Nodi, dosbarthu a rheoli gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus (POPs)

Rhaid i chi ddilyn y canllaw hwn os ydych yn ymdrin â gwastraff sy’n cynnwys llygrydd organig parhaus.

Sylweddau cemegol yw llygryddion organig parhaus nad ydynt yn dadelfennu yn yr amgylchedd. Maent yn beryglus i iechyd dynol a’r amgylchedd.

Darganfod a yw eich gwastraff yn cynnwys llygryddion organig parhaus

Chi sy’n gyfrifol, o dan eich dyletswydd gofal, am wybod a yw eich deunydd gwastraff yn cynnwys llygryddion organig parhaus.

Darganfyddwch pa fathau o’r canlynol sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus:

Os nad ydych yn siŵr ynghylch mathau eraill o wastraff, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i gyflenwr neu wneuthurwr y deunydd
  • profi’r deunydd eich hun i ddarganfod crynodiad unrhyw lygryddion organig parhaus sydd ynddo
  • trefnu i’r deunydd gael ei ddadansoddi gan labordy

Disgrifio a dosbarthu gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

  • Rhaid i chi ddarparu disgrifiad cywir o’ch gwastraff fel rhan o’ch dyletswydd gofal.
  • Rhaid i chi gynnwys llygryddion organig parhaus yn y disgrifiad pan fônt yn bresennol.

Didoli a storio gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus yn ddiogel

Rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i osgoi cymysgu gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus â gwastraff arall wrth ei storio, ei gasglu a’i drin.

Os byddwch chi’n cymysgu gwastraff, bydd yn rhaid i chi reoli’r llwyth cyfan fel pe bai’n wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus. Rhaid i chi ddinistrio’r llygryddion organig parhaus hyd yn oed os yw’r ffaith bod y gwastraff wedi’i gymysgu wedi gwanhau lefel y llygryddion hyn fel ei bod yn is na’r terfyn crynodiad.

Pryd y mae’n rhaid i chi ddinistrio’r llygryddion organig parhaus mewn gwastraff

Os yw lefel y llygryddion organig parhaus yn y gwastraff ar yr un lefel neu’n uwch na’r terfynau crynodiad a restrir yn y tabl terfynau crynodiad, gelwir y gwastraff yn wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus.

Rhaid i chi ddinistrio (neu drawsnewid yn ddiwrthdro) y llygryddion organig parhaus mewn gwastraff sy’n cynnwys y llygryddion hyn.

Os ydych yn adfer neu’n cael gwared ar wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus, rhaid i chi ddarllen yr adran ar sut i reoli gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus yn y canllaw hwn.

Mae’n egluro pryd y mae’r allbynnau o’ch proses yn wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus a sut mae terfynau crynodiad yn cael eu cymhwyso iddynt.

Tabl terfyn crynodiad

Llygrydd organig parhaus

Trothwy crynodiad

Aldrin

50mg y kg

Alcanau C10 – C13, cloro (paraffinau clorinedig cadwyn fer) (SCCPs)

10,000mg y kg

Clordan

50mg y kg

Dieldrin

50mg y kg

Endosylffan

50mg y kg

Endrin

50mg y kg

Heptaclor

50mg y kg

Hecsabromobiffenyl

50mg y kg

Hecsaclorobiwtadeuen

100mg y kg

Hecsabromoseiclododecan

1,000mg y kg

Hecsaclorobensen

50mg y kg

Mirecs

50mg y kg

Tocsaffen

50mg y kg

Biffenylau polyclorinedig (PCBs)

50mg y kg (os nad ydych yn siŵr a ydyw eich gwastraff yn cynnwys PCBs, defnyddiwch y dull cyfrifo a roddir yn safonau Ewropeaidd EN 12766-1 ac EN 12766-2, y gallwch eu prynu ar-lein)

Naffthalenau polyclorinedig

10mg y kg

DDT (1,1,1-tricloro-2,2-bis (4-cloroffenyl)ethan)

50mg y kg

Clordecon

50mg y kg

Dibenso-p-deuocsinau polyclorinedig (PCDDs) a dibensoffwranau polyclorinedig (PCDFs)

15μg (microgramau) y kg, sy’n golygu 0.000015g o PCDD neu PCDF fesul kg o wastraff (mae angen i chi ddefnyddio ffactor cywerthedd gwenwynig pob PCDD neu PCDF i gyfrifo’r crynodiad)

Hecsacloroseiclohecsanau, gan gynnwys lindan

50mg y kg

Cyfanswm yr tetra-, penta-, hecsa-, hepta- a deca- bromodiffenyl ether

Swm y crynodiadau: 1,000mg y kg

Asid sylffonig perfflworo-octan (PFOS) a deilliadau PFOS

50mg y kg

Pentaclorobensen

50mg y kg


Gallwch ddod o hyd i’r fformiwlâu cemegol, rhifau’r Gymuned Ewropeaidd (CE) a rhifau’r Gwasanaeth Crynodebau Cemegol (CAS) ar gyfer pob un o’r POPs yn y tabl hwn yn y rhestr o lygryddion organig parhaus.

Mae’n bosibl y bydd eich dadansoddiad labordy yn tanamcangyfrif yn sylweddol y crynodiad o lygryddion organig parhaus sy’n bresennol mewn rhai deunyddiau os yw effeithlonrwydd y broses echdynnu yn wael. Er enghraifft, polybromodiffenyl etherau (PBDEs) mewn plastig. Rhaid i chi fesur effeithlonrwydd y broses echdynnu ac addasu’r canlyniadau yn unol â hynny.

Tynnu deunydd sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus o’r gwastraff

Gallwch anfon eich gwastraff i waith trin awdurdodedig addas a all wahanu’r eitemau, y cydrannau, neu’r deunyddiau sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus oddi wrth y gwastraff arall neu’r deunyddiau eraill. Er enghraifft, gellir ei anfon i safle sy’n defnyddio proses gwahanu drwy ddwysedd i wahanu plastigion sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus gwrthdan brominaidd oddi wrth blastigion eraill.

Rhaid dinistrio’r eitemau, y cydrannau, neu’r deunyddiau sydd wedi’u gwahanu sy’n cynnwys y llygryddion organig parhaus.

Ni ddylid cymysgu gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus â gwastraff arall cyn nac yn ystod y gwahanu.

Dinistrio’r rhan o’ch gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Rhaid i chi anfon y gwastraff i safle gwaredu neu adfer awdurdodedig addas a all wneud un o’r canlynol:

  • dinistrio’r llygryddion organig parhaus yn llwyr
  • trawsnewid y llygryddion organig parhaus yn ddiwrthdro

Rhaid iddynt ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

  • D9 – triniaeth ffisigo-gemegol, fel dinistrio cemegol
  • D10 – llosgi ar dir
  • R1 – defnyddio’r gwastraff fel tanwydd neu fel dull arall o gynhyrchu ynni mewn rhyw ffordd arall (nid ar gyfer deunydd sy’n cynnwys PCBs)
  • R4 - ailgylchu neu adfer metelau a chyfansoddion metel, o dan yr amodau a nodir yn Atodiad V, i Ran 1 o’r Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus

Bydd y dull priodol i’w ddefnyddio yn seiliedig ar y canlynol:

  • priodweddau’r llygrydd organig parhaus
  • y math o wastraff sy’n cynnwys y llygrydd organig parhaus
  • cemegion neu ddeunydd arall sy’n bresennol yn y gwastraff

Ailbecynnu a storio gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Dim ond cyn gwneud y canlynol y gallwch ailbecynnu neu storio dros dro wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus:

  • ei ddinistrio
  • ei drawsnewid yn ddiwrthdro
  • gwahanu eitemau, cydrannau neu ddeunyddiau sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Rhaid bod gennych awdurdodiad sy’n caniatáu’r gweithgaredd hwn.

Ailgylchu, adfer ac ailddefnyddio gwastraff sydd wedi’i wahanu oddi wrth wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Gall gweithredwr drin y gwastraff er mwyn tynnu neu wahanu deunyddiau sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus oddi wrth y deunyddiau nad ydynt yn eu cynnwys. Rhaid iddynt ddinistrio’r llygryddion organig parhaus yn y deunyddiau sy’n eu cynnwys. Gallant ailddefnyddio, ailgylchu neu adfer y deunyddiau sydd wedi’u gwahanu nad ydynt yn cynnwys llygryddion organig parhaus.

Ni chewch ailgylchu nac ailddefnyddio unrhyw wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus. Rhaid dinistrio’r llygryddion organig parhaus.

Gallwch adfer gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus pan fo’r broses adfer yn dinistrio llygrydd o’r fath. Er enghraifft, llosgi gan adennill ynni.

Cael gwared ar wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus drwy ei storio yn barhaol

Mewn achosion eithriadol gall deiliad gwastraff wneud cais am ganiatâd i storio rhai mathau o wastraff a gwastraff peryglus sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus yn barhaol. Gallant wneud hyn yn lle eu dinistrio.

I gael cymeradwyaeth, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • darparu gwybodaeth am y llygryddion organig parhaus y mae’r gwastraff yn ei gynnwys
  • esbonio lle bydd y gwastraff yn cael ei storio’n barhaol, a dangos bod y safle wedi’i awdurdodi ar gyfer storio’n barhaol wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus
  • dangos nad yw’n ymarferol dihalogi’r gwastraff
  • dangos bod storio’rgwastraff yn barhaol yn well o ran yr amgylchedd nag yw dinistrio neu drawsnewid yn ddiwrthdro y llygryddion organig parhaus y mae’r gwastraff yn ei gynnwys

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y byddwn yn rhoi caniatâd, a hynny fesul achos.

Anfonwch e-bost i chemicals@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os ydych am drafod yr opsiwn hwn.

Lle gallwch storio deunydd yn barhaol

Os byddwn yn cymeradwyo eich cais i storio gwastraff yn hytrach na’i ddinistrio, gallwch ei storio ar y mathau canlynol o safleoedd y maent wedi’u hawdurdodi’n safleoedd sy’n addas ar gyfer storio gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus:

  • ffurfiannau craig galed dwfn o dan y ddaear
  • mwyngloddiau halen
  • safleoedd tirlenwi gwastraff peryglus

Ni allwch wneud cais i wneud hyn mewn safle tirlenwi gwastraff peryglus oni bai bod eich gwastraff wedi’i restru yn Atodiad V, Rhan 2 o’r Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus. Rhaid i lefelau’r llygryddion organig parhaus fod yn is na’r terfynau crynodiad a nodir yn y tabl yn yr Atodiad hwnnw.

Ar hyn o bryd, mwynglawdd halen Minosus Veolia yn Swydd Caer yw’r unig safle yn y Deyrnas Unedig lle gallwch storio’n barhaol wastraff penodol sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus. Anfonwch e-bost i chemicals@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i drafod safleoedd eraill sydd y tu allan i’r DU.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf