • gofynion gwahanu gweithleoedd, casglwyr a thrinwyr
  • gwastraff nad yw'n dod o dan y gofynion
  • pa wastraff i'w gynnwys, neu beidio â'i gynnwys ym mhob ffrwd
  • beth yw ystyr ‘mangreoedd annomestig’

Mae canllawiau ailgylchu yn y gweithle gan WRAP yn cynnwys canllawiau sector-benodol, a chanllawiau ar gyfer mentrau bach a chanolig.

Mae canllawiau i gasglwyr gwastraff ar sut y gallwch baratoi eich cwsmeriaid (LLYW.CYMRU) yn egluro beth mae'r gyfraith yn ei olygu i chi.

Sut rydym yn eich rheoleiddio

Ni yw’r rheoleiddiwr ar gyfer casglu gwastraff ar wahân ar gyfer gofynion ailgylchu yng Nghymru.

Mae’n bosibl y byddwn yn ymweld â chi neu’n cysylltu â chi i wirio eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth am eich trefniadau casglu gwastraff.

Cadw cofnodion i ddangos cydymffurfiaeth

Cadwch gofnodion perthnasol i ddangos cydymffurfiaeth i ni.

Gallai’r dystiolaeth hon fod yn ddogfennau yr ydych eisoes yn eu cadw, gan gynnwys:

  • nodiadau trosglwyddo gwastraff
  • cytundebau neu gontractau y gallai fod gennych wedi’u trefnu
    cwmni rheoli gwastraff
  • contractau sydd gennych gyda'ch cwsmeriaid os ydych yn gasglwr

Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gyfraith, gallai olygu fod eich gweithle yn cael dirwy. 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf